
Mae Ofcom wedi cytuno i ddatrys anghydfod rhwng y Post Brenhinol a'i gwsmeriaid cyfanwerthol ynghylch y cynnydd y mae'r cwmni'n bwriadu ei wneud i'w brisiau cyfanwerthu.
O dan Ddeddf Gwasanaethau Post 2011, gall Ofcom ymdrin ag anghydfodau rhwng gweithredwyr post lle mae trafodaethau masnachol wedi methu, neu lle nad ydynt fel arall yn gallu eu datrys. Nid yw anghydfodau o'r fath yn gyfystyr â chamau gorfodi ffurfiol yn erbyn gweithredwr.
Prisiau cyfanwerthu’r Post Brenhinol yn cynyddu
Mae cwsmeriaid cyfanwerthu’r Post Brenhinol yn gwmnïau post sy'n casglu ac yn didoli 'post swmp' – y llythyrau a anfonir gan sefydliadau mawr fel banciau, adrannau'r llywodraeth a'r GIG – cyn eu trosglwyddo i'r Post Brenhinol i'w ddosbarthu. Gelwir y cwmnïau post hyn yn weithredwyr mynediad.
O dan reolau Ofcom, rhaid i'r Post Brenhinol gynnig mynediad i'w rwydwaith post ar gyfer post swmp. Mae'r telerau, yr amodau a’r taliadau ar gyfer y mynediad hwn yn cael eu gosod gan y Post Brenhinol, ond rhaid iddynt fod yn deg ac yn rhesymol.
Ar 23 Gorffennaf 2026, hysbysodd y Post Brenhinol ei gwsmeriaid cyfanwerthu am gynnydd mewn prisiau ar gyfer ei wasanaethau mynediad, a oedd i fod i ddod i rym ar 5 Hydref 2026. Lle mae gweithredwyr mynediad yn trosglwyddo cynnydd mewn prisiau i'w cwsmeriaid – y sefydliadau mawr – maent fel arfer yn rhoi 30 diwrnod o rybudd iddynt.
Yr anghydfod
Mae aelodau o Fforwm Cystadleuaeth y Post, sy'n cynrychioli sawl gweithredwr mynediad y DU, wedi cyflwyno anghydfod i Ofcom mewn perthynas â lefel y cynnydd diweddaraf ym mhrisiau cyfanwerthu‘r Post Brenhinol.
Yn benodol, byddwn yn penderfynu a yw’r cynnydd y Post Brenhinol yn ei brisiau cyfanwerthu yn gyfystyr â thelerau, amodau a thaliadau teg a rhesymol yn unol â'n rheolau.
Camau nesaf
Yn unol â'n canllawiau, rydym yn bwriadu cyhoeddi ein penderfyniad ar yr anghydfod hwn o fewn pedwar mis. O dan delerau contractau'r Post Brenhinol, bydd y cynnydd yn ei brisiau cyfanwerthu yn cael ei ohirio hyd nes y caiff ein penderfyniad ei chyhoeddi.
Mae canllawiau Ofcom ar gyfer ymdrin ag anghydfodau rheoleiddiol ar gael ar ein gwefan.
Cynnwys cysylltiedig