Cafodd yr astudiaeth, Y Cyfryngau ym Mywyd Oedolion, ei chreu gan Ofcom yn 2005. Mae hon yn astudiaeth ansoddol gyfoethog a manwl ar raddfa fach sy’n ategu arolygon meintiol Ofcom o lythrennedd yn y cyfryngau. Mae’r prosiect yn dilyn yr un 19 unigolyn dros gyfnod ac yn cyfweld â nhw ar gamera bob blwyddyn i drafod eu harferion a'u hagweddau yng nghyswllt cyfryngau.
Mae’r cyfweliadau’n rhoi tystiolaeth ynghylch yr hyn sy’n eu cymell i ddefnyddio cyfryngau a chyd-destun hynny, a sut mae dyfeisiau a gwasanaethau cyfryngau yn rhan o fywyd bob dydd ac amgylchiadau domestig. Mae’r prosiect hefyd yn rhoi manylion gwerthfawr i ni ynghylch sut mae arferion ac agweddau yng nghyswllt cyfryngau yn newid dros amser, yn enwedig o ran cyfnod unigolyn mewn bywyd.
Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg.
2026
Y Cyfryngau ym Mywydau Oedolion 2026 - Astudiaeth Feintiol -Crynodeb Ton 21
2025
Y Cyfryngau ym Mywydau Oedolion 2025 - Astudiaeth Feintiol -Crynodeb Ton 20
2024
Y Cyfryngau ym Mywydau Oedolion 2024 - Astudiaeth Feintiol -Crynodeb Ton 19
2023
Y Cyfryngau ym Mywydau Oedolion 2023 - Astudiaeth Feintiol -Crynodeb Ton 18
2022
Y Cyfryngau ym Mywydau Oedolion 2022 - Astudiaeth Feintiol -Crynodeb Ton 17
2021
Y Cyfryngau ym Mywyd Oedolion 2021: Astudiaeth Feintiol-Crynodeb Ton 16
Am adroddiadau hŷn sydd heb eu rhestru uchod, ewch i'r Archif Genedlaethol.