Gadgets HERO (1336 × 560px) (2)

Ofcom i fynd i’r afael â lledaeniad delweddau personol anghyfreithlon a delweddau ffug dwfn, gan hybu diogelwch i fenywod a merched ar-lein

Cyhoeddwyd: 9 Medi 2026

Mae’r corff gwarchod diogelwch ar-lein, Ofcom, wedi rhybuddio cwmnïau technoleg mai dim ond wythnosau sydd ganddynt ar ôl i roi mesurau ar waith i atal delweddau personol anghyfreithlon a ffug dwfn rhag lledaenu ar eu platfformau.

Heddiw, mae'r rheoleiddiwr yn agor rhaglen orfodi i fonitro eu hymdrechion i fynd i’r afael â lledaeniad delweddau o'r fath. Erbyn 30 Medi, dylai platfformau ar-lein gael technoleg awtomataidd ar waith a elwir yn 'paru hash' i ganfod delweddau personol anghyfreithlon a’u hatal rhag cael eu lledaenu, gan gynnwys delweddau ffug dwfn penodol a gynhyrchir gan AI. Os nad ydynt wedi rhoi paru hash ar waith, rhaid iddynt brofi bod eu systemau a'u prosesau yn atal lledaeniad Delweddau Personol Heb Gydsyniad (NCII) trwy ddulliau eraill sydd yr un mor effeithiol. Gallai unrhyw gwmnïau sy'n methu â chydymffurfio â'u dyletswyddau cyfreithiol wynebu cosbau sylweddol, gan gynnwys dirwyon o hyd at 10% o'u refeniw blynyddol byd-eang.

Dim ond un enghraifft o’r niwed sylweddol y mae menywod a merched yn ei wynebu ar-lein yw lledaeniad delweddau ffug dwfn anghyfreithlon. Mae tystiolaeth yn dangos eu bod yn  wynebu ymosodiadau a chamdriniaeth anghymesur, sydd mewn rhai achosion yn eu hatal rhag gweithio mewn swyddi maen nhw'n eu caru neu gael eu llais wedi’i glywed ar-lein. Mae Ofcom yn benderfynol o fynnu gwelliannau parhaol yn y ffordd y mae cwmnïau technoleg yn atal ac yn ymateb i'r gamdriniaeth hon, ac mae mynd i'r afael â'r mater yn brif flaenoriaeth.

Mae Ofcom wedi partneru â SWGfL, y sefydliad sy'n arwain y diwydiant y tu ôl i gronfa ddata paru hash StopNCII.org a'r Llinell gymorth Revenge Porn i gynnal y gwaith hwn. Byddant yn rhannu gwybodaeth, arbenigedd a thystiolaeth am ddulliau effeithiol o fynd i'r afael â cham-drin delweddau personol ar-lein. Mae Ofcom yn parhau i argymell bod platfformau yn defnyddio offeryn paru hash StopNCII sy'n arwain y diwydiant.

Byddwn ni hefyd, erbyn diwedd y flwyddyn hon, yn ymgynghori ar gryfhau ein Codau Ymarfer Niwed Anghyfreithlon i adlewyrchu newidiadau i'r gyfraith sy’n ei gwneud yn ofynnol i blatfformau gael gwared ar gynnwys delweddau personol nad yw'n gydsyniol o fewn 48 awr iddo gael ei adrodd.

Camau pellach i ddiogelu menywod a merched ar-lein

Mae ein partneriaethau â chymdeithas sifil wedi bod yn allweddol wrth sicrhau canlyniadau gwell i fenywod a merched ar-lein. Heddiw, rydym yn gofyn am dystiolaeth bellach gan academyddion, grwpiau cymorth goroeswyr a dioddefwyr, ac eraill ar sut y gallai profiadau menywod a merched ar-lein fod wedi newid ers cyhoeddi ein Canllawiau ar gyfer Bywyd Mwy Diogel Ar-lein i Fenywod a Merched y llynedd.

Mae'r canllawiau yn eglur ein bod yn disgwyl i wasanaethau gymryd camau pendant mewn meysydd lle mae angen gwelliannau’n gyflym, nid yn unig o ran mynd i'r afael â lledaeniad cam-drin delweddau personol, ond hefyd:

  • lleihau cyrhaeddiad a lledaeniad cam-drin misogynistaidd neu drais rhywiol;
  • atal pentyrru (pile-ons) ac aflonyddu ar-lein cydlynol;
  • cryfhau amddiffyniadau preifatrwydd, gan gynnwys cyfyngu ar nodweddion rhannu lleoliad;
  • gwella offer adrodd a chymorth i ddioddefwyr.

Bydd y dystiolaeth a gesglir ar ba mor effeithiol y mae gwasanaethau’n mynd i'r afael â'r problemau hyn yn llywio adroddiad, a gyhoeddir yr haf nesaf, ar y cynnydd a wnaed gan y diwydiant, o ran lleihau niwed ar-lein i fenywod a merched. Os bydd eu camau gweithredu’n methu, byddwn yn ystyried gwneud argymhellion ffurfiol i'r Llywodraeth ynghylch cryfhau'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Mae gan randdeiliaid tan 6 Tachwedd 2026 i ymateb.

Ewch i'n gwefan i gael gwybod mwy am gynllun gweithredu Ofcom i ddiogelu menywod a merched ar-lein.

Dywedodd Almudena Lara, cyfarwyddwr datblygu polisi diogelwch ar-lein Ofcom:

"Gall cam-drin delweddau personol heb ganiatâd gael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr, gan achosi gofid a niwed parhaol.

"Mae gan gwmnïau technoleg gyfrifoldeb cyfreithiol i roi'r offer cywir ar waith i atal y math hwn o gynnwys hynod niweidiol rhag lledaenu ar eu gwasanaethau. Mae'r dyddiad cau yn prysur agosáu a gall cwmnïau sy'n methu â chydymffurfio â'u dyletswyddau ddisgwyl i ni gymryd camau cadarn o dan ein rhaglen orfodi, a lansiwyd heddiw.

"Fel rhan o'r ymdrech ar y cyd i greu bywyd mwy diogel ar-lein i fenywod a merched yn y DU, rydym yn falch o fod yn meithrin perthynas waith agosach gyda sefydliadau arbenigol fel SWGfL. Er mwyn dwyn platfformau i gyfrif, rydym hefyd heddiw yn gwahodd tystiolaeth gan grwpiau eiriolaeth menywod ac elusennau ar ba mor effeithiol y mae cwmnïau technoleg yn mynd i'r afael â niwed sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched, yn unol â'n canllawiau. Byddwn yn adrodd ein canfyddiadau'n gyhoeddus, ochr yn ochr â thystiolaeth arall, y flwyddyn nesaf fel y cynlluniwyd, i lywio a chyfeirio camau pellach yn y dyfodol."

Dywedodd David Wright, Prif Weithredwr SWGfL:

"Mae ein gwaith trwy'r Llinell Gymorth Revenge Porn yn rhoi mewnwelediad uniongyrchol, dyddiol i ni i'r niwed hwn, ac mae'r galw yn parhau i dyfu'n sydyn, gyda'n hymchwil yn awgrymu bod dros 369,000 o fenywod yn y DU yn profi'r camdriniaeth hon yn flynyddol. Dyna pam mae atal mor bwysig. 

Mae offer fel StopNCII.org yn caniatáu i berson greu olion bysedd digidol o ddelwedd bersonol, gan gynnwys delweddau ffug dwfn a gynhyrchir gan AI, o'u dyfais eu hunain, fel y gellir ei rwystro cyn iddo fyth gael ei rannu, heb i'r ddelwedd ei hun adael eu meddiant. Mae gofyn i blatfformau fabwysiadu paru hash yn gam hanfodol tuag at atal y camdriniaeth hon cyn iddi ledaenu, yn hytrach nag ymateb yn unig unwaith y bydd y niwed eisoes wedi'i wneud. Mae'r seilwaith eisoes yn ei le ac yn barod i blatfformau ei ddefnyddio."

I gael yr ystadegau diweddaraf ar ba mor gyffredin yw cam-drin delwedd bersonol: revenge-porn-helpline-2025.pdf