Dull Ofcom o roi’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ar waith

Cyhoeddwyd: 6 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd diwethaf: 26 Hydref 2023

Mae Ofcom wedi nodi ein cynlluniau ar gyfer rhoi cyfreithiau diogelwch ar-lein ar waith, a'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan gwmnïau technoleg, nawr bod y Ddeddf Diogelwch Ar-lein wedi pasio.

Mae'r Ddeddf yn gwneud cwmnïau sy'n gweithredu ystod eang o wasanaethau ar-lein yn gyfreithiol gyfrifol am gadw pobl, yn enwedig plant, yn ddiogel ar-lein. Mae gan y cwmnïau hyn ddyletswyddau newydd i ddiogelu defnyddwyr y DU trwy asesu risgiau o niwed, a chymryd camau i fynd i'r afael â nhw. Mae'r holl wasanaethau sydd o fewn cwmpas sydd â nifer sylweddol o ddefnyddwyr yn y DU, neu sy'n targedu marchnad y DU, yn dod o dan y rheolau newydd, waeth ble maent wedi'u lleoli.

Er bod y cyfrifoldeb ar gwmnïau i benderfynu pa fesurau diogelwch sydd eu hangen arnynt o ystyried y risgiau y maent yn eu hwynebu, rydym yn disgwyl i weithrediad y Ddeddf sicrhau bod pobl yn y DU yn fwy diogel ar-lein trwy gyflawni pedwar canlyniad:

  • llywodraethu diogelwch cryfach mewn cwmnïau ar-lein;
  • gwasanaethau ar-lein sydd wedi’u dylunio a'u gweithredu gyda diogelwch mewn golwg;
  • dewis i ddefnyddwyr er mwyn iddynt gael rheolaeth bwrpasol dros eu profiadau ar-lein; a
  • thryloywder ynghylch y mesurau diogelwch y mae gwasanaethau'n eu defnyddio, a'r camau y mae Ofcom yn eu cymryd i'w gwella, er mwyn meithrin ymddiriedaeth.

Rydym yn symud yn gyflym i roi’r rheolau newydd ar waith

Bydd Ofcom yn rhoi canllawiau ac yn nodi codau ymarfer ynghylch sut y gall cwmnïau o fewn cwmpas gydymffurfio â'u dyletswyddau, mewn tri cham, fel y nodir yn y Ddeddf.

Cam un: Dyletswyddau niwed anghyfreithlon

Cyhoeddir codau a chanllawiau drafft ar y dyletswyddau hyn ar 9 Tachwedd 2023 ac maent yn cynnwys:

  • Dadansoddiad o achosion ac effeithiau niwed ar-lein, i gefnogi gwasanaethau wrth gynnal eu hasesiadau risg;
  • Canllawiau drafft ar broses a argymhellir ar gyfer asesu risg;
  • Codau ymarfer drafft, sy'n nodi'r hyn y gall gwasanaethau ei wneud i liniaru'r risg o niwed; a
  • Canllawiau Drafft ar ddull Ofcom o orfodi.

Byddwn yn ymgynghori ar y dogfennau hyn, a bwriadwn gyhoeddi datganiad ar ein penderfyniadau terfynol yn yr Hydref 2024. Yna caiff y codau ymarfer eu cyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg, ac ar yr amod y cânt eu cymeradwyo, eu gosod gerbron Senedd y DU.

Cam dau: diogelwch plant, pornograffi ac amddiffyn menywod a merched

Bydd dyletswyddau amddiffyn plant yn cael eu gosod mewn dwy ran. Yn gyntaf, bydd gwasanaethau pornograffi ar-lein a rhanddeiliaid eraill â diddordeb yn gallu darllen ac ymateb i'n canllawiau drafft ar sicrwydd oedran o fis Rhagfyr 2023. Bydd hyn yn berthnasol i'r holl wasanaethau sydd o fewn cwmpas Rhan 5 o'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein.

Yn ail, bydd gwasanaethau wedi’u rheoleiddio a rhanddeiliaid eraill â diddordeb yn gallu darllen ac ymateb i godau ymarfer drafft yn ymwneud ag amddiffyn plant, yn ystod y Gwanwyn 2024.

Ochr yn ochr â hyn, rydym yn disgwyl ymgynghori ar:

  • ddadansoddi achosion ac effeithiau niwed ar-lein i blant; a
  • chanllawiau drafft ar asesu risg yn canolbwyntio ar niwed plant.

Rydym yn disgwyl cyhoeddi canllawiau drafft ar ddiogelu menywod a merched erbyn y Gwanwyn 2025, pan fyddwn wedi cwblhau ein codau ymarfer ar amddiffyn plant.

Cam tri: tryloywder, grymuso defnyddwyr, a dyletswyddau eraill ar wasanaethau wedi’u categoreiddio

Caiff cyfran fach o wasanaethau wedi’u rheoleiddio eu dynodi’n wasanaethau Categori 1, 2A neu 2B os ydynt yn bodloni trothwyon penodol a nodir mewn is-ddeddfwriaeth a gaiff ei gwneud gan Lywodraeth y DU. Mae cam olaf ein gwaith gweithredu’n canolbwyntio ar ofynion ychwanegol sydd ond yn disgyn ar y gwasanaethau hyn sydd wedi’u categoreiddio. Mae'r gofynion hyn yn cynnwys dyletswyddau i:

  • gynhyrchu adroddiadau tryloywder;
  • darparu offer grymuso defnyddwyr;
  • gweithredu yn unol â’r telerau gwasanaeth;
  • diogelu rhai mathau o gynnwys newyddiadurol; ac
  • atal hysbysebu twyllodrus.

Rydym bellach yn bwriadu cyhoeddi galwad am dystiolaeth ynghylch ein dull gweithredu mewn perthynas â’r dyletswyddau hyn yn gynnar yn 2024 ac ymgynghoriad ar ganllawiau tryloywder drafft yng nghanol 2024.

Mae'n rhaid i Ofcom gynhyrchu cofrestr o wasanaethau wedi’u categoreiddio. Byddwn yn cynghori Llywodraeth y DU ar drothwyon y categorïau hyn yn gynnar yn 2024, a bydd y Llywodraeth wedyn yn gwneud is-ddeddfwriaeth ar gategoreiddio, a’r disgwyl ar hyn o bryd yw y bydd hynny’n digwydd erbyn haf 2024. Gan gymryd bod hyn yn cael ei gyflawni, byddwn yn:

  • cyhoeddi'r gofrestr o wasanaethau wedi’u categoreiddio erbyn diwedd 2024;
  • cyhoeddi cynigion drafft ynghylch y dyletswyddau ychwanegol ar y gwasanaethau hyn yn gynnar yn 2025; ac yn
  • cyhoeddi hysbysiadau tryloywder yng nghanol 2025.

Darllen y diweddariad llawn

Dull Ofcom o roi’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ar waith (PDF, 1.4 MB)

Diweddariad – beth sydd wedi newid ers cyhoeddi ein map (15 Mehefin 2023)

Gwnaethom gyhoeddi diweddariad  ar sut mae Ofcom yn paratoi i reoleiddio diogelwch ar-lein, gan gynnwys amserlenni disgwyliedig a'r hyn sydd wedi newid ers i ni gyhoeddi ein map.

Map gwreiddiol (6 Gorffennaf 2022)

Sgorio’r dudalen hon

Diolch am eich adborth.

Rydym yn darllen yr holl adborth ond ni allwn ymateb. Os oes gennych ymholiad penodol dylech weld ffyrdd eraill o gysylltu â ni.

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?
Yn ôl i'r brig