HERO illegal intimate images online

Dylai platfformau ddefnyddio technoleg canfod i atal lledaeniad delweddau personol anghyfreithlon ar-lein, o dan Godau Ofcom wedi’u cryfhau

Cyhoeddwyd: 18 Mai 2026

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi ei fod yn cryfhau ei Chodau Cynnwys Anghyfreithlon trwy gyflwyno argymhelliad newydd y dylai cwmnïau technoleg  ddefnyddio technoleg canfod awtomataidd i leihau lledaenu delweddau personol anghyfreithlon ar-lein.    

O ystyried yr angen brys i ddiogelu menywod a merched yn well ar-lein, rydym bellach yn ychwanegu argymhelliad at ein codau bod rhai gwefannau ac apiau yn ehangu eu defnydd o dechnoleg awtomataidd – a elwir yn 'paru hash' – i ganfod delweddau personol anghyfreithlon a rennir heb ganiatâd, fel ffug dwfn. 

Mae technoleg paru hash yn gweithio trwy drosi delweddau niweidiol yn olion bysedd digidol neu 'hasiau' yn gyntaf. Yna caiff y rhain eu storio mewn cronfa ddata a'u paru yn erbyn ymdrechion pellach i uwchlwytho'r un fersiwnneu fersiynau tebyg o'r ddelwedd. 

Rydym yn argymell bod gwasanaethau’n defnyddio cronfa ddata hash fel StopNCII.org sy’n arweinydd yn y farchnad.

Rydym o'r farn y bydd y mesur diogelwch ychwanegol hwn - ynghyd â deddfwriaeth newydd a gyflwynodd waharddiad ar offer noethni  a gofynion i ddileu  delweddau personol a rennir heb ganiatâd  o fewn 48 awr - yn gwneud gwahaniaeth sylweddol wrth ddiogelu menywod a merched ar-lein.

Yn amodol ar y broses Seneddol, rydym yn disgwyl i'r gwelliannau i'n Codau Cynnwys Anghyfreithlon ar gyfer cam-drin delweddau personol ddod i rym yn Hydref 2026.

Bydd ein penderfyniadau ar fesurau diogelwch ychwanegol, fel y’u cynigiwyd yn ein hymgynghoriad cynharach, hefyd yn cael eu cyhoeddi tua'r adeg honno.