Children on laptop Hero

Ofcom yn rhoi dirwy o £1 miliwn i gwmni porn am beidio â chael gwiriadau oedran effeithiol

Cyhoeddwyd: 4 Rhagfyr 2025
  • Mae’r corff gwarchod hefyd yn adrodd ar sut mae llwyfannau wedi ymateb i gyfreithiau diogelwch ar-lein newydd y DU eleni

Heddiw, mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £1 miliwn i AVS Group Ltd – sy'n rhedeg 18 o wefannau oedolion – am beidio â chael gwiriadau oedran hynod effeithiol ar waith, ynghyd â dirwy o £50,000 am fethu ag ymateb i geisiadau am wybodaeth.

Daw'r dirwyon heddiw wrth i'r rheoleiddiwr adrodd ar sut mae'r dirwedd diogelwch ar-lein yn newid, fyn dilyn deddfau newydd y DU yn dod i rym eleni.

Dirwyo darparwr porn am beidio â chael gwiriadau oedran effeithiol

O dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU, rhaid i wefannau sy'n cynnal deunydd pornograffig ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol i atal plant rhag cael mynediad rhwydd at y cynnwys hwnnw. 

O fewn dyddiau i'r ddyletswydd hon ddod i rym ym mis Gorffennaf, lansiodd Ofcom ymchwiliadau i ddarparwyr dwsinau o safleoedd oedolion, gan gynnwys AVS Group Ltd. Gyda miliynau o ymwelwyr misol yn y DU, blaenoriaethwyd y gwefannau hyn yn seiliedig ar eu niferoedd defnyddwyr a'r risg o niwed. 

Er bod AVS wedi gweithredu'r hyn y mae'n cyfeirio ato fel gwiriad oedran, nid ydym o'r farn ei fod yn hynod effeithiol, ac rydym wedi rhoi dirwy o £1,000,000 i'r cwmni. Rhaid i AVS nawr weithredu sicrwydd oedran hynod effeithiol o fewn 72 awr i'r penderfyniad heddiw, neu wynebu cosb ddyddiol o £1,000 y dydd.[1] 

Rydym yn parhau i ymchwilio i gydymffurfiaeth gwasanaethau eraill â gofynion gwiriadau oedran a byddwn yn cymryd camau lle bo angen. 

Rydym hefyd wedi rhoi dirwy o £50,000 i AVS am fethu ag ymateb i'n cais am wybodaeth sy'n gyfreithiol rwymol. Byddwn yn gosod cosb ddyddiol o £300 y dydd ar y cwmni, gan ddechrau yfory, nes iddo ymateb, neu am 60 diwrnod, pa un bynnag sydd gyntaf.[2]  

Beth sy'n newid o dan reolau diogelwch ar-lein newydd

Am fwy na dwy ddegawd, mae llwyfannau ar-lein wedi bod heb eu rheoleiddio, yn anatebol ac yn aml yn anfodlon blaenoriaethu diogelwch pobl dros elw. Daeth dyletswyddau cynnwys anghyfreithlon o dan y Ddeddf i rym ym mis Mawrth, a daeth dyletswyddau diogelwch plant i rym ym mis Gorffennaf. 

Mae ymchwil newydd Ofcom, a gyhoeddwyd heddiw, yn dangos bod 58% o rieni yn credu bod y mesurau yn ein codau ymarfer eisoes yn gwella diogelwch plant y DU ar-lein; mae 67% yn teimlo y bydd y mesurau yn gwneud gwahaniaeth yn y dyfodol; ac mae 36% wedi sylwi ar effaith bosibl ar weithgaredd ar-lein eu plentyn. 

Swydd Ofcom yw sicrhau bod cwmnïau technoleg yn asesu'r risg y mae eu platfformau yn ei achosi i ddefnyddwyr y DU ac yn cymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r risgiau hynny. Hyd yn hyn, rydym wedi agor ymchwiliadau i 92 o wasanaethau ar-lein, wedi dirwyo tri darparwr, ac nid yw rhai safleoedd risg uchel bellach ar gael i gyfeiriadau IP y DU. 

Rydym yn craffu ar yr hyn y mae darparwyr yn ei wneud, ac a yw'r rhain yn cyfieithu i fywyd mwy diogel ar-lein i ddefnyddwyr y DU. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

Asesiadau risg - Rydym wedi adolygu 104 o gofnodion asesu risg gan ystod o wasanaethau mawr a bach, sy'n ymestyn dros 10,000 o dudalennau. Gwnaethom ddweud wrth 11 darparwr i wneud mwy o waith, a chyflwynodd pob un ohonynt gofnodion diwygiedig neu wybodaeth atodol. Yn ogystal, mae un cwmni cyfryngau cymdeithasol mawr yn mynd trwy broses unioni cydymffurfiaeth gyda'n tîm Gorfodi, a allai arwain at gamau ffurfiol os nad ydym yn gweld gwelliant digonol yn fuan. Rhwng 1 Mai a 31 Gorffennaf 2026, bydd yn rhaid i ddarparwyr gyflwyno eu hail gofnodion asesu risg i ni ar gais, a ddylai adlewyrchu unrhyw newidiadau sylweddol i'w gwasanaethau a dangos eu bod wedi asesu risgiau cyn i newidiadau gael eu gweithredu.[3]

Gwiriadau oedran a mesurau eraill i ddiogelu plant - Mae mwy na hanner y 100 o wasanaethau oedolion mwyaf poblogaidd yn y DU wedi rhoi mesurau sicrwydd oedran ar waith, yn ogystal â gwasanaethau a ddefnyddir yn helaeth gan gynnwys X, TikTok, Reddit, Bluesky, Telegram, Discord, Roblox, Xbox, Steam, Bumble, Tinder, Hinge a Grindr. Mae ymchwil newydd Ofcom wedi canfod bod 47% o blant 8-17 oed a gwblhaodd ddull gwirio oedran hynod effeithiol, wedi dod ar draws y gwiriad hwn wrth geisio cael mynediad at gynnwys â chyfyngiad oedran ar ôl y dyddiad cau ym mis Gorffennaf o'i gymharu â 30% cyn hynny. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad ar ddefnydd ac effeithiolrwydd mesurau sicrwydd oedran erbyn mis Gorffennaf 2026.

Rhaid i'r llwyfannau a ddefnyddir fwyaf gan blant - gan gynnwys Facebook, Instagram, Pinterest, TikTok, YouTube, Roblox a Snap - ddweud wrthym beth maen nhw'n ei wneud i gadw plant yn ddiogel, a gwneud gwelliannau lle bo angen. Erbyn mis Mai 2026, byddwn yn cyhoeddi data a dadansoddiad ar brofiad ar-lein plant. Byddwn yn darparu diweddariadau pellach ar unrhyw gamau gorfodi yr ydym yn eu hystyried yn angenrheidiol.

Brwydro yn erbyn cam-drin plant yn rhywiol a meithrin perthynas amhriodol - Mae mwy o safleoedd wedi gweithredu technolegau 'paru-hash' i ganfod a dileu deunydd cam-drin plant yn rhywiol (CSAM), yn unol â'n codau; ac mae llawer bellach yn atal oedolion rhag gweld plant mewn awgrymiadau ehangu rhwydwaith, ac yn eu hatal rhag anfon negeseuon preifat at blant nad ydynt wedi eu cysylltu, fel y mae ein codau yn argymell, i leihau’r risgiau o feithrin perthynas amhriodol. Fodd bynnag, mae sawl adroddiad diweddar wedi tanlinellu maint y broblem y mae angen i lwyfannau fynd i'r afael â hi o hyd. 

Mynd i'r afael â chynnwys terfysgol a lleferydd casineb - Rydym wedi gweithio gydag ystod o sefydliadau cymdeithas sifil i gasglu tystiolaeth sy'n awgrymu bod cynnwys terfysgol a lleferydd casineb anghyfreithlon yn parhau ar rai o'r safleoedd cyfryngau cymdeithasol mwyaf. Ers yr ymosodiad terfysgol ar synagog Hebraeg Heaton Park, rydym wedi cychwyn rhaglen gydymffurfio newydd i benderfynu a oes gan y cwmnïau cyfryngau cymdeithasol mwyaf systemau a phrosesau digonol ar gyfer asesu a dileu deunydd casineb a therfysgaeth anghyfreithlon sydd wedi'i adrodd iddynt yn gyflym. Erbyn Ebrill 2026, byddwn wedi adolygu systemau un platfform mawr o ddileu cynnwys terfysgaeth a chynnwys casineb anghyfreithlon i lawr - gan gynnwys deunydd gwrth-Semiitaidd a gwrth-Fwslimaidd - ac ystyried a oes angen camau gorfodi ffurfiol.

Ymladd twyll - Mae sefydliadau sydd ag arbenigedd twyll wedi dweud bod llwyfannau wedi gwella eu prosesau adrodd, gan ei gwneud hi'n haws iddynt riportio twyll yn uniongyrchol. Fodd bynnag, mae angen gwneud llawer mwy i fynd i'r afael ag un o'r niweidiau ar-lein mwyaf eang sy'n wynebu defnyddwyr y DU.

Dywedodd Oliver Griffiths, Cyfarwyddwr Grŵp Diogelwch Ar-lein Ofcom: "Mae'r llanw ar ddiogelwch ar-lein yn dechrau troi er gwell. Eleni, rydym wedi gweld newidiadau pwysig y bydd pobl yn elwa arnynt, gyda mesurau newydd ar draws llawer o wefannau ac apiau bellach yn diogelu plant yn well rhag cynnwys niweidiol. Ond mae angen i ni weld cwmnïau technoleg yn gwneud llawer mwy y flwyddyn nesaf a byddwn yn defnyddio ein pwerau llawn os ydyn nhw'n methu."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Technoleg Liz Kendall: “Ers gorfodi’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, mae platfformau o’r diwedd wedi dechrau cymryd cyfrifoldeb am ddiogelu plant a chael gwared ar gynnwys anghyfreithlon a chasineb. Mae gan Ofcom gefnogaeth lawn y llywodraeth i ddefnyddio ei holl bwerau i sicrhau bod gwasanaethau’n rhoi diogelwch defnyddwyr yn gyntaf. Cadw plant yn ddiogel ar-lein yw blaenoriaeth y llywodraeth hon a minnau’n bersonol.”

Dywedodd Kerry Smith, Prif Weithredwr Internet Watch Foundation (IWF): “Mae’r bygythiadau y mae plant yn eu hwynebu ar-lein yn esblygu ac yn cynyddu ar gyfradd sydd weithiau'n rhagori rheoleiddio. Wrth i Ofcom orfodi’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, rydym yn dechrau gweld y DU yn cyflawni ei huchelgais, sef bod y lle mwyaf diogel yn y byd i fod ar-lein.

“Mae’r ddeddfwriaeth hanfodol hon eisoes yn gwneud gwahaniaeth. Mae plant a phobl ifanc yn haeddu rhyngrwyd lle gallant chwarae, cymdeithasu, dysgu, a bod yn nhw eu hunain ar-lein heb ofni meithrin perthynas amhriodol, gorfodi, cam-drin rhywiol, a dod i gysylltiad â delweddau rhywiol.

“Rydym yn credu’n gryf na ddylai fod unrhyw le diogel ar-lein i ddrwg-weithredwyr guddio. Felly, er ein bod yn croesawu’r camau a gymerwyd gan Ofcom hyd yn hyn, mae llawer mwy i’w wneud, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio i sicrhau bod plant yn cael y diogelwch sydd ei angen arnynt.”

Dywedodd Chris Sherwood, Prif Swyddog Gweithredol yr NSPCC: “Mae pob plentyn yn haeddu profiadau diogel a chadarnhaol ar-lein. Rydym yn croesawu’r cynnydd y mae Ofcom yn ei wneud i sicrhau bod ei godau ymarfer yn arwain at lwyfannau mwy diogel a’i ymgyrch i dargedu achosion clir o ddiffyg cydymffurfio.

“Fodd bynnag, mae llawer i’w wneud o hyd. Yn 2026, rhaid i Ofcom fynd ati gyda mwy o uchelgais wrth weithredu a gorfodi’r rheoliad, gan roi’r pwyslais ar sicrhau newid ystyrlon i blant wrth wraidd  ei benderfyniadau. Rhaid gwthio pob gwasanaeth i roi diogelwch o flaen elw a darparu platfformau sy’n wirioneddol ddiogel. Dim ond wedyn y gallwn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn agored i niwed y gellir ei atal ar-lein.” 

Dywedodd Helen Rance, Dirprwy Gyfarwyddwr Bygythiad CSA yn yr National Crime Agency: “Wrth i’n bywydau ni - a bywydau plant yn enwedig - symud ar-lein fwyfwy, mae sicrhau bod platforrmau’n diogelu plant ac oedolion yn bwysicach nag erioed. Rydym yn amcangyfrif bod tua thri chwarter miliwn o oedolion yn y DU yn peri gwahanol raddau o fygythiad rhywiol i blant, ac mae gwasanaethau ar-lein yn darparu gormod o gyfleoedd iddynt ymgysylltu â phobl ifanc a chyda’i gilydd.

“Bob mis, mae adroddiadau diwydiant yn cyfrannu’n sylweddol at gamau cydlynol gan yr NCA a phlismona’r DU, gan arwain at oddeutu 1,000 o arestiadau a diogelu 1,200 o blant. Ond mae angen i ni i gyd wneud mwy i wrthdroi’r cynnydd mewn troseddu. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gydag Ofcom a platfformau ar-lein i yrru mesurau diogelu cryfach, cau cyfleoedd i droseddwyr, a gwneud y byd ar-lein yn fwy diogel i blant.”  


Nodiadau i olygyddion 

  1. Os nad yw darparwr yn talu dirwy, gall Ofcom geisio adennill y cosbau hynny. Lle bo hynny'n briodol, gallwn hefyd geisio gorchymyn llys ar gyfer 'mesurau tarfu ar fusnes', megis ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr talu neu hysbysebwyr dynnu eu gwasanaethau yn ôl o blatfform, neu ei gwneud yn ofynnol i Ddarparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd rwystro safle yn y DU.
  2. Rydym hefyd wedi ehangu cwmpas ein hymchwiliad parhaus i 4chan heddiw i gynnwys ei gydymffurfiaeth â dyletswyddau diogelwch plant, yn ogystal â'i gydymffurfiaeth â dyletswyddau i amddiffyn defnyddwyr y DU rhag cynnwys anghyfreithlon.
  3. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi adroddiad cynhwysfawr ar asesiadau risg, sy'n darparu mwy o wybodaeth am ein barn am y set gyntaf o asesiadau risg a gyflwynwyd.