Telerau defnyddio


Hawliau eiddo deallusol

Mae'r holl ddeunydd naill ai ar wefan Ofcom neu wedi'i ddarparu gan Ofcom mewn copi caled yn eiddo i Ofcom neu wedi'i drwyddedu i Ofcom ac wedi'i ddiogelu gan hawlfraint, nodau masnach, nodau gwasanaeth, patentau neu hawliau a deddfau perchnogol eraill. Mae logo Ofcom yn nod masnach cofrestredig. Os dymunwch atgynhyrchu logo Ofcom gofynnir i chi geisio caniatâd gennym yn gyntaf.

Oni nodir fel deunydd sy'n eiddo i'r Goron neu fel arall, gellir atgynhyrchu'r deunydd a ymddengys ar y wefan hon neu a ddarperir mewn copi caled am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar yr amod y caiff ei atgynhyrchu'n gywir ac nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Mae'n rhaid cydnabod bod y deunydd o dan hawlfraint Ofcom, a rhaid nodi teitl y ddogfen/cyhoeddiad.

Cyfeiriwch at wefan Y Llyfrfa mewn perthynas â deunydd sy'n eiddo i'r Goron.

Dylai unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r deunydd ar y wefan hon ddefnyddio'r ffurflen hon, neu gael eu cyfeirio trwy lythyr i Ofcom, 2a Southwark Bridge Road, Llundain SE1 9HA. © Hawlfraint Ofcom 2006-16.

Ymwadiad

Er y gwneir pob ymdrech resymol i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon yn gywir, ni wneir unrhyw warant ynglŷn â pha mor gyfredol neu gywir y mae'r wybodaeth. Darperir gwefan a deunydd Ofcom yng nghyswllt gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau (neu wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau trydydd partïon), 'fel y mae'. Fe'i darperir heb unrhyw gynrychiolaeth na chymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath, boed yn benodol neu'n ymhlyg, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i warantau ymhlyg ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, diffyg tor-dyletswydd, cydnawsedd, diogelwch a chywirdeb.

Nid yw Ofcom yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i'ch data na'ch system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy'n deillio o'r wefan hon. Nid yw Ofcom yn gwarantu y bydd y swyddogaethau sydd wedi'u cynnwys yn y deunydd ar y wefan hon yn ddi-dor neu'n rhydd o wallau. Hefyd, nid yw Ofcom yn gwarantu y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu fod y wefan hon neu'r gweinydd sy'n ei ddarparu yn rhydd o feirysau nac yn cynrychioli swyddogaethau, cywirdeb a dibynadwyedd llawn y deunyddiau.

Ni fydd Ofcom, mewn unrhyw achos, yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ddeilliannol, nac unrhyw golled neu iawndal sy'n deillio o ddefnyddio neu golli'r defnydd o ddata neu elw sy'n deillio o ddefnyddio gwefan Ofcom neu mewn perthynas â'r defnydd hwnnw.

Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu cwmpasu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy'n codi o dan y Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.

Hyperddolenni

Nid oes angen i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu'n uniongyrchol â'r tudalennau gwe a gynhelir ar y wefan hon. Er hynny, nid yw Ofcom yn caniatáu i'w dudalennau gael eu llwytho i fframiau ar eich gwefan, gan fod yn rhaid i dudalennau Ofcom lwytho i mewn i ffenestr gyfan y defnyddiwr.

Mae Ofcom yn cysylltu â gwefannau eraill ond nid yw'n gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau hyn. Ni ddylid cymryd bod cysylltu yn gymeradwyaeth o unrhyw fath o'r wefan y cysylltir â hi, gan gynnwys unrhyw gynhyrchion a gwasanaethau y cyfeirir atynt ar y wefan honno, ac nid yw ychwaith yn awgrymu bod cysylltiad yn bodoli rhwng Ofcom a gweithredwyr y wefan honno. Ni all Ofcom warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio trwy'r amser ac nid oes ganddo unrhyw reolaeth dros argaeledd tudalennau y cysylltir â hwy.