Yn Hydref/Gaeaf 2025, rydym yn bwriadu cynnal ymchwil fewnol ar draws amrywiaeth o blatfformau ar-lein i archwilio dyluniad platfform mewn perthynas â ffrydio byw. Bydd y gwaith hwn yn cefnogi’r broses o ddatblygu polisi sy'n ymwneud â'r Codau Ymarfer Diogelwch Ar-lein y mae'n ofynnol i [Ofcom] eu paratoi. Bydd ymchwilwyr Ofcom yn efelychu teithiau gwahanol fathau o ddefnyddwyr sy'n gwylio ac yn ymgysylltu â ffrydiau byw. Bydd yr holl weithgarwch yn cael ei reoli'n llym i sicrhau diogelwch ymchwilwyr a lleihau rhyngweithio â defnyddwyr.
Rhan o waith Ofcom yw cynnal ymchwil mewn cysylltiad â’n dyletswyddau sy’n ymwneud â llwyfannau rhannu fideos sydd wedi’u sefydlu yn y DU, llythrennedd yn y cyfryngau a Deddf Diogelwch Ar-lein 2023. Fel y nodir yn Natganiad Preifatrwydd Cyffredinol Ofcom, bydd hyn yn cynnwys Ofcom neu ein hasiantaethau ymchwil allanol, o bryd i’w gilydd yn creu cyfrifon ar lwyfannau rhannu fideos a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio “personau ffuglennol” sy’n galluogi rhyngweithio rhwng defnyddwyr.
O haf 2025, mae Ofcom yn bwriadu cynnal ymchwil pellach gan ddefnyddio cyfrifon a sefydlwyd gan gydweithwyr Ofcom, i brofiad defnyddwyr o gynnwys a allai fod yn niweidiol. Bydd cam cyntaf yr ymchwil hwn yn cynnwys creu sawl cyfrif ar wahanol wasanaethau (gan gynnwys llwyfannau rhannu fideos a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol) gan ddefnyddio personas ffuglennol i arsylwi a chofnodi’r cynnwys.
Yn dilyn hyn rydym yn bwriadu cynnal ail gam a all hefyd gynnwys rhai achosion o ryngweithiadau sylfaenol â chyfrifon eraill fel dilyn/cysylltu â chyfrifon eraill a hoffi cynnwys.
Bydd hyn yn nodi dechreuad Ofcom yn cynnal y mathau hyn o ymchwil i brofiadau defnyddwyr o gynnwys posibl niweidiol ar-lein ar sail reolaidd.
Yn ystod gaeaf 2025/26, gwnaethom ddefnyddio asiantaeth allanol i gynnal ymchwil i gyfrifon plant ar wahanol siopau apiau. Sefydlodd ymchwilwyr gyfrifon plant ar gyfer gwahanol oedrannau gan ddefnyddio "personâu ffug" i'n helpu i ddeall cyffredinrwydd rhai mesurau diogelu a nodweddion dylunio i blant ar siopau apiau, gan gynnwys sicrwydd oedran. Bydd yr ymchwil hon yn helpu i lywio adroddiad am y defnydd o siopau apiau gan blant y mae'n rhaid i Ofcom ei lunio o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Cafodd y gweithgarwch ei reoli’n dynn i sicrhau diogelwch yr ymchwilwyr a sicrhau cyn lleied o gysylltiad defnyddwyr â phosibl. Nid oedd yr ymchwilwyr wedi cyrchu apiau trwy'r siopau apiau fel rhan o'r ymchwil hon.
Mae fersiwn cynharach o'r hysbysiad hwn yma.
Ym mis Chwefror / Mawrth 2026, mae Ofcom yn cynnal gwaith ymchwil ar X, ac ar Grok ar X.
Mae’r gwaith hwn yn cael ei gynnal gan ymchwilwyr Ofcom, a fydd yn defnyddio cyfrifon a dyfeisiau a reolir gan Ofcom i gael mynediad at X a recordio arsylwadau a mewnwelediadau o ran ei swyddogaethau. Caiff yr holl weithgarwch ei reoli’n llym i sicrhau diogelwch ymchwilwyr a lleihau’r rhyngweithio â defnyddwyr y platfform.
Mae hyn yn cael ei gynnal mewn perthynas ag ymchwiliad parhaus Ofcom i X a'i gydymffurfiaeth â'i rwymedigaethau cyfreithiol o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein a lansiwyd ar 12 Ionawr 2026.
Yng ngwanwyn 2026, yng Ngwanwyn 2026 rydym yn bwriadu cynnal cynllun peilot mewnol byr i brofi effeithiolrwydd math penodol o ddull sicrhau oedran i'n helpu i asesu effeithiolrwydd y broses sicrwydd oedran mewn perthynas â gwasanaeth rheoledig sy'n caniatáu cynnwys pornograffig ar eu gwasanaeth.
Yn dilyn y peilot hwn, rydym yn bwriadu cynnal profion mewnol pellach gan ddefnyddio ystod o dechnegau i brofi effeithiolrwydd gwahanol fathau o ddulliau sicrwydd oedran ar draws ystod o wasanaethau rheoledig sy'n caniatáu cynnwys pornograffig. Gall y profion hyn gynnwys defnyddio "personas ffuglennol" i gofrestru i'r wefan berthnasol a mynd trwy'r daith y defnyddiwr i arsylwi’r dulliau sicrwydd oedran a ddefnyddir gan ddarparwyr gwasanaethau rheoledig fel rhan o'u proses sicrwydd oedran cyffredinol o’r dechrau i'r diwedd. Nid ydym yn rhagweld nac yn bwriadu rhyngweithio â defnyddwyr eraill ar y gwasanaeth. Rydym yn disgwyl y bydd canlyniadau'r profion hyn yn ein helpu i benderfynu a ddylid cymryd camau anffurfiol neu ffurfiol i fynd i'r afael â phrosesau sicrwydd oedran nad ydynt yn effeithiol iawn wrth atal plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig. Am y rheswm hwn, dim ond lle mae gennym reswm i amau nad yw dull sicrwydd oedran hynod effeithiol ar waith y byddwn yn cynnal yr ymarfer hwn.
Yn Haf 2026, rydym yn bwriadu cynnal ymchwil ar ystod o Ryngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau (APIs) chwilio a Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (GenAI). Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud gan ymchwilwyr Ofcom, a fydd yn defnyddio cyfrifon a dyfeisiau a reolir gan Ofcom i gael mynediad at ystod o APIs chwilio â thâl a GenAI ac arsylwi sut mae'r APIs hyn yn ymateb i ymholiadau sydd â'r potensial i gynhyrchu cynnwys sy'n niweidiol i blant.
Bwriad yr ymchwil hon yw cyfrannu at yr Adolygiad a'r Adroddiad ar Gynnwys sy'n Niweidiol i Blant a fydd yn cael eu paratoi a'i gyhoeddi gan Ofcom yn unol â gofynion adran 63 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein.