Ofcom-IWF-(web)v2

Ofcom ac IWF yn atgyfnerthu eu partneriaeth yn y frwydr yn erbyn cam-drin plant yn rhywiol ar-lein

Cyhoeddwyd: 29 Ionawr 2026

Mae cytundeb newydd rhwng Ofcom a'r Internet Watch Foundation wedi cryfhau ymrwymiad y DU i atal delweddau cam-drin plant yn rhywiol ar-lein. 

Llofnododd y ddau sefydliad femorandwm cyd-ddealltwriaeth newydd ym mis Tachwedd, sy'n adeiladu ar eu perthynas gref bresennol ac yn gosod y sylfaen ar gyfer sut y gall yr Internet Watch Foundation (IWF) gynorthwyo Ofcom yn ei ddyletswyddau.

Fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU, gwaith Ofcom yw sicrhau bod safleoedd ac apiau yn cymryd camau priodol i ddiogelu pobl yn y DU rhag cynnwys a gweithgarwch anghyfreithlon. Mae lledaenu deunydd cam-drin plant yn rhywiol (CSAM) ar-lein yn achosi niwed dinistriol i ddioddefwyr ac mae bwrw ymlaen gyda’r gwaith yn parhau i fod yn un o flaenoriaethau mwyaf Ofcom.

Yr IWF yw'r llinell gymorth fwyaf yn Ewrop sy'n ymroddedig i ddod o hyd i ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol a chwael gwared arno o'r rhyngrwyd. Dyma'r unig sefydliad nad yw'n gorfodi'r gyfraith sydd â mynediad i Gronfa Ddata Delweddau Cam-drin Plant (CAID) ddiogel y Llywodraeth, ac mae hyd yn hyn wedi asesu a graddio mwy na dwy filiwn o ddelweddau– gan sicrhau y gellir eu blocio a'u hatal rhag cael eu rhannu yn y dyfodol.

Mae sefyllfa unigryw'r IWF yn ei gwneud yn bartner hanfodol yn y frwydr yn erbyn y drosedd erchyll hon. Bydd ei ddata a'i fewnwelediadau yn parhau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu polisïau Ofcom ac yn darparu gwybodaeth a chyngor ar y dirwedd o ran y bygythiad sy'n esblygu ynghylch CSAM. Bydd y ddau sefydliad yn gweithio gyda'i gilydd i yrru cydymffurfiaeth â'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein.

Mae'r IWF yn barod i weithio gyda chwmnïau i'w helpu i wneud llwyfannau mor ddiogel â phosibl a chyflawni eu rhwymedigaethau o dan y Ddeddf, a thu hwnt.

Dywedodd Oliver Griffiths, Cyfarwyddwr Grŵp Diogelwch Ar-lein Ofcom: "Mae'r gwaith y mae’r IWF yn ei wneud yn amhrisiadwy – gan helpu i ddileu miliynau o ddelweddau cam-drin plant yn rhywiol afiach, a chynorthwyo asiantaethau gorfodi yn eu dyletswyddau. 

"Ond mae adroddiadau'r IWF hefyd yn tanlinellu graddfa'r broblem y mae angen i blatfformau ar-lein fynd i'r afael â hi. Mae newid yn digwydd, ond mae angen i ni weld llawer mwy gan gwmnïau technoleg eleni a byddwn yn defnyddio ein pwerau llawn os ydyn nhw'n methu.

"Mae'r partneriaethau cryf rydyn ni wedi'u hadeiladu gyda sefydliadau fel yr IWF yn chwarae rhan allweddol yn ein gwaith i greu bywyd mwy diogel ar-lein a dal paltfformau i gyfrif."

Dywedodd Kerry Smith, Prif Weithredwr yr IWF: "Mae graddfa delweddau cam-drin plant yn rhywiol ar-lein yn realiti sy’n peri pryder mawr, sy'n gofyn am ymateb clir a diamwys, ac mae cydweithredu cryf a chydlyniant yn allweddol i droi'r llanw.

"Rwyf mor falch i weld y memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn ar waith gydag Ofcom. Mae gan yr IWF rôl gwbl hanfodol i'w chwarae, a bydd ein harbenigedd, ein gwybodaeth a'n data yn ganolog i sicrhau bod y Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn cael ei gorfodi'n llawn i gadw plant yn ddiogel ar-lein.

"Mae hwn yn gam mawr i sicrhau bod sylfeini cryf i’r frwydr yn erbyn delweddau cam-drin plant yn rhywiol ar-lein yn y DU." 

Pan ddaeth dyletswyddau newydd ar blatfformau i rym y llynedd o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, lansiodd Ofcom gamau gorfodi ar unwaith i asesu'r mesurau diogelwch sy'n cael eu cymryd gan wasanaethau rhannu ffeiliau, sy'n arbennig o agored i gael eu hecsbloetio gan droseddwyr i ddosbarthu CSAM ar raddfa fawr.

Fel rhan o'r gweithgarwch hwn, mae Ofcom wedi gweithio'n agos gydag asiantaethau gorfodi'r gyfraith a sefydliadau eraill – gan gynnwys yr IWF – i nodi gwasanaethau ar-lein sydd â'r perygl uchaf o gynnal CSAM.

Mewn ymateb i gamau gorfodi Ofcom, mae rhai gwasanaethau bellach wedi defnyddio technoleg paru hash canfyddiadol - offeryn awtomataidd pwerus sy'n gallu canfod a chael gwared ar CSAM yn gyflym cyn iddo ledaenu ymhellach, sy'n un o'r mesurau diogelwch craidd a nodir yng nghodau ymarfer niwed anghyfreithlon Ofcom.

Mae darparwyr eraill wedi cymryd camau i atal pobl yn y DU rhag cael mynediad i'w safleoedd. Mae hyn wedi lleihau'n sylweddol y tebygolrwydd y bydd pobl yn y DU yn agored i gynnwys anghyfreithlon ar y gwasanaethau hyn.