Datganiad a gyhoeddwyd ar 18 Rhagfyr 2025
Heddiw, yn dilyn ymgynghoriad, rydym wedi penderfynu cymeradwyo cais y BBC i wneud tri newid i Drwydded Weithredu'r BBC.
Cais y BBC
Yn wyneb pwysau ariannol sylweddol, nod y BBC yw cyflawni arbedion gwerth £700 miliwn erbyn mis Mawrth 2028. Er mwyn ei helpu i fwrw ymlaen â'i gynlluniau arbed ac ail-fuddsoddi, ym mis gofynnodd y BBC i Ofcom wneud newidiadau i amodau penodol y Drwydded Weithredu sy'n ymwneud â materion cyfoes rhwydwaith, BBC Radio Lleol, a BBC Radio 5 Live.
Ein penderfyniad
I grynhoi, rydym wedi penderfynu:
- mewn perthynas â'r cwota materion cyfoes rhwydwaith, gosod amod newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r BBC ddarparu o leiaf 70 awr o raglenni materion cyfoes gwreiddiol y DU sy’n cael eu darlledu am y tro cyntaf yn ystod yr oriau brig ar draws BBC One a BBC Two. Mae hyn yn disodli'r cwota blaenorol ar y cyd o 106 awr, a oedd yn cynnwys ailadroddiadau. Mae'r cwota blynyddol cyffredinol o 450 awr o raglennu materion cyfoes yn parhau heb ei newid. Am y tro cyntaf, byddai'r cwota newydd yn gwarantu nifer gofynnol o oriauraglenni materion cyfoes gwreiddiol y DU ar brif sianeli’r BBC ar yr adeg y mae'r rhan fwyaf o bobl yn eu gwylio. Rydym hefyd wedi egluro mai dim ond os cânt eu darlledu ar BBC One neu BBC Two o fewn 24 awr i'w rhyddhau ar-lein y gall rhaglenni sydd ar gael ar BBC iPlayer gyfrif tuag at y cwota hwn;
- mewn perthynas â rhaglenni a rennir BBC Radio Lleol, i ddiwygio'r amod fel na all rhaglenni a rennir cyfrif tuag at y cwota rhaglenni a wneir yn lleol os cânt eu darlledu rhwng 6am a 2pm ar ddiwrnodau'r wythnos, gan ddiogelu'r oriau gwrando mwyaf gwerthfawr i gynulleidfaoedd lleol. Mae'r cwota blynyddol cyffredinol ar gyfer rhaglenni a wneir yn lleol a'r gofyniad am fwletinau newyddion lleol yn parhau heb eu newid; a
- mewn perthynas â'r amod adrodd BBC Radio 5 Live, i ddileu'r gofyniad blynyddol i'r BBC adrodd nifer yr oriau o sylwebaeth fyw ar gyfer pob chwaraeon ar BBC Radio 5 Live. Bydd yn parhau i fod yn ofynnol i'r BBC ymdrin ag o leiaf 20 o wahanol chwaraeon yn flynyddol a chyhoeddi rhestr o'r chwaraeon hynny, gan sicrhau tryloywder a nodweddion parhaus.
Rydym o'r farn bod amodau'r Drwydded Weithredu ddiwygiedig yn briodol ar gyfer ei gwneud yn ofynnol i'r BBC gyflawni ei Genhadaeth a hyrwyddo ei Ddibenion Cyhoeddus. Wrth wneud y newidiadau hyn, rydym yn disgwyl i'r BBC fod yn dryloyw ynglŷn â sut mae'n cyflawni ar gyfer cynulleidfaoedd ac i fonitro effaith y newidiadau er mwyn sicrhau, lle bo angen, ei fod yn parhau i addasu i wasanaethu cynulleidfaoedd yn well.
Byddwn yn parhau i ddwyn y BBC i gyfrif trwy ein hasesiadau cydymffurfio a pherfformiad. Bydd hyn yn cynnwys monitro sut mae’r BBC yn cyflwyno materion cyfoes ar draws BBC One a BBC Two; sut mae'r BBC yn cyflwyno ar gyfer cynulleidfaoedd lleol; a nodweddion radio’r BBC, gan gynnwys 5 Live. Byddwn yn adrodd ar y meysydd hyn fel rhan o'n hadroddiadau blynyddol ar y BBC a byddwn yn ymyrryd os bydd gennym bryderon.
Ymatebion
Gwybodaeth cyswllt
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA