Rhybudd: mae'r adroddiad hwn yn cynnwys iaith allai fod yn hynod sarhaus, ynghyd â thrafodaethau am gynnwys a allai beri tramgwydd.
Comisiynodd Ofcom Ipsos i gynnal ymchwil i'n helpu i ddeall agweddau'r cyhoedd tuag at iaith sarhaus ar wasanaethau teledu, radio a fideo-ar-alw (VoD). Mae'r adroddiad hwn yn darparu’r darlun diweddaraf o agweddau'r gynulleidfa at iaith sarhaus, gan adeiladu ar ymchwil flaenorol a gomisiynwyd gan Ofcom yn 2021. Mae hefyd yn archwilio agweddau at fathau eraill o gynnwys a allai fod yn sarhaus, er enghraifft dynwared acenion ac anableddau.
Roedd yr ymchwil yn cynnwys dull dulliau cymysg. Ar gyfer cam meintiol yr ymchwil, cynhaliodd Ipsos arolwg ar-lein ymhlith sampl cwota cynrychioliadol yn genedlaethol o 4,289 o oedolion 18+ oed yn y DU. Roedd yr arolwg yn cynnwys ymatebion digymell ar dderbynioldeb 183 o eiriau ac ymadroddion a allai fod yn sarhaus, gydag o leiaf 1,000 o ymatebwyr yn asesu pob erm. Asesodd ymatebwyr yn unigol dderbynioldeb y termau hyn i'w darlledu ar y teledu cyn ac ar ôl trothwy 9pm, gan feddwl am ddiogelu plant a'u profiad eu hunain o gynnwys sarhaus. Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 2 a 17 Mawrth 2026.
Roedd y cyfnod ansoddol yn cynnwys 24 o grwpiau ffocws ar-lein a 10 cyfweliad manwl gyda chyfranogwyr o amrywiaeth o leoliadau a chefndiroedd, gan gynnwys rhieni plant o wahanol oedrannau, pobl nad ydynt yn rhieni ac unigolion ag ystod o nodweddion gwarchodedig. Gwnaeth y trafodaethau nodi safbwyntiau gwahanol ar amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud ag iaith sarhaus, rhyddid mynegiant a rheoleiddio. Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 16 Ebrill a 2 Mehefin 2026.
Prif allbynnau’r ymchwil hon yw canllaw cyfeirio cyflym i iaith sarhaus, sy'n aseinio graddfeydd cyn ac ar ôl yr amser trothwy (watershed) i dermau unigol am y tro cyntaf, ac adroddiad sy'n archwilio'r ffactorau cyd-destunol sy'n dylanwadu ar dderbynioldeb.
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig:
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig
2021
Public attitudes towards offensive language on TV and radio – research report (PDF, 1.2 MB)
Public attitudes towards offensive language on TV and radio – quick reference guide (PDF, 501.7 KB)
Agweddau cyhoeddus at iaith dramgwyddus ar deledu a radio – rhagair (PDF, 225.9 KB)
2016
Attitudes to potentially offensive language and gestures on TV and radio - Quick reference guide (PDF, 286.1 KB)
2010
Audience attitudes towards offensive language on television and radio (Synovate), August 2010