News Centre HERO (1336 × 560px)

Gweithredu’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein: Ofcom yn rhoi dirwy o £20,000 i wasanaeth rhannu ffeiliau

Cyhoeddwyd: 17 Rhagfyr 2025
  • Mae’r corff gwarchod hefyd yn cadarnhau bod y cwmni porn AVS bellach wedi cyflwyno gwiriadau oedran newydd ar ei holl safleoedd sy'n cael eu hymchwilio, ar ôl dirwy gan Ofcom

Heddiw, mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £20,000 i wasanaeth rhannu ffeiliau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU am beidio ag ymateb i geisiadau cyfreithiol rhwymol am wybodaeth.

Mynd i'r afael â cham-drin plant yn rhywiol ar wasanaethau rhannu ffeiliau

Yn gynharach eleni, daeth dyletswyddau newydd i rym sy'n ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau technoleg asesu'r risg o bobl yn y DU ddod ar draws cynnwys anghyfreithlon ar eu platfformau, ac i asesu sut y gellid defnyddio eu gwasanaeth i gyflawni neu hwyluso rhai troseddau. Rhaid i ddarparwyr gymryd camau priodol i leihau'r risgiau hyn.

Pan ddaeth y dyletswyddau hyn i rym, fe wnaethom lansio camau gorfodi ar unwaithi asesu'r mesurau diogelwch a gymerir gan wasanaethau rhannu ffeiliau, sy'n arbennig o agored i gael eu cam-fanteisio gan droseddwyr i ddosbarthu deunydd cam-drin plant yn rhywiol (CSAM) ar raddfa fawr. Mae lledaeniad y deunydd hwn yn achosi niwed dinistriol i ddioddefwyr ac mae'n parhau i fod yn un o'r heriau diogelwch ar-lein mwyaf difrifol.

Fel rhan o'r gwaith gorfodi hwn, fe wnaethom anfon ceisiadau am wybodaeth sy'n gyfreithiol rwymol at nifer o'r gwasanaethau hyn ynghylch y mesurau sydd ganddynt ar waith i fynd i'r afael â chynnwys anghyfreithiol, gan  ei gwneud yn ofynnol iddynt gyflwyno cofnod o'u hasesiadau risg cynnwys anghyfreithlon i ni.

Mewn ymateb i'n camau gorfodi, mae rhai gwasanaethau bellach wedi defnyddio technoleg paru hash canfyddiadol - offeryn awtomataidd pwerus sy'n gallu canfod a chael gwared ar gynnwys anghyfreithlon yn gyflym cyn iddo ledaenu ymhellach, sef un o'r mesurau diogelwch craidd a nodir yn ein codau ymarfer niwed anghyfreithlon.

Mae darparwyr eraill wedi cymryd camau i atal pobl yn y DU rhag cael mynediad i'w safleoedd. Mae hyn wedi lleihau’r tebygolrwydd y bydd pobl yn y DU yn agored i gynnwys anghyfreithlon ar y gwasanaethau hyn.

Dirwyo darparwyr wnaeth ddim ymateb

Mae casglu gwybodaeth gywir gan gwmnïau rheoleiddiedig yn hanfodol i'n gwaith o wneud bywyd yn fwy diogel ar-lein i bobl yn y DU. Er mwyn asesu a monitro cydymffurfiaeth y diwydiant â'u dyletswyddau diogelwch, rydym yn cyhoeddi ceisiadau gwybodaeth ffurfiol yn rheolaidd. Mae'n ofynnol i gwmnïau, yn ôl y gyfraith, ymateb i bob cais o'r fath gan Ofcom mewn ffordd gywir, gyflawn ac amserol.

Nid yw un gwasanaeth rhannu ffeiliau sy'n destun ymchwiliad wedi darparu'r wybodaeth a ofynnwyd amdano mewn dau gais am wybodaeth statudol, a oedd yn cynnwys copi o'i asesiad risg cynnwys anghyfreithlon, a gwybodaeth sy'n ymwneud â'i refeniw byd-eang cymwys. O ganlyniad, mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £20,000 i'r darparwr.

Byddwn hefyd yn gosod cosb ddyddiol o £100 y dydd, gan ddechrau yfory, am naill ai 60 diwrnod neu hyd nes y bydd y cwmni’n darparu’r wybodaeth hon i ni, pa un bynnag sydd gyntaf.

Mae camau gorfodi yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol 

  Mae Ofcom hefyd wedi cadarnhau heddiw fod AVS Group Ltd – a gafodd ddirwy o £1 miliwn yn ddiweddar gan y rheoleiddiwr am beidio â chael gwiriadau oedran cadarn ar waith ar 18 o safleoedd  oedolion  – bellach wedi cyflwyno proses sicrhau oedran newydd ar bob safle a oedd yn destun ein hymchwiliad.

Rydym yn parhau i fonitro'r safleoedd hyn i sicrhau bod prosesau o'r fath yn effeithiol iawn wrth atal plant rhag cael mynediad at gynnwys pornograffig.

Dywedodd Suzanne Cater, Cyfarwyddwr Gorfodi yn Ofcom: "Dylai unrhyw gwmni sy'n methu ag ymgysylltu ag Ofcom a'u dyletswyddau o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein ddisgwyl wynebu camau gorfodi cadarn.

"Rhaid i safleoedd porn ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol i ddiogelu plant. Rydym wedi dangos y byddwn yn defnyddio ein pwerau gorfodi i sicrhau'r canlyniad hwn, ac mae AVS wedi cyflwyno gwiriadau oedran newydd ar ôl i ni eu dirwyo."