
Yr wythnos hon, cynhaliodd Ofcom y cyfarfod blynyddol cyntaf o’r Rhwydwaith Rheoleiddwyr Diogelwch Ar-lein Byd-eang (GOSRN), sy’n dod â rheoleiddwyr o Ewrop, Asia, Affrica a’r Pasiffig at ei gilydd i drafod atebion i heriau diogelwch ar-lein byd-eang.
Mae rhwydwaith GOSRN yn gydweithrediad rhwng gweithredwyr cyntaf y maes rheoleiddio diogelwch ar-lein. Mae’r rhwydwaith yn braenaru’r tir i lunio dull rhyngwladol cydlynol tuag at reoleiddio diogelwch ar-lein, drwy alluogi rheoleiddwyr i rannu mewnwelediadau, profiad ac arfer gorau.
Tynnodd y cyfarfod holl aelodau’r rhwydwaith at ei gilydd, gan gynnwys y Comisiynydd eDdiogelwch (Awstralia); Coimisiún na Meán (Iwerddon); y Bwrdd Ffilm a Chyhoeddi (De Affrica); Comisiwn Safonau Cyfathrebiadau Corea (Gweriniaeth Corea); y Comisiwn Diogelwch Ar-lein (Fiji); ac Ofcom (y DU).
Myfyriodd aelodau am y cynnydd a wnaed ym mlwyddyn gyntaf bodolaeth y rhwydwaith a thrafodwyd ffyrdd y gall rheoleiddwyr diogelwch ar-lein wella cydweithrediad ymhellach yn y flwyddyn i ddod. Bu’r cyfarfod yn sbardun ar gyfer sawl menter reoleiddiol bwysig mae’r rhwydwaith wedi bod wrthi’n eu datblygu yn ystod ei flwyddyn gyntaf.
Croesawu aelodau newydd
Yn ystod y sesiwn, estynnodd y rhwydwaith groeso swyddogol i’w aelodau newydd o Dde Affrica a Chorea, a lansiodd Weithgor Technoleg newydd. Nod y gweithgor yw gwella mewnwelediadau technegol ac ymchwil ymysg rheoleiddwyr rhyngwladol, a’i ffocws yn y lle cyntaf fydd atebion technegol i warchod plant ar-lein a sut i reoli heriau AI (Deallusrwydd Artiffisial) cynhyrchiol. Cyhoeddodd y rhwydwaith hefyd ei ddatganiad safbwynt cyntaf, gyda’r aelodau’n ategu eu hymrwymiad at ddull o reoleiddio diogelwch ar-lein sydd â hawliau dynol wrth ei wraidd.
I Ofcom, un o werthoedd allweddol y rhwydwaith yw’r rôl mae’n ei chwarae wrth alluogi mwy o gydlynu byd-eang mewn perthynas â phecynnau cymorth rheoleiddio diogelwch ar-lein – sef mantais gyfannol i reoleiddwyr a chwmnïau sy’n cael eu rheoleiddio fel ei gilydd.
Yn y cyfarfod, dywedodd Gill Whitehead, cyfarwyddwr grŵp Ofcom ar gyfer diogelwch ar-lein: “nid yw’r risgiau mae pobl yn eu hwynebu ar-lein yn parchu ffiniau cenedlaethol. Mae’n hanfodol, felly, bod gan reoleiddwyr ym mhob cwr o’r byd fforwm penodol lle gellir rhannu profiad, arbenigedd a thystiolaeth wrth i ni ymdrechu gyda’n gilydd i sicrhau bywyd mwy diogel ar-lein.
Bydd gwaith yn mynd rhagddo i gyflawni cynllun gwaith y rhwydwaith ar gyfer 2023 ac i ddenu rhagor o reoleiddwyr diogelwch ar-lein i’n plith. Cytunodd aelodau’r rhwydwaith i benodi Ofcom yn Gadeirydd ar y Rhwydwaith ar gyfer 2024, ac mae ein paratoadau i dderbyn y cyfrifoldeb pwysig hwnnw ar ran y gymuned rheoleiddwyr diogelwch ar-lein fyd-eang yn dechrau nawr.