O fewn dim ond blwyddyn, mae gwiriadau oedran yn cael eu defnyddio ar raddfa na welwyd ei thebyg o’r blaen, gan sicrhau bod y DU ar flaen y gad mewn ymdrechion byd-eang i wneud profiadau ar-lein yn fwy diogel i blant, ond nid yw'r gwaith wedi'i gwblhau. Wrth i'r DU baratoi i gyflwyno gwaharddiad cyfryngau cymdeithasol i blant a phobl ifanc dan 16 oed, mae angen mwy o weithredu gan y diwydiant technoleg i gryfhau amddiffyniadau i blant ar draws y system ymhellach.
Mae'r adroddiad hwn yn asesu sut mae safleoedd ac apiau yn defnyddio gwiriadau oedran i ddiogelu plant rhag niwed ar-lein
Bellach, mae’n ofynnol i lawer o wasanaethau ar-lein defnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol i benderfynu a yw defnyddwyr yn 18 oed neu'n hŷn, i gydymffurfio â'u dyletswyddau o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. O dan y Ddeddf, mae'n ofynnol i Ofcom gynhyrchu'r adroddiad hwn i asesu sut mae gwasanaethau rheoleiddiedig wedi defnyddio sicrwydd oedran a pha mor effeithiol y mae wedi bod at ddiben cydymffurfio â'u dyletswyddau.
Mae ein hadroddiad yn tynnu ar ystod eang o dystiolaeth, gyda ffocws penodol ar y chwe mis cyntaf ers cyflwyno dyletswyddau diogelu plant ym mis Gorffennaf 2025.
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno ein canfyddiadau cynnar ar draws y sectorau pornograffi, cyfryngau cymdeithasol a chwilio am gariad ar-lein. Mae'n archwilio yr effaith caiff sicrwydd oedran ar brofiadau ar-lein plant, a’n nodi meysydd lle mae cynnydd wedi'i wneud, ac yn tynnu sylw at ble mae angen gweithredu pellach i gryfhau amddiffyniadau i blant ar-lein.
Beth mae hyn yn ei olygu i gyfyngiadau oedran arfaethedig ar gyfryngau cymdeithasol i rai dan 16 oed?
Mae'r adroddiad heddiw yn dangos pan gânt eu gweithredu'n iawn, bod gwiriadau oedran hynod effeithiol yn gweithio, a byddant yn hanfodol wrth ategu cyfyngiadau cyfryngau cymdeithasol yn y dyfodol i rai dan 16 oed.
Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i’w gwneud yn ofynnol i wasanaethau cyfryngau cymdeithasol ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol i atal plant dan 16 oed rhag cael mynediad i'w safleoedd a'u apiau. Bydd Ofcom yn cyflwyno asesiad cyflym i Senedd y DU erbyn diwedd mis Hydref o sut y gallai gwiriadau oedran hynod effeithiol weithio’n ymarferol i benderfynu a yw rhywun dros 16 oed. Bydd hyn yn helpu i lywio’r ddadl seneddol cyn i gyfyngiadau oedran posibl yn dod i rym yn 2027, gyda chanllawiau ar gyfer gwasanaethau i’w disgwyl yn y misoedd nesaf.
Mae nifer o'r materion y mae ein hadroddiad yn eu cynnwys yn berthnasol i'n hasesiad cyflym sydd ar ddod, a'r drafodaeth ehangach am gyfyngiadau i rai dan 16 oed:
- Nid oes un dull na phroses sicrwydd oedran sy'n dileu'r risg o osgoi’r cyfyngiadau. Er mwyn gwneud gwiriadau oedran yn fwy cadarn, mae dadl gref dros haenau o amddiffyniadau ar draws y system. Rydym yn disgwyl gweld mwy o arloesedd gan y diwydiant technoleg gyfan - gan gynnwys siopau apiau, systemau gweithredu ac ar lefel dyfeisiau - i gryfhau amddiffyniadau i blant.
- Er y gellir defnyddio'r dulliau a nodwyd gennym fel rhai 'hynod effeithiol' yn ein canllawiau i benderfynu a yw defnyddiwr yn oedolyn, ni fydd rhai technegau fel gwiriadau cardiau credyd yn gweithio i bobl ifanc 16 ac 17 oed, a bydd angen i gwmnïau ddefnyddio dulliau eraill.
- Rydym eisoes wedi diystyru rhesymu oedran fel sicrwydd oedran hynod effeithiol ar gyfer safleoedd porn a safleoedd ac apiau eraill sy'n ofynnol i atal mynediad i blant. Mae ein barn yn parhau i fod yn ddigyfnewid na all rhesymu oedran fod yn briodol at ddibenion y gwaharddiad na gorfodi’r isafswm oedran - oherwydd dim ond ar ôl i'r plentyn gofrestru a defnyddio'r gwasanaeth am ddigon o amser i'r rhesymu gael ei wneud y gellir ei ddefnyddio. O’r herwydd, rhaid i safleoedd ac apiau gryfhau eu dull gweithredu.
Mae hefyd yn amlwg bod cwmnïau cyfryngau cymdeithasol wedi methu â gorfodi eu gofynion isafswm oedran yn iawn. Ynghyd â chanfyddiadau ein hadroddiad, mae hyn yn dangos y bydd angen i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol fabwysiadu dull mwy effeithiol i sicrhau bod unrhyw gyfyngiadau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer plant dan 16 oed yn gweithio’n ymarferol.
Fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf, rydym hefyd yn edrych ar amddiffyniadau ar gyfer siopau apiau, a byddwn yn cyhoeddi adroddiad statudol ar hyn erbyn Ionawr 2027.
Rhaid i ddiwydiant gymryd camau i wella amddiffyniadau i blant
Yng ngoleuni'r dystiolaeth yn ein hadroddiad, heddiw rydym yn galw ar wasanaethau i weithredu i gryfhau amddiffyniadau i blant:
- Rhaid i wasanaethau pornograffi heb wiriadau oedran gyflwyno sicrwydd oedran hynod effeithiol heb oedi, yn unol â'n canllawiau.
- Yn dilyn ymgysylltu, mae Google a Bing wedi cytuno i weithio gydag Ofcom a rhanddeiliaid perthnasol eraill i archwilio atebion ymarferol i fynd i'r afael â chanfyddadwyedd gwasanaethau pornograffi heb amddiffyniadau trwy beiriannau chwilio. Rydym yn croesawu'r ymdrechion hyn ac yn annog gwasanaethau chwilio eraill ac actorion yn y diwydiant i weithio'n adeiladol gyda ni i ddarparu profiadau mwy diogel i blant.
- Dylai gwasanaethau sy'n defnyddio dull rhesymu oedran i gydymffurfio â'u dyletswyddau diogelu plant newid i ddulliau eraill a restrir yn ein canllawiau fel rhai hynod effeithiol heb oedi. Os na wnânt hynny, rhaid iddynt allu profi gan ddefnyddio tystiolaeth ddibynadwy a chymhellol i Ofcom fod eu dull presennol yn hynod effeithiol.
- Rhaid i wasanaethau sydd â sicrwydd oedran ar waith sicrhau ei fod yn hynod effeithiol heb unrhyw oedi pellach. Yn seiliedig ar ein tystiolaeth, rydym wedi nodi tri maes i'w gwella yr ydym yn annog gwasanaethau i'w gweithredu lle bo'n berthnasol:
- Dilyn ein canllawiau HEAA yn llawn
- Cynnal diwydrwydd dyladwy rheolaidd ar unrhyw werthwyr sicrwydd oedran rydych chi'n eu cyflogi
- Cydymffurfio â'ch rhwymedigaethau preifatrwydd a diogelu data
Dylai gwasanaethau ymgynghori â'n canllawiau ar sicrwydd oedran hynod effeithiol, adolygu eu proses sicrwydd oedran presennol yn erbyn y meysydd hyn i’w gwella a gweithredu gwelliannau ar frys. P’un a yw’n cael ei weithredu gan y gwasanaeth eu hunain neu wedi'i gontractio i werthwr trydydd parti, cyfrifoldeb y gwasanaeth rheoleiddiedig yw sicrhau bod y broses sicrwydd oedran hynod effeithiol.
Mae Ofcom yn parhau i flaenoriaethu gorfodi amddiffyniadau presennol i blant o dan y Ddeddf. Ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau gorfodi yn erbyn gwasanaethau yn seiliedig ar y risg o niwed y maent yn ei achosi, gan gynnwys canolbwyntio ar safleoedd porn sy'n cynyddu eu nifer eu defnyddwyr o ganlyniad i fethu â rhoi gwiriadau oedran ar waith. Os ydynt yn dal i fethu â chydymffurfio yn dilyn camau gorfodi, byddwn yn defnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i ni.