Casglu Cynnwys Safle Gyrfaoedd – Economeg

Casglu Cynnwys Safle Gyrfaoedd – Economeg

Casglu Cynnwys Safle Gyrfaoedd Economeg grwp

Mae gwaith y grŵp Economeg a Dadansoddeg yn hanfodol i wneud yn siŵr bod penderfyniadau Ofcom yn seiliedig ar waith ymchwil a dadansoddi cadarn. Mae economegwyr a dadansoddwyr Ofcom yn defnyddio syniadau cysyniadol arloesol ac ystod eang o ddulliau meintiol i lywio’r broses o lunio polisïau ac arwain syniadau. 

Y grŵp Economeg a Dadansoddeg yw un o’r timau economeg a chyllid mwyaf ym maes cystadleuaeth a rheoleiddio yn y DU. Gyda dros 80 o gydweithwyr, rydym yn darparu’r gwaith dadansoddi sy’n sail i bopeth y mae Ofcom yn ei wneud. Rydyn ni’n gweithio mewn sectorau diddorol a phwysig gan gynnwys teledu, radio, telegyfathrebiadau, gwasanaethau post a sbectrwm. Ac rydyn ni’n helpu fwyfwy i yrru’r agenda mewn meysydd cyfrifoldeb newydd, gan gynnwys diogelwch ar-lein a marchnadoedd digidol. Er enghraifft, rydyn ni’n chwarae rhan allweddol mewn prosiectau diweddar, gan gynnwys astudiaeth Ofcom i’r farchnad gwasanaethau cwmwl, lluosogrwydd yn y cyfryngau a newyddion ar-lein, a pharatoi ar gyfer rheoleiddio diogelwch ar-lein. Rydyn ni hefyd yn cyhoeddi papurau trafod yn rheolaidd i gyfrannu at y drafodaeth am economeg yn y sectorau cyfathrebu. 

Fel rhan o’r grŵp Economeg a Dadansoddeg, byddwch chi’n cael cyfleoedd i ddefnyddio eich sgiliau dadansoddi o’r dechrau un. Byddwch chi’n gweithio yn ein timau amlddisgyblaethol, gan helpu i lunio opsiynau polisi a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymdeithas. Mae’r ystod o waith rydyn ni’n ei wneud yn wirioneddol amrywiol. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n gweithio ar brosiectau sy’n: 

  • defnyddio economeg ymddygiadol i ddeall sut i’w gwneud yn haws i bobl newid darparwr telegyfathrebiadau; 
  • defnyddio dulliau cysyniadol a meintiol arloesol i ddeall y niwed y gallai cael gafael ar newyddion ar-lein ei achosi i gymdeithas; 
  • asesu effeithiau gwasanaethau’r BBC fel sianeli teledu ac apiau newydd ar y sector cyfryngau; 
  • dadansoddi cystadleuaeth mewn marchnadoedd digidol newydd fel gwasanaethau cwmwl a dyfeisiau sydd wedi eu cysylltu yn y cartref gan ddefnyddio theori sefydliad diwydiannol cymhwysol,  
  • dod o hyd i ffyrdd o hyrwyddo cystadleuaeth yn y buddsoddiad mewn rhwydweithiau band eang ffeibr; 
  • darparu gwybodaeth ariannol a modelu economaidd i helpu sicrhau bod y gwasanaeth post cyffredinol yn cael ei ddarparu;  
  • defnyddio theori gemau a theori arwerthiant i lywio’r ffyrdd gorau o ddyrannu sbectrwm; a 
  • defnyddio arbenigedd mewn cyfrifon a chyllid corfforaethol i sicrhau bod gennym yr wybodaeth ariannol sydd ei hangen arnom i wneud penderfyniadau gwybodus ar draws yr holl sectorau rydyn ni’n eu rheoleiddio 

Mae gan ein heconomegwyr a’n dadansoddwyr sgiliau, profiad a chefndiroedd amrywiol. Mae’r grŵp yn cynnwys pobl sydd ag arbenigedd mewn economeg reoleiddiol a chystadleuaeth, gwerthuso polisïau, dadansoddi ariannol, dadansoddi econometrig, modelu ac economeg ymddygiadol. Rydyn ni’n cefnogi rhaglenni graddedigion a phrentisiaethau ac yn buddsoddi’n helaeth mewn datblygu ein staff.