
Heddiw, cyhoeddodd Ofcom ymchwil newydd yn datgelu sut mae pobl yn y DU yn defnyddio, yn deall ac yn teimlo am y cyfryngau a'r gwasanaethau ar-lein maen nhw'n rhyngweithio â nhw yn eu bywydau bob dydd.
Yn unol â'n dyletswydd i hyrwyddo ac ymchwilio i lythrennedd yn y cyfryngau, mae adroddiadau ymchwil blynyddol Defnydd ac Agweddau Cyfryngau Oedolion a Bywydau Cyfryngau Oedolion Ofcom yn olrhain tueddiadau yn arferion cyfryngau ac ymddygiadau ar-lein y genedl dros y flwyddyn ddiwethaf. [1]
Mae'r ymchwil yn datgelu, ymhlith pethau eraill, perthnasoedd mwy gofalus â'r cyfryngau cymdeithasol; mabwysiadu offer AI yn gyflym; parhad mentergarwch ar-lein; a safbwyntiau cymysg o ran ymddiriedaeth mewn ffynonellau newyddion.
Dyma grynodeb o brif dueddiadau eleni:
Oedolion yn llai gweithredol ar gyfryngau cymdeithasol, gan ffafrio postiadau hyd oes gyfyngedig dros rai parhaol:
Mae'r defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol yn parhau i fod yn eang, gyda naw o bob 10 defnyddiwr rhyngrwyd sy'n oedolion (89%) yn defnyddio o leiaf un platfform cyfryngau cymdeithasol, gan godi i 97% ymhlith pobl ifanc 16–34 oed.
Fodd bynnag, mae'r ymchwil yn awgrymu bod defnydd cyfryngau cymdeithasol yn dod yn fwy goddefol a gofalus. Mae tua hanner y defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol sy'n oedolion (49%) bellach yn postio, rhannu neu wneud sylwadau yn weithredol - i lawr o 61% yn 2024 - tra bod y gyfran sy'n archwilio gwefannau newydd wedi gostwng o 70% i 56% yn ystod yr un cyfnod [2].
Mynegodd cyfranogwyr yn ein hastudiaeth ansoddol y Cyfryngau ym mywyd Oedolion hefyd eu bod dethol beth a sut maen nhw'n postio ar gyfryngau cymdeithasol. Mae rhai wedi rhoi'r gorau i bostio’n gyfan gwbl, tra bod eraill yn ymddangos yn fwy ymwybodol o'u hôl troed digidol, gan ffafrio postiadau oes gyfyngedig - er enghraifft Straeon Instagram yn hytrach na phostio ar y 'Grid' parhaol. Mae mwy o oedolion na'r llynedd yn pryderu y bydd eu postiadau ar-lein yn achosi problemau iddynt yn y dyfodol (49% o’i gymharu â 43%).
Mae pryderon ynghylch amser sgrin yn gyffredin:
Gostyngodd cyfran yr oedolion ar-lein sy'n teimlo bod manteision bod ar-lein yn gorbwyso'r risgiau i 59%, i lawr o 72% y llynedd. Mae llai o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol hefyd yn dweud bod platfformau cyfryngau cymdeithasol yn dda i'w hiechyd meddwl (36% i lawr o 42%).
Mae pryderon ynghylch amser sgrin yn gyffredin, gyda dwy ran o dair (67%) yn cyfaddef eu bod weithiau'n treulio gormod o amser ar eu dyfeisiau, tra bod 40% yn dweud bod hyn yn digwydd y rhan fwyaf o ddyddiau. Mabwysiada rhai cyfranogwyr yn ein hastudiaeth ansoddol strategaethau penodol i gymryd amser i ffwrdd o'u sgriniau, gan gynnwys gosod terfynau amser ar eu dyfais, dileu apiau, a gadael eu ffôn clyfar ar ôl wrth adael y tŷ.
Mae mabwysiadu AI yn cyflymu, gan gynnwys ar gyfer cwmnïaeth a chreadigrwydd:
Mae mwy na hanner (54%) o oedolion y DU bellach yn defnyddio offer AI, fel ChatGPT, Copilot neu Gemini, yn enwedig y defnydd ymhlith oedolion iau (79% o bobl 16-24 oed a 74% o 25-34 oed). Dywedodd tua un o bob wyth (12%) o ddefnyddwyr AI eu bod yn defnyddio'r offer hwn at ddibenion sgwrsio, gan godi i tua un o bob pump o bobl ifanc 25-34 oed (19%).
Ymddengys bod rhai cyfranogwyr yn ein hastudiaeth ansoddol yn rhyngweithio ag AI fel pe bai'n berson, yn aml yn anymwybodol. Mewn rhai achosion, adroddwyd eu bod yn defnyddio AI i geisio cyngor ar ôl toriad perthynas neu’n gwmni iddynt wrth weithio gartref. Mae AI hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer tasgau creadigol, gan gynnwys cynllunio cynllun ystafelloedd, ysgrifennu araith priodas a chreu gwaith celf.
Mae ymddiriedaeth mewn ffynonellau newyddion yn gymysg ac yn fwy rhanedig:
Mae'r rhan fwyaf o oedolion (85%) yn dweud eu bod yn defnyddio cyfryngau prif ffrwd [3] ar gyfer newyddion, ond mae ymddiriedaeth yn amrywio. Mae tua un o bob pump o oedolion (19%) yn dweud eu bod bob amser yn ymddiried ynddo i fod yn gywir, er bod cyfran debyg (21%) bob amser yn cwestiynu ei gywirdeb.
Mae'r rhaniad ymddiriedaeth hwn hefyd yn cael ei adlewyrchu yn ein hymchwil ansoddol. Er bod y mwyafrif o'r cyfranogwyr hyn yn ystyried mai'r prif frandiau cyfryngau darlledu yw'r ffynonellau mwyaf dibynadwy ar gyfer straeon newyddion am wleidyddiaeth y DU neu wrthdaro dramor, mae rhai yn amau’r cyfryngau prif ffrwd yn fawr [3], gan ffafrio cael mynediad at eu newyddion gan grewyr cynnwys annibynnol a newyddiadurwyr dinasyddion ar YouTube. Mae'n ymddangos bod y ddau grŵp yn dod yn fwy sefydlog yn eu barn.
Gweithgareddau ar-lein sy'n cynhyrchu incwm:
Mae cyfranogwyr yn ein hastudiaeth Cyfryngau ym mywyd Oedolion yn parhau i chwilio am ffyrdd o ddefnyddio'r rhyngrwyd i gynhyrchu incwm. Mae rhai yn defnyddio marchnadoedd ar-lein fel Vinted ac Amazon Marketplace yn lled-broffesiynol i werthu eitemau diangen, tra bod eraill yn nodi eu bod wedi sefydlu mentrau manwerthu bach ar Facebook neu hyd yn oed yn ymwneud â Bitcoin.
Gwylio YouTube yn unig ymhlith dynion:
I gyfranogwyr yn ein hastudiaeth ansoddol, mae YouTube, yn y blynyddoedd blaenorol, wedi cael ei ddefnyddio yn bennaf i gael mynediad at gynnwys sy'n gysylltiedig â'u diddordebau personol. Fodd bynnag, o'r don ddiweddaraf o ymchwil mae'n ymddangos ei fod bellach yn gwasanaethu ystod ehangach o chwaeth ac anghenion gwylio. Mae'r rhain yn cynnwys gwylio "cefndir" - weithiau yn lle teledu yn ystod y dydd - a fideos am lu o bynciau ar hap ac eclectig.
I rai cyfranogwyr gwrywaidd yn ein hastudiaeth ansoddol, YouTube yw eu prif neu unig ffurf o wylio. Soniodd cyfranogwyr sut mae'r algorithm, y swyddogaeth chwilio a thanysgrifiadau sianel yn ei gwneud hi'n hawdd dod o hyd i gynnwys diddorol i'w wylio, o'i gymharu â sgrolio trwy ganllaw rhaglen electronig neu lywio rhyngwyneb gwasanaeth ffrydio.
Mae hyder ar-lein yn uchel, ond nid yw hyn bob amser yn adlewyrchu sgiliau:
Mae hyder cyffredinol ar-lein yn uchel (89%), ond mae hyder mewn sgiliau penodol, fel adnabod hysbysebu (81%) neu farnu cywirdeb (72%), yn is. Pan wnaethom brofi gallu pobl i adnabod proffil cyfryngau cymdeithasol ffug, defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol iau (16–24 oed) wnaeth berfformio orau (88%) tra bod pobl ifanc 25-34 a 35–44 oed, er eu bod yn weithgar iawn ar-lein, y mwyaf tebygol o gamfarnu (17% a 15% yn y drefn honno). Pan gyflwynwyd e-bost sgam iddynt, nododd mwyafrif o oedolion ar-lein (82%) y byddent yn ymateb yn ofalus, er bod hyn wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf - i lawr o 88% yn 2022.
Nodiadau i olygyddion
- Mae'r canfyddiadau yn darparu cyd-destun pellach ar gyfer ein gweithgarwch ehangach gyda sefydliadau ar lawr gwlad, corfforaethau , llunwyr polisi a llwyfannau [1] fel y nodir yn ein Strategaeth Llythrennedd yn y Cyfryngau Tair Blynedd
- Mae tueddiadau eleni yn arwyddocaol oherwydd newidiadau mewn methodoleg.
- Gofynnwyd i'r ymatebwyr feddwl am eu barn ar "ffynonellau cyfryngau prif ffrwd, felly sefydliadau newyddion fel y BBC, ITV, Sky News, y wasg fel The Sun, The Times, The Guardian, y Daily Mail ac ati".
- Mae'r Traciwr Defnydd ac Agweddau Cyfryngau Oedolion yn arolwg meintiol o 7,533 o oedolion 16+ oed yn y DU. Cynhaliwyd gwaith maes rhwng 29 Medi a 28 Tachwedd 2025 drwy gymysgedd o baneli ar-lein a chyfweliadau wyneb yn wyneb.
- Mae Cyfryngau ym Mywyd Oedolion yn brosiect ansoddol, hydredol, sydd wedi bod yn rhedeg ers 2005. Mae'n dilyn tua20 o gyfranogwyr dros amser, gyda mwy na hanner wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth am o leiaf 15 mlynedd. Cynhelir cyfweliadau o hyd at 90 munud wyneb yn wyneb yng nghartrefi cyfranogwyr er mwyn deall eu perthynas â'r cyfryngau a thechnoleg a sut maent wedi esblygu dros amser.
Cynnwys cysylltiedig