
Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Newyddion 2026, ein hymchwil blynyddol sy'n edrych ar sut mae pobl yn y DU yn cael mynediad at newyddion ac yn ei ddefnyddio, a sut maen nhw'n teimlo amdano.
Gellir dod o hyd i rai o'r prif ganfyddiadau yn ein datganiad i'r wasg, ac yma rydym wedi tynnu sylw at fanylion pellach sy'n taflu goleuni ar ddewisiadau pobl o ran sut maen nhw'n cael eu newyddion.
Mae newyddion lleol yn parhau i fod yn wasanaeth defnyddiol
Er gwaethaf argaeledd cynnwys newyddion cenedlaethol a rhyngwladol eang ar draws gwahanol ffynonellau, mae newyddion a gwybodaeth leol yn parhau i fod yn bwysig i gynulleidfaoedd y DU. Mae saith o bob deg o bobl yn ystyried newyddion lleol ymhlith y mathau pwysicaf o newyddion, gyda thywydd lleol yn fath mwyaf gwerthfawr o wybodaeth leol.
Mae bron pob oedolyn (95%) yn defnyddio newyddion a gwybodaeth leol. Ar lafar (54%), cyfryngau cymdeithasol (48%) a theledu (42%) yw'r ffyrdd mwyaf cyffredin o’i gyrchu. Er bod 81% o oedolion yn cael eu newyddion lleol ar-lein, mae'r BBC yn parhau i fod yn ddarparwr blaenllaw o newyddion lleol - mae ei wefan, ei ap a'i fwletinau teledu rhanbarthol ymhlith y ffynonellau newyddion lleol a ddefnyddir fwyaf.
Mae cynnwys ffurf hir yn cynnig gwerth mewn blwyddyn etholiad
Er bod cynulleidfaoedd yn defnyddio newyddion bob dydd mewn fformatau digidol byrrach, ymddengys bod sylw etholiadol yn gyrru'r galw am gynnwys mwy manwl. Ym mis Mai roedd cyfres o etholiadau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Yn ystod yr adeg hon, teledu oedd y platfform a ddefnyddiwyd amlaf ar gyfer gwybodaeth etholiadol, gan gyrraedd 62% o bobl a oedd yn ymwybodol bod yr etholiadau’n digwydd. Roedd bron i ddwy ran o dair (64%) o bobl yn ffafrio darllediadau etholiadol hirach fel erthyglau a bwletinau newyddion, o'i gymharu â 18% a oedd yn ffafrio fformatau byrrach.
Cafodd darparwyr newyddion traddodiadol eu graddio hefyd yn llawer mwy dibynadwy, cywir a diduedd ar gyfer newyddion etholiad na newyddion a gyrchwyd trwy gyfryngau cymdeithasol, gyda darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ymhlith y darparwyr newyddion a gafodd y sgôr uchaf.
Mae plant yn bennaf yn cael eu newyddion trwy gyfryngau cymdeithasol ac ar-lein
Ar gyfer plant 12-15 oed, y prif lwybrau at gynnwys newyddion yw trwy gyfryngau cymdeithasol a phlatfformau rhannu fideos. Mae mwy na thri chwarter ohonynt (78%) yn cyrchu newyddion trwy'r cyfryngau cymdeithasol, gyda TikTok (42%) a YouTube (38%) y gwasanaethau a ddefnyddir fwyaf.
Fel gydag oedolion, mae llawer o'r cynnwys newyddion hwn yn dod o ddarlledwyr sefydledig. Er enghraifft, dywedodd 70% o ddefnyddwyr X a 64% o ddefnyddwyr YouTube yn y grŵp oedran hwn eu bod wedi gweld newyddion gan ddarlledwyr y DU ar y platfformau hynny.
Mae plant sy'n gweld newyddion ar TikTok ychydig yn fwy tebygol o'i weld gan ddylanwadwyr, sylwebwyr annibynnol a chrewyr ar-lein (46%) nag o ddarlledwyr y DU (42%). Fodd bynnag, ar YouTube, Facebook, Instagram, Snapchat ac X mae nhw’n fwy tebygol o weld newyddion gan ddarlledwyr.
O ran pwnc, mae gan blant ddiddordeb yn bennaf mewn pynciau newyddion sy'n gysylltiedig ag adloniant fel cerddoriaeth, ffilm, enwogion a chwaraeon yn hytrach na gwleidyddiaeth neu wrthdaro rhyngwladol.
Mewn ecosystem orlawn, y BBC yw'r darparwr newyddion a ddefnyddir fwyaf
Er gwaethaf cystadleuaeth gynyddol a rhannu cynulleidfaoedd, y BBC yw’r darparwr newyddion a ddefnyddir fwyaf yn y DU, gan gyrraedd 77% o oedolion trwy ei wahanol wasanaethau ar y teledu, radio ac ar-lein. Mewn cymhariaeth, mae ITV yn cyrraedd hanner yr oedolion, tra bod Sky a Global yn cyrraedd tua thraean yr un.
Y BBC yw'r brand newyddion a ddefnyddir fwyaf ar draws pob grŵp oedran, er bod ei gyrhaeddiad yn sylweddol uwch ymhlith cynulleidfaoedd hŷn, sef 87% o bobl 75+ oed. Fodd bynnag, dyma hefyd y ffynhonnell newyddion a ddefnyddir fwyaf ymhlith oedolion iau, gyda dwy ran o dair o bobl 16-24 oed yn dweud eu bod wedi defnyddio BBC News yn ystod y mis diwethaf.
Cynnwys cysylltiedig