Diffodd rhwydweithiau 2G a 3G: Cyngor i gyflenwyr dyfeisiau’r Rhyngrwyd Pethau (IoT) a thrydydd parti

Cyhoeddwyd: 8 Medi 2023
Diweddarwyd diwethaf: 19 Mehefin 2026

Mae rhwydweithiau symudol 3G bellach wedi'u diffodd. Mae darparwyr rhwydwaith symudol y DU yn diffodd eu rhwydweithiau 2G yn raddol dros y blynyddoedd nesaf. Mae'r dudalen hon yn esbonio sut y gall cyflenwyr Rhyngrwyd Pethau (IoT) a dyfeisiau trydydd parti helpu eu cwsmeriaid yn ystod y cyfnod hwn o newid.

Beth sy'n digwydd?

Cadarnhaodd gweithredwyr rhwydweithiau symudol y DU i Lywodraeth y DU y byddant yn diffodd rhwydweithiau symudol 2G a 3G i gefnogi'r gwaith o gyflwyno rhwydweithiau 4G a 5G, a fydd yn cynnig gwasanaethau cyflymach a mwy dibynadwy i gwsmeriaid.

Mae rhwydweithiau 3G wedi'u diffodd erbyn hyn (gan fod MNOs y DU, Vodafone, EE, Three ac O2 i gyd wedi gorffen diffodd eu rhwydweithiau 3G).

Bydd rhwydweithiau 2G yn cael eu diffodd dros y blynyddoedd nesaf.

Mae pob MNO yn gosod ei amserlen ei hun ar gyfer diffodd ei rwydwaith 2G. Efallai y bydd yr amseroedd hyn yn newid, a dylech edrych ar wefan eich darparwr symudol am y diweddariadau diweddaraf:

  • Mae EE wedi cyhoeddi y bydd yn dechrau diffodd ei rwydwaith 2G ym mis mis Mai 2029.
  • Mae VodafoneThree wedi cyhoeddi y bydd yn diffodd rhwydwaith Vodafone 2G yn ystod 2030 (nid oes gan Three rwydwaith 2G).
  • Mae O2 wedi cyhoeddi y bydd yn diffodd ei rwydwaith 2G gan ddechrau yn Haf 2029.
    Dechreuodd O2 dynnu'n ôl mynediad i'w rwydwaith 2G i wasanaethau crwydro o dramor o 1 Hydref 2025. Roedd hyn yn golygu na fydd dyfeisiau 2G sy'n defnyddio SIM crwydro rhyngwladol gan ddarparwyr tramor bellach yn gallu cysylltu â rhwydwaith 2G O2.

Ym mis Mawrth 2026, cyhoeddodd y Llywodraeth y DU siarter diffodd 2G wirfoddol, sy'n nodi ymrwymiadau gan MNOs i gefnogi proses bontio ddidrafferth oddi wrth wasanaethau 2G.

Ein rôl a'r hyn rydym yn ei ddisgwyl gan ddarparwyr symudol

MNOs sy’n gyfrifol am amseru'r broses ddiffodd, ond rydyn ni am sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg a’u bod yn gallu parhau i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Gyda hynny mewn golwg, rydym wedi nodi sut rydym yn disgwyl i ddarparwyr symudol fynd ati i ddiffodd eu gwasanaethau. Mae'r ddogfen hefyd yn esbonio'r gofynion rheoleiddiol perthnasol y bydd angen i ddarparwyr eu bodloni yn ystod y broses hon.

Bydd y broses ddiffodd yn effeithio ar lawer o ddyfeisiau eraill hefyd

Yn ogystal â ffonau symudol, mae yna lawer o ddyfeisiau eraill sy'n defnyddio rhwydweithiau symudol i gysylltu. Mae'r rhain yn cynnwys larymau teleofal, larymau diogelwch, larymau tân, ATMs a therfynellau talu (payment terminals).

Er bod y dyfeisiau mwy newydd yn defnyddio 4G fel rheol, mae llawer o ddyfeisiau hŷn yn dal i ddibynnu ar dechnoleg 2G hŷn. Bydd angen uwchraddio pob dyfais 2G yn unig i ddyfais 4G o leiaf.

Mae Ofcom eisiau sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu parhau i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, heb llawer o aflonyddwch. Rydym wedi ymgysylltu â gwahanol sectorau am y newidiadau rhwydwaith ac wedi llunio’r cyngor hwn i gyflenwyr ar reoli'r newid.

Cyn darllen y cyngor atodol hwn, darllenwch ein disgwyliadau o ddarparwyr symudol.

Helpwch gwsmeriaid drwy'r newid

Os ydych chi'n darparu gwasanaeth (fel teleofal) sy'n dibynnu ar rwydweithiau 2G, yna rydych chi'n gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau ar ôl i rwydweithiau 2G gael eu diffodd. Gallai'r cyfrifoldeb hwn fod yn rhan o rwymedigaethau cytundebol sydd gennych gyda'ch cwsmeriaid, yn ogystal ag unrhyw ofynion rheoleiddiol sy'n bodoli eisoes.

Bydd y rhan fwyaf o ddyfeisiau yn dal i allu defnyddio 2G ar gyfer galwadau llais a gwasanaethau data cyfyngedig nes bod y rhwydweithiau 2G yn cael eu diffodd. Os oes gan ddyfais SIM sy'n gallu gweithio ar rwydwaith 3G yn unig, nid yw'r ddyfais hon bellach yn gweithio gan fod y rhwydweithiau 3G wedi'u diffodd.

Os yw dyfais yn defnyddio 2G, yna bydd angen i chi ddatblygu cynllun mudo gyda'r amseroedd diffodd 2G mewn golwg. Os yw dyfais yn defnyddio SIM crwydro, bydd angen i chi wneud gwaith i ddeall sut y gall newidiadau i rwydweithiau 2G effeithio arnoch chi (gweler yr adran isod am fwy o fanylion).

Dylech hefyd ystyried:

  • cyfathrebu â’ch cwsmeriaid i'w gwneud yn ymwybodol o unrhyw newidiadau angenrheidiol ac erbyn pryd y bydd angen iddynt ddigwydd; a
  • cymryd unrhyw gamau angenrheidiol i nodi cwsmeriaid y gallai'r broses ddiffodd effeithio arnynt a lleihau unrhyw risgiau cysylltiedig.

Efallai y bydd yn cymryd ychydig o amser i ddod o hyd i ddyfeisiau addas, sydd wdi’u galluogi ar gyfer 4G, ac mewn rhai achosion, disodli'r offer rydych chi wedi'i osod yn gorfforol. Felly mae'n bwysig cyfathrebu'n glir a rhoi digon o rybudd, gan ddefnyddio'r cynlluniau a gyhoeddwyd gan MNOs.

Ystyriwch SIMs crwydro

Darperir y rhan fwyaf o SIMs gan weithredwr rhwydwaith symudol (fel VodafoneThree, O2 neu EE), neu gan weithredwr rhithwir neu ailwerthwr (fel Lebara, Asda Mobile neu Lycamobile). Rydym yn disgwyl i'r gweithredwyr hyn weithio gyda defnyddwyr trydydd parti eu rhwydweithiau i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl wrth i 2G gael ei ddiffodd.

Fodd bynnag, mae rhai o'r dyfeisiau hyn yn dibynnu ar 'SIM crwydro' 2G (fel arfer SIMs o’r tu allan i’r DU a ddaeth i'r DU), sy'n crwydro rhwng y rhwydweithiau symudol sydd ar gael i ddarparu cysylltedd data.

Mae darparwyr gwasanaeth yn aml yn dewis y mathau hyn o SIM fel bod ganddynt fynediad at rwydweithiau’r holl weithredwyr, gan olygu bod ganddynt y siawns orau o gael signal da a chysylltedd dibynadwy ar gyfer eu gwasanaeth.

Oherwydd nad oes gan y darparwyr gwasanaeth hyn berthynas uniongyrchol â MNOs, ac yn aml mae cadwyn gyflenwi hir trwy wahanol gyfryngwyr, nid yw mor hawdd dweud wrth bawb bod y diffodd yn digwydd, a gwneud yn siŵr eu bod yn uwchraddio eu dyfeisiau.

Rydym yn deall efallai na fydd yn hawdd i MNOs adnabod y gwasanaethau hyn, o ystyried nad nhw yw eu cwsmeriaid uniongyrchol, ac efallai y byddai'r SIMs wedi cael eu cyflenwi gan bartneriaid rhyngwladol.

Mae'n bwysig bod MNOs a chyflenwyr gwasanaethau symudol eraill (fel SIM crwydro) yn gweithio'n agos gyda'u cwsmeriaid i leihau unrhyw darfu ar wasanaethau.

Dylai cyflenwyr a defnyddwyr SIM crwydro ymgymryd â gwaith nawr i ddeall sut y gall newidiadau i rwydweithiau, megis tynnu gwasanaethau crwydro i mewn i O2 ar ei rwydweithiau 2G, effeithio ar eu dyfeisiau a'u cwsmeriaid.

Paratoi ar gyfer diffodd 2G – dyfeisiau sy'n defnyddio SIM crwydro rhyngwladol

Mae'n hanfodol bod darparwyr sy'n defnyddio offer 2G yn cael eu paratoi trwy uwchraddio i ddyfeisiau sydd wedi’u galluogi ar gyfer 4G o leiaf, i sicrhau parhad y gwasanaeth.

Mae'n bosibl y gall newidiadau O2 effeithio ar Internet of Things (IoT) a dyfeisiau trydydd parti sy'n defnyddio SIM crwydro sy’n dibynnu ar y signal 2G sydd ar gael gan bob MNO yn lleoliad y ddyfais.

Rhan o'n rôl sy'n monitro'r broses o ddiffodd 2G / 3G yw sicrhau nad yw cwsmeriaid, yn enwedig cwsmeriaid agored i niwed, yn dioddef aflonyddwch annerbyniol. I wneud hyn, rydym wedi cyhoeddi data 2G perthnasol i gynorthwyo sectorau sydd â diddordeb, yn enwedig y sector teleofal, a allai ddefnyddio SIM crwydro rhyngwladol.

Sylwer, gan fod y data mwy penodol hwn ar gael erbyn hyn, rydym wedi tynnu’r cyfeiriadau at wybodaeth fwy cyffredinol yr ydym yn ei adrodd o'r dudalen we hon.

Anogwch eich corff diwydiant i ddatblygu canllawiau ar gyfer eich sector

Yn eich sector, efallai y bydd pethau eraill i'w hystyried wrth i’r broses o ddiffodd 2G agosáu. Felly, rydym yn annog cyrff diwydiant fel cymdeithasau masnach i siarad â'u haelodau a chyhoeddi canllawiau sector-benodol.

Dyma rai (ond nid pob un) mathau o ddyfais y gallai'r broses ddiffodd effeithio arnynt:

Larymau

  • Teleofal
  • Tân
  • Diogelwch

Cyfleustodau

  • Mesuryddion clyfar (domestig a busnes)
  • Gosodiadau paneli solar
  • Monitro rhwydweithiau cyfleustodau (dŵr, nwy, trydan)

Cysylltedd sy'n gysylltiedig â cherbydau

  • Gwasanaeth brys eCall
  • Pwyntiau gwefru cerbydau trydan
  • Dyfeisiau telemetreg/olrhain
  • Mesuryddion parcio
  • Peiriannau tocynnau bysiau

Ym mis Ionawr 2024, gwnaethom ysgrifennu at sefydliadau llywodraeth leol a'r sector teleofal, i ailadrodd pwysigrwydd bod teleofal a darparwyr gwasanaethau eraill:

  • yn barod ar gyfer y newidiadau; ac
  • yn gweithio gyda sefydliadau sy'n defnyddio eu gwasanaethau i adnabod cwsmeriaid sydd angen uwchraddio eu dyfeisiau.

Rate this page

Was this page helpful?