
Heddiw, mae Ofcom wedi lansio ymchwiliadau i pum cwmni – sydd yn gyfunol yn rhedeg o leiaf 22 o wefannau pornograffi – o dan reolau newydd gwirio oedran yn Neddf Diogelwch Ar-lein y DU.
Dyletwswyddau newydd
Ar 25 Gorffennaf, daeth rheolau newydd o dan y Ddeddf i rym, gan ei gwneud hi’n ofynnol i wefannau sy’n galluogi defnyddwyr i uwchlwytho deunydd pornograffig i ddefnyddio gwiriadau oedran hynod o effeithiol er mwyn atal plant rhag cael mynediad i’r cynnwys hwnnw.
Ers hynny, rydym wedi bod yn gwirio cydymffurfiaeth â'r dyletswyddau newydd hyn, ac mae’r 10 safle mwyaf poblogaidd - ynghyd â nifer o wefannau llai – wedi cyflwyno gwiriadau oedran ar gyfer defnyddwyr y DU.
Ymchwiliadau newydd
Rydym wedi agor ymchwiliadau ffurfiol i weld a oes gan y darparwyr canlynol wiriadau oedran hynod effeithiol ar waith i amddiffyn plant rhag dod ar draws pornograffi ar draws 22 o wefannau: Cyberitic, LLC, Web Prime Inc, Youngtek Solutions Ltd, ZD Media s.r.o a Darparwr xgroovy. Os byddwn yn canfod unrhyw wefannau pellach caiff eu rhedeg gan y cwmnïau hyn, byddant yn cael eu hychwanegu at ein hymchwiliadau.
Mae'r gwefannau hyn wedi cael eu blaenoriaethu yn seiliedig ar y risg o niwed y maent yn ei achosi a nifer o ddefnyddwyr gan gynnwys lle bu cynnydd sylweddol yn nifer eu defnyddwyr ers y dyddiad cau ar 25 Gorffennaf. Gyda'i gilydd, mae gan y gwefannau hyn dros 8 miliwn o ymwelwyr misol unigryw yn y DU. [1]
Mae’r achosion newydd hyn yn ychwanegu at y 47 o ymchwiliadau i wefannau ac apiau eraill y mae Ofcom yn ymchwilio iddynt ar hyn o bryd
Ehangu dau ymchwiliad cyfredol
Hefyd rydym yn ehangu cwmpas ein hymchwiliadau presennol i 8579 LLC ac Itai Tech.
Yn ogystal ag ymchwilio i'w cydymffurfiaeth â ’r gofyniad i gyflwyno gwiriadau oedran ar gyfer cynnwys pornograffig, rydym hefyd bellach yn ymchwilio i weld a ydynt wedi methu ag ymateb yn ddigonol i geisiadau am wybodaeth statudol gan Ofcom.
Camau nesaf
Byddwn nawr yn casglu ac yn dadansoddi tystiolaeth i benderfynu a oes unrhyw achosion o dorri rheolau wedi digwydd. Os yw ein hasesiad yn nodi methiannau cydymffurfio, byddwn yn cyhoeddi hysbysiadau dros dro o dorri i ddarparwyr, a all wedyn wneud sylwadau ar ein canfyddiadau, cyn i ni wneud ein penderfyniadau terfynol.
Byddwn yn darparu;r wybodaeth ddiweddariaf am r yr ymchwiliadau hyn cyn gynted â phosibl.
Pwerau gorfodi
Pan fyddwn yn nodi methiannau cydymffurfio, gallwn ei gwneud yn ofynnol i lwyfannau gymryd camau penodol i gydymffurfio. Gallwn hefyd osod dirwyon o hyd at £18m neu 10% o refeniw cymwys byd-eang , pa un bynnag sydd fwyaf.
Lle bo'n briodol, yn yr achosion mwyaf difrifol, gallwn geisio gorchymyn llys ar gyfer 'mesurau tarfu ar fusnes', megis ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr taliadau neu hysbysebwyr dynnu eu gwasanaethau yn ôl o blatfform, neu ei gwneud yn ofynnol i Ddarparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd rwystro mynediad i’w safle yn y DU.
Nodiadau i Olygyddion:
- Ffynhonnell: SimilarWeb, data Gorffennaf 2025. Gall defnyddwyr gael eu dyblygu ar draws safleoedd.
Cynnwys cysylltiedig