Mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn rhoi dyletswydd ar Ofcom i gyhoeddi adroddiad statudol ar gynnwys sy'n niweidiol i blant o leiaf bob tair blynedd, gyda'r adroddiad cyntaf i’w gyhoeddi erbyn 26 Hydref 2026. Dyma alwad am dystiolaeth i gefnogi'r adroddiad cyntaf hwnnw, a fydd yn adeiladu ar ein hasesiad o gynnwys sy'n niweidiol i blant yn ein Cofrestr Risgiau Plant, Ebrill 2025.
Rydym yn chwilio am dystiolaeth ar y canlynol:
- nifer yr achosion o gynnwys sy'n niweidiol i blant ar wasanaethau rheoleiddiedig defnyddiwr-i-ddefnyddiwr, chwilio a/neu gyfunol. Mae hyn yn cynnwys nifer, cyffredinrwydd neu bresenoldeb cynnwys o'r fath ar y gwasanaethau hyn a pha mor aml y mae plant yn dod ar eu traws.
- y niwed y mae plant yn y DU yn ei ddioddef neu y gallent ei ddioddef o ganlyniad i ddod ar draws cynnwys sy'n niweidiol i blant. Dylai'r dystiolaeth hon ganolbwyntio ar niwed corfforol neu seicolegol i blant.
- tystiolaeth sy'n awgrymu y gallai fod yn briodol gwneud newidiadau i'r mathau o PPC a PC yn y Ddeddf ac, os felly, pa newidiadau fyddai'n briodol.
Ymateb i'r Alwad hon am Dystiolaeth
Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb erbyn 5pm, 10 Mawrth fan bellaf.
Adnodd i drafod cynnwys sy'n niweidiol i blant
Mae'r ddogfen hon yn rhoi enghreifftiau o gwestiynau y mae Ofcom wedi'u gofyn yn ein hymgysylltiad â phlant 13-17 oed ynghylch cynnwys ar-lein sy'n niweidiol i blant.
Rydym yn ei chyhoeddi mewn ymateb i geisiadau gan nifer o randdeiliaid, fel ei fod ar gael i bob sefydliad a allai fod eisiau ei ddefnyddio i helpu i lywio eu gwaith. Wrth drafod y materion hyn gyda phlant, rydym yn annog rhanddeiliaid i addasu'r canllawiau hyn yn ôl yr angen ar gyfer eu sefydliad, gan gynnwys anghenion y plant y maent yn siarad â nhw, a phwrpas eu hymgysylltiad â phlant.
Ochr yn ochr ag ymchwil a thystiolaeth arall, mae gan ymgysylltu â phlant rôl hanfodol i'w chwarae wrth lunio ein hargymhellion a'r mesurau diogelwch a weithredir gan wasanaethau ar-lein, gan sicrhau bod amddiffyniadau’n realistig, yn effeithiol ac yn cyd-fynd â'r hyn sydd ei angen ar blant mewn gwirionedd. Mae plant yn dod â phersbectif unigryw ar niwed ar-lein sy'n dod i'r amlwg, yn aml yn dod yn ymwybodol ohonynt a'u profi yn uniongyrchol cyn i oedolion wneud hynny.
Mae'r cwestiynau yn y ddogfen hon yn ymwneud â phynciau a allai fod yn ofidus neu beri pryder i blant. Cyn siarad â phlant am y cwestiynau sydd wedi'u cynnwys yn y ddogfen hon, neu unrhyw gwestiynau eraill, dylai sefydliadau sy'n ymwneud â phlant sicrhau bod ganddynt brosesau priodol ar waith, gan gynnwys prosesau lles, diogelu a diogelu data. Dylai sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant geisio cyngor pan fyddant o'r farn ei bod yn briodol gwneud hynny ynghylch unrhyw faterion, gan gynnwys priodoldeb y cwestiynau a'u prosesau diogelu. Cyfrifoldeb sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant yw sicrhau eu bod yn cyflawni eu rhwymedigaethau statudol.
Cynnwys cysylltiedig