
Heddiw, mae Ofcom yn gwahodd gorsafoedd radio cymwys i wneud cais am wobrau o’r Gronfa Radio Gymunedol 2026/27.
Mae'r Gronfa Radio Cymunedol yn rhaglen grant a sefydlwyd i gefnogi cynaliadwyedd a thwf gorsafoedd radio cymunedol sydd wedi’u trwyddedu gan Ofcom. Mae'r gorsafoedd hyn yn ddi-elw ac yn anelu at wasanaethu cymunedau penodol gyda rhaglenni lleol a buddion cymdeithasol. Caiff ei ddyrannu gan y Llywodraeth a'i reoli gan Ofcom.
Eleni, yn dilyn newidiadau i'r Gronfa, gall gorsafoedd radio cymwys gyflwyno cynigion aml-flwyddyn a chynigion am offer pwrpasol yn ogystal â’r ffrwd gynaliadwyedd presennol sy'n cefnogi rolau swyddi a phrosiectau sy'n gwella hyfywedd hirdymor gorsafoedd. Cyfanswm y swm sydd ar gael dros gyfnod 2026-27 yw £904,644 sy'n cynnwys £900,000 a ddyrannwyd gan y Llywodraeth a £4,644 mewn tanwariant bach o arian a ddychwelwyd.
Dim ond ar gyfer gorsafoedd radio cymunedol sydd wedi’i thrwyddedu gan Ofcom yn y DU y mae grantiau ffrwd cynaliadwyedd ar gael, sy'n darlledu ar AM, FM, neu drwy drwydded Rhaglen Sain Ddigidol Gymunedol ar amlblecs radio digidol. Mae grantiau ffrwd offer ar gael ar gyfer gwasanaethau radio cymunedol analog sydd wedi bod ar yr awyr ers 10 mlynedd neu fwy.
Yn dilyn y newidiadau hyn, rydym yn annog pob ymgeisydd i ddarllen y nodiadau canllaw yn ofalus cyn cyflwyno cais. Mae'r rhain i'w gweld ar dudalen y Gronfa Radio Gymunedol.
Bydd ceisiadau’n cau am 5pm ddydd Mercher 14 Hydref 2026. Rydym yn disgwyl i Banel Cronfa Radio Cymunedol gyfarfod yn gynnar ym mis Ionawr 2027 i ystyried y ceisiadau a dderbynnir.
Cynnwys cysylltiedig