Datganiad wedi’i gyhoeddi: 14 Medi 2026
Ym mis Chwefror 2026, ymgynghorom ar ein cynigion ar gyfer blaenoriaethau trwyddedu Ofcom ar gyfer darlledu radio ar gyfer y tymor byr i ganolig wrth i'r rhaglen drwyddedu Darlledu Sain Ddigidol ar Raddfa Fach (SSDAB) ddod i ben. Nod y cynigion oedd gwneud y defnydd gorau o adnoddau sbectrwm cyfyngedig a darparu'r budd mwyaf i gynulleidfaoedd y DU, yn enwedig y rhai na wasanaethir ar hyn o bryd.
Yr hyn rydym wedi'i benderfynu – yn gryno
Ar ôl ystyried ymatebion rhanddeiliaid, rydym wedi penderfynu cadarnhau'r blaenoriaethau a nodwyd gennym yn yr ymgynghoriad a chadarnhau proses Mynegi Diddordeb newydd ar gyfer trwyddedau radio cymunedol analog newydd posibl. Rydym wedi dweud y byddwn yn cefnogi rhaglenni trwyddedu parhaus sydd eisoes yn cael eu cynnal ac yn parhau i ddarparu cefnogaeth barhaus i wasanaethau trwyddedig presennol. Byddwn hefyd:
Radio analog
- Bwrw ymlaen â rownd newydd o drwyddedu radio cymunedol FM.
- Cwblhau proses ffurfiol Galw am Fynegi Diddordeb (gweler isod) er mwyn mesur y galw am ddarpar wasanaethau radio cymunedol analog (FM ac, yn eithriadol, AM).
- Parhau i brosesu adnewyddu trwyddedau analog, estyniadau a cheisiadau am newid technegol.
- Yn achos radio masnachol, rydym wedi penderfynu peidio â chynnig cyfleoedd trwydded radio masnachol analog newydd yn y tywmor byr i ganolig.
Radio DAB a digidol
- Parhau i drwyddedu amlblecs SSDAB newydd mewn ardaloedd heb eu gwasanaethu’n ddigonol, tra’n blaenoriaethu ceisiadau gwella cwmpas a cheisiadau estyniad gan drwyddedeion presennol SSDAB.
- Mabwysiadu dull sy’n fwy hyblyg, lle bo'n briodol, o gymhwyso 'nenfwd 40%' SSDAB.
- Peidio â blaenoriaethu trwyddedu amlblecs DAB lleol pellach yn y tymor byr i ganolig.
Ochr yn ochr â'r Datganiad hwn, rydym hefyd wedi cyhoeddi Galwad am Fynegi Diddordeb ar gyfer sefydliadau a allai fod yn dymuno gwneud cais am drwydded radio cymunedol FM, neu, mewn amgylchiadau eithriadol, trwydded radio cymunedol AM.
Camau nesaf
Byddwn yn dechrau gweithredu'r penderfyniadau a nodir yn y Datganiad hwn, gan ddefnyddio Mynegiadau o Ddiddordeb ar gyfer trwyddedau radio cymunedol analog i lywio ein blaenoriaethau trwyddedu ochr yn ochr â'r blaenoriaethau eraill a nodwyd.
Ymatebion
Gwybodaeth cyswllt
Licensing Priorities Consultation
Broadcast Licensing Team – Broadcasting and Media Group
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Cynnwys cysylltiedig