news consumption report 15 sept 26 WEB

Un o bob pump ym Mhrydain yn defnyddio AI i gadw i fyny â newyddion

Cyhoeddwyd: 15 Medi 2026
  • Mwy a mwy, mae cynnwys newyddion yn cael ei gyflwyno a'i guradu gan borthgeidwaid ar-lein, yn hytrach na dod yn uniongyrchol gan frandiau newyddion
  • Mae YouTube yn ennill tir yn gyflym fel y platfform cyfryngau cymdeithasol mwyaf poblogaidd ar gyfer newyddion, a hynny ar draul Facebook
  • Mae newyddion gan ddarlledwyr dibynadwy yn dal i fynnu sylw

Mae un o bob pump o oedolion yn y DU bellach yn defnyddio offer AI fel ChatGPT i gadw i fyny â'r newyddion diweddaraf, yn ôl adroddiad blynyddol Ofcom ar arferion defnydd newyddion y genedl.

Mae Adroddiad Newyddion Ofcom 2026 yn datgelu newidiadau dramatig yn y ffordd y mae newyddion yn cael ei ddosbarthu a'i ddefnyddio ar draws tirwedd cyfryngau’r DU. Gyda llu o gyfryngwyr, sylwebwyr, dylanwadwyr ac allfeydd arbenigol ar-lein, yn ogystal â brandiau a chyhoeddwyr newyddion traddodiadol yn cystadlu am ein sylw, mae oedolion y DU bellach yn dod ar draws tua 12 o ffynonellau gwahanol o  newyddion ar gyfartaledd bob mis, gan godi i 18 ymhlith pobl ifanc 25-34 oed.

Mae platfformau a porthgeidwaid digidol yn chwarae rôl gynyddol ganolog yn y ffordd yr ydym yn darganfod cynnwys newyddion. Cafodd mwy nag wyth o bob deg oedolyn (82%) fynediad at newyddion drwy ffynonellau ar-lein yn ystod y mis diwethaf – mwy nag unrhyw blatfform arall – er bod teledu yn parhau i fod yn llwybr pwysig i newyddion (79%), yn enwedig ymhlith cynulleidfaoedd hŷn. Yn yr un modd, brasamcanir bod oedolion yn treulio 72 munud bob dydd yn defnyddio newyddion, ac mae'r rhan fwyaf o'r amser hwn bellach yn cael ei dreulio ar blatfformau ar-lein (34 munud), o'i gymharu â 18 munud ar y teledu.

Mae bron i dri chwarter (73%) o oedolion bellach yn cael mynediad at straeon newyddion trwy gyfryngwyr ar-lein gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, platfformau rhannu fideo, peiriannau chwilio, crynhowyr newyddion ac offer AI. Mewn cyferbyniad, mae tua chwech o bob deg (57%) yn cael eu newyddion yn uniongyrchol trwy wefannau ac apiau cyhoeddwyr newyddion. 

News Consumption 2026 NR_AI stat CYM

Offer AI yn dod yn borth i newyddion

Am y tro cyntaf, mae'r ymchwil yn cynnwys golwg mwy manwl ar ddefnydd pobl o gyfryngwyr AI i gael mynediad at newyddion. Mae'n canfod bod 21% o oedolion wedi defnyddio ap neu wasanaeth AI at y diben hwn yn ystod y mis diwethaf, gyda'r defnydd wedi'i ganolbwyntio ar oedolion iau a phobl o aelwydydd mwy cyfoethog. ChatGPT oedd yr offeryn AI mwyaf poblogaidd ar gyfer newyddion, a ddefnyddiwyd gan 13% o oedolion.

Ond er bod AI yn dod yn llwybr cyffredin at newyddion, mae pobl yn parhau i fod yn ofalus. Mae dros hanner yr oedolion (56%) yn dweud eu bod yn ymddiried llai mewn stori newyddion wedi'i ysgrifennu gan AI nag un a ysgrifennwyd gan berson.

Newyddion wedi'i yrru gan algorithmau yn dod i'r amlwg gan borthgeidwaid cyfryngau cymdeithasol

Mae defnydd o newyddion heddiw yn fwy goddefol – yn aml yn ein cyrraedd yn ddamweiniol ac yn barhaus wrth i ni sgrolio trwy gyfryngau cymdeithasol trwy ffrydiau personol, deunydd a rannwyd ac argymhellion.  

Cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau rhannu fideo yw’r llwybr cyfryngol mwyaf cyffredin at newyddion o hyd, wedi’u defnyddio gan 60% o oedolion yn ystod y mis diwethaf, gan godi i 78% ymhlith pobl ifanc 16-24 oed a phlant 12-15 oed. Facebook yw'r platfform mwyaf poblogaidd ar gyfer newyddion o hyd – wedi’i ddefnyddio gan 39% o oedolion yn ystod y mis diwethaf – er bod YouTube (33%) yn ennill tir yn gyflym, gyda'r bwlch rhwng y ddau blatfform wedi haneru ers 2025.

Er gwaethaf y rôl gynyddol y mae cyfryngwyr cyfryngau cymdeithasol yn ei chwarae, ychydig iawn o bobl (2%) sy'n dibynnu’n gyfan gwbl ar y platfformau hyn ar gyfer newyddion.

Cynnwys newyddion darlledwyr sefydledig yn mynnu sylw ar-lein

Er bod cyfryngau cymdeithasol, platfformau rhannu fideo ac AI yn borth pwysig i newyddion, mae llawer o'r cynnwys a geir trwy'r sianeli hyn yn dal i ddod gan ddarlledwyr sefydledig, yn hytrach na chrewyr brodorol.

At ei gilydd, y BBC yw’r darparwr newyddion a ddefnyddir fwyaf o hyd, gan gyrraedd 80% o oedolion yn ystod y mis diwethaf, gan gynnwys newyddion y BBC a welir ar gyfryngau cymdeithasol yn ogystal ag yn uniongyrchol ar ei wasanaethau ei hun. Mae hefyd yn parhau i fod yn boblogaidd ymhlith oedolion iau, gyda chynnwys newyddion y BBC yn cael ei gyrchu gan ddwy ran o dair o bobl ifanc 16-24 oed.

Y BBC hefyd oedd y ffynhonnell newyddion fwyaf amlwg ar draws pob prif blatfform cyfryngau cymdeithasol a rhannu fideo, wedi’i ddilyn gan Sky ac ITV. Mae eithriad i'r duedd hon i'w weld yn y defnydd plant o newyddion ar TikTok, gyda chynnwys newyddion gan ddylanwadwyr neu sylwebwyr annibynnol (46%) yn fwy cyffredin nag newyddion gan ddarlledwyr y DU (42%).

Cynulleidfaoedd yn ffafrio teledu i gael newyddion etholiadol dibynadwy

Er bod cynulleidfaoedd yn troi at lwybrau newydd i newyddion, maent yn parhau i fod yn ofalus o ran ymddiriedaeth. Mae teledu a radio darlledu yn parhau i berfformio'n well na phlatfformau ar-lein o ran dibynadwyedd, cywirdeb a didueddrwydd.

Canfu ymchwil ychwanegol a gynhaliwyd yn sgil etholiadau lleol, maerol, Senedd yr Alban a'r Senedd ym mis Mai 2026 hefyd fod y cyfryngau traddodiadol yn parhau i fod yn arbennig o bwysig yn ystod digwyddiadau democrataidd mawr. Teledu oedd y ffynhonnell newyddion etholiad a ddefnyddiwyd fwyaf, gan gyrraedd 62% o bobl a oedd yn ymwybodol o'r etholiadau, sef bron i ddwywaith cyrhaeddiad ffynonellau ar-lein (33%).

Prif fwletin newyddion teledu’r BBC oedd y ffynhonnell gyfryngau fwyaf o wybodaeth am etholiadau, tra bod cynulleidfaoedd yn gyffredinol o’r farn bod ffynonellau newyddion darlledu traddodiadol yn fwy cywir, dibynadwy a diduedd na hysbysebu gwleidyddol neu gynnwys etholiadol ar gyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Ian McCrae, Cyfarwyddwr Deallusrwydd y Farchnad: "Yn yr oes sydd ohoni, lle mae gwybodaeth ar gael bob awr o’r dydd, nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn mynd yn uniongyrchol at y newyddion, yn hytrach mae'r newyddion yn dod atyn nhw trwy wahanol gyfryngwyr ar-lein, ac yn gynyddol mae’r newyddion hwn wedi’i alluogi gan AI.

"Ond er bod cynulleidfaoedd yn darganfod newyddion mewn ffyrdd newydd, maent yn parhau i fod ofalus ynghylch y ffynonellau y maent yn ymddiried ynddynt, yn enwedig ar adegau fel etholiadau, ac mae brandiau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn parhau i chwarae rhan hanfodol.

"O ystyried y newidiadau sylfaenol sy'n ymwreiddio’n gyflym ar draws y dirwedd newyddion, rhaid i gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus barhau i esblygu eu strategaethau dosbarthu i barhau i gwrdd â’r cynulleidfaoedd lle maen nhw, ac yn y pen draw, osgoi cael eu boddi allan gan y sŵn."


Nodiadau i olygyddion 

    • Pwysig: Mae'r arolwg eleni yn defnyddio methodoleg wedi'i diweddaru, wedi'i gynllunio i adlewyrchu ymddygiadau defnydd newyddion modern yn well. Dylai aelodau'r cyfryngau wirio'n ofalus cyn cymharu setiau data ag arolygon blynyddoedd blaenorol.
    • Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y mewnwelediadau allweddol o Arolwg Defnydd Newyddion (NCS) diweddaraf Ofcom, sy'n archwilio'r gwahanol ffyrdd y mae oedolion a phlant 12-15 oed yn y DU yn cael mynediad at newyddion heddiw a'u hagweddau tuag at wahanol ddarparwyr.
    • Mae'r adroddiad hefyd yn ymgorffori canfyddiadau o'n Traciwr Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus ac Arolwg Cyfryngau Lleol. Eleni gwnaethom hefyd gynnal arolwg yn syth ar ôl yr etholiadau ym mis Mai i roi cipolwg ar ymddygiadau ac agweddau mewn eiliadau o newyddion penodol.
    • Y newid allweddol oedd ehangu sut y gofynnir i ymatebwyr feddwl am 'newyddion', gan ein galluogi i ddal mwy o amlygiad goddefol neu ddamweiniol. Rydym hefyd bellach yn gofyn i gyfranogwyr feddwl am newyddion y maent wedi dod ar eu traws dros y mis diwethaf, yn hytrach na 'heddiw', sy'n annog pobl i feddwl yn fwy penodol am eu hymddygiad.
    • Cynhaliwyd yr arolwg oedolion gan ddefnyddio dull cymysg, gan gyfuno cyfweliadau ar-lein (70%) ac wyneb yn wyneb (30%), tra bod yr arolwg i blant yn cael ei gynnal ar-lein yn unig. Mae'r newidiadau a gyflwynwyd yn yr arolwg diweddaraf yn golygu bod disgwyl rhai gwahaniaethau o'r blynyddoedd blaenorol. Yn fwyaf nodedig, mae'r defnydd o newyddion wedi'i adrodd yn uwch ar draws pob platfform, sy'n dangos effaith y dull wedi'i ddiweddaru.