Children's Passive Online Measurement

Cyhoeddwyd: 2 Medi 2026

Mae'r astudiaeth Mesur Defnydd Goddefol Plant Ar-lein yn archwilio'r gwefannau a'r apiau y mae  plant 8-14 oed yn y DU yn ymweld â nhw a pha mor hir a dreuliwyd ar y gwasanaethau yr ymwelwyd â nhw.

Ofcom yw'r rheoleiddiwr ar gyfer diogelwch ar-lein yn y DU. Ein rôl yw sicrhau bod gwasanaethau ar-lein, fel gwefannau ac apiau, yn cyflawni  eu dyletswyddau i ddiogelu eu defnyddwyr o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 ('y Ddeddf'). Er mwyn cefnogi'r gwaith hwn, mae'n hanfodol bod gennym sylfaen dystiolaeth gadarn ar brofiadau ar-lein pobl – gan gynnwys  plant, pa wasanaethau y maent yn eu defnyddio, ac am ba hyd. Am y rheswm hwn y mae Ofcom wedi cynnal  astudiaeth Mesur Defnydd Goddefol Plant Ar-lein.  

Mae'r astudiaeth yn mesur sampl gynrychioliadol y DU o blant 8-14 oed ar-lein yn defnyddio gwefannau ac apiau ar draws ffonau clyfar, tabledi a chyfrifiaduron. Er mwyn casglu'r data hwn, roedd gan y plant a recriwtiwyd feddalwedd monitro goddefol wedi'i gosod ar y dyfeisiau a ddefnyddiwyd ganddynt gyda'r data’n cael ei adrodd yn ôl yn ddienw. Mesurwyd defnydd rhyngrwyd y plant dros gyfnod o 28 diwrnod yn olynol ar gyfer pob panelydd.

Mae mesur defnydd goddefol plant ar-lein yn offeryn pwysig yn ein rhaglen ehangach o ymchwil plant sy'n llywio ein gwaith ar draws diogelwch ar-lein, darlledu a llythrennedd yn y cyfryngau. Mae gweld teithiau ar-lein go iawn blant yn dod â ni'n agosach at ddeall yr heriau y maent yn eu hwynebu ar-lein a sut i wella eu bywydau ar-lein.

Adroddiad Mai 2026

Lawrlwythwch adroddiad Mesur Defnydd Goddefol Plant Ar-lein 2026

Mae'r adroddiad atodol hwn yn dilyn ein hadroddiad Mai 2026 sy'n archwilio ymweliadau plant â gwasanaethau pornograffi yn benodol.

Children's Passive Online Measurement - Pornography services report 2026 (Saesneg)

Adroddiad rhyngweithiol: