
Heddiw, mae Ofcom wedi lansio dau ymchwiliad i weld a yw Kick Online Entertainment S.A. wedi methu cydymffurfio â’i ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y Deyrnas Unedig.
Dyletswyddau o dan y Ddeddf
Mae’n ofynnol bod darparwyr gwasanaethau sydd o fewn cwmpas y Ddeddf yn asesu’r risg y bydd pobl yn y DU yn dod ar draws cynnwys anghyfreithlon ar eu gwasanaeth, ac yn cymryd camau priodol i’w diogelu rhagddynt.
Yn ogystal, mae’n rhaid i ddarparwyr ymateb i bob cais statudol gan Ofcom am wybodaeth, a hynny mewn ffordd gywir, gyflawn ac amserol.
Gorfodi’r Ddeddf
Ar 3 Mawrth 2025, fe wnaethom agor rhaglen orfodi i fonitro a yw darparwyr yn cydymffurfio â’u dyletswyddau o dan y Ddeddf – i gynnal asesiad risg o gynnwys anghyfreithlon a chadw cofnodion priodol o’u hasesiadau.
Fel rhan o’r rhaglen hon, fe wnaethom gyflwyno cais am wybodaeth i Kick Online Entertainment S.A., sy’n gyfrifol am ddarparu’r wefan pornograffi Motherless.com.[1] Gofynnom iddo gyflwyno’r cofnod o’i asesiad risg o gynnwys anghyfreithlon i ni er mwyn i ni allu ystyried a yw’n cydymffurfio â’i ddyletswyddau.
Gan nad ydym wedi cael ymateb i’n cais, rydym wedi lansio ymchwiliadau heddiw i weld a yw’r darparwr hwn wedi methu yn ei ddyletswyddau i wneud y canlynol:
- cwblhau asesiad risg addas a digonol o gynnwys anghyfreithlon; ac
- ymateb i gais statudol am wybodaeth.
Rydym wedi cael cwynion am y posibilrwydd o weithgarwch a chynnwys anghyfreithlon ar y wefan hon, gan gynnwys deunydd cam-drin plant yn rhywiol a phornograffi eithafol. Yng ngoleuni hyn, byddwn hefyd yn ystyried a yw’r darparwr wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i ddiogelu ei ddefnyddwyr yn y DU rhag gweithgarwch a chynnwys anghyfreithlon, ac efallai y byddwn yn lansio ymchwiliad ychwanegol i’w gydymffurfiad â’r ddyletswydd hon os yw hynny’n briodol.
Beth sy’n digwydd nesaf
Mae cyfraith y DU yn nodi’r broses mae’n rhaid i Ofcom ei dilyn wrth ymchwilio i ddarparwr a phenderfynu a yw wedi methu cydymffurfio â’i rwymedigaethau cyfreithiol.
Byddwn yn awr yn casglu ac yn dadansoddi tystiolaeth i benderfynu a oes tramgwydd wedi digwydd. Os bydd ein hasesiad yn dangos methiant o ran cydymffurfio, byddwn yn rhoi hysbysiad dros dro o dramgwyddo i’r darparwr, a fydd wedyn yn gallu cyflwyno sylwadau ar ein canfyddiadau, cyn i ni wneud ein penderfyniad terfynol.
Byddwn yn darparu diweddariadau rheolaidd wrth i’r ymchwiliadau hyn fynd rhagddynt.
Pwerau gorfodi
Pan fyddwn yn canfod methiannau o ran cydymffurfio, gallwn ei gwneud yn ofynnol i lwyfannau gymryd camau penodol er mwyn cydymffurfio. Gallwn hefyd roi dirwyon o hyd at £18 miliwn, neu 10% o’u refeniw byd-eang cymwys, pa un bynnag sydd fwyaf.
Lle y bo’n briodol, yn yr achosion mwyaf difrifol, gallwn hefyd ofyn am orchymyn llys ar gyfer ‘mesurau tarfu ar fusnes’, fel mynnu bod darparwyr taliadau neu hysbysebwyr yn tynnu eu gwasanaethau o lwyfan, neu fynnu bod Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd yn rhwystro mynediad i wefan yn y Deyrnas Unedig.
Gweithgarwch gorfodi parhaus arall
Fis diwethaf, fe wnaethom agor rhaglen orfodi i ddelweddau o blant yn cael eu cam-drin yn rhywiol ar wasanaethau rhannu ffeiliau, a lansio ymchwiliad i fforwm hunanladdiad ar-lein.
Ym mis Ionawr, fe wnaethom agor rhaglen orfodi ar gyfer mesurau sicrhau oedran yn y sector oedolion, a’r wythnos diwethaf fe wnaethom lansio ymchwiliadau i ddau wasanaeth pornograffig.
Rydym yn disgwyl gwneud cyhoeddiadau ychwanegol am gamau gorfodi ffurfiol dros y misoedd nesaf, yn enwedig gyda rhagor o ddyletswyddau’n dod i rym o dan y Ddeddf.
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion:
1. Lle y bo’n bosibl, rydym yn nodi’r rhai sy’n destun ymchwiliad er tryloywder, ond byddem yn rhybuddio ein bod wedi cael cwynion am y posibilrwydd o weithgarwch a chynnwys anghyfreithlon ar y llwyfan hwn, gan gynnwys deunydd cam-drin plant yn rhywiol a phornograffi eithafol.