News Centre HERO (1336 × 560px)

Ofcom yn rhoi dirwy i safle porn am fethu â chael gwiriadau oedran

Cyhoeddwyd: 19 Mehefin 2026

Heddiw, mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £80,000 i'r darparwr pornograffi, First Time Videos LLC, am beidio â chael gwiriadau oedran ar waith.  

Mae gwiriadau oedran cadarn yn gonglfaen i'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Rhaid i blatfformau sy'n cynnal deunydd pornograffig ddefnyddio gwiriadau oedran 'hynod effeithiol' i benderfynu a yw defnyddiwr penodol dros 18 oed, er mwyn atal plant rhag cael mynediad i'r cynnwys hwnnw yn hawdd.

Canfu ein hymchwiliad fod First Time Videos LLC wedi methu â chydymffurfio â'r dyletswyddau hyn. O ganlyniad, mae Ofcom wedi gosod cosb ariannol o £80,000, a fydd yn cael ei throsglwyddo i Drysorlys EM.

Wrth bennu lefel y ddirwy, rydym yn ystyried maint a throsiant y gwasanaeth i sicrhau bod cyfanswm y gosb yn briodol ac yn gymesur.

Dywedodd George Lusty, Cyfarwyddwr Gorfodi Ofcom: "Nid yw gwiriadau oedran yn ddewisol, ac maent yn gonglfaen i'n deddfau i ddiogelu plant rhag cynnwys niweidiol, gan gynnwys pornograffi. Rydym am anfon neges glir i'r diwydiant y gall unrhyw gwmni sy'n methu â chydymffurfio disgwyl wynebu camau gorfodi tebyg."

Yn ogystal, rydym wedi nodi ein barn dros dro bod gennym sail resymol i gredu bod darparwr xgroovy.com wedi methu â chydymffurfio â'i ddyletswyddau i gyflwyno gwiriadau oedran hynod effeithiol o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.

Ar wahân, rydym hefyd wedi ehangu ein hymchwiliad presennol i Sun Social Media Inc. i gynnwys safle arall i oedolion a weithredir gan y cwmni.