Ffurflen mynegiant diddordeb uwch-gŵynion diogelwch ar-lein

Cyhoeddwyd: 27 Hydref 2025
Diweddarwyd diwethaf: 10 Chwefror 2026

Dyma'r ffurflen mynegiant o ddiddordeb  we ar gyfer sefydliadau sy'n awyddus i wneud uwch-gŵyn o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023.

Darllenwch ein canllawiau terfynol ar uwch-gŵynion terfynol a’n tudalen we ar uwch- ŵynion cyn cysylltu ag Ofcom drwy'r ffurflen we hon.

Dim ond ar gyfer sefydliadau sy'n gymwys i wneud uwch-gŵyn y bwriedir hyn. Gweler y canllawiau terfynol ar uwch-gŵynion am ragor o wybodaeth.

Os ydych chi'n aelod o'r cyhoedd sy'n pryderu am rywbeth rydych chi wedi'i weld ar-lein, gallwch roi gwybod i Ofcom drwy ein porth cwynion.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Am resymau diogelwch, dim ond ar gais y byddwn yn darparu'r blwch post cyflwyno uwch-gŵynion. Bydd cydweithiwr Ofcom mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl i drafod eich uwch-gŵyn, byddwn yn anfon copi o’r templed achos, a darparu mynediad i'r blwch post cyflwyno.

Dylai sefydliadau gwblhau'r templed achos a pharatoi'r wybodaeth ategol, yna ei chyflwyno i'r blwch post cyflwyno.

Bydd y terfyn amser ar gyfer yr asesiad cymhwysedd yn dechrau pan dderbynnir templed wedi’i gwblhau a’r wybodaeth ategol.

Ffurflen mynegiant diddordeb ar gyfer uwch-gŵynion diogelwch ar-lein

Ticiwch unrhyw rai sy'n berthnasol: