
Dywedwyd wrth ddwsinau o gwmnïau technoleg i gyflwyno eu hasesiadau risg diweddaraf i Ofcom erbyn yr haf, wrth i'r rheoleiddiwr barhau i roi pwysau ar blatfformau i roi diogelwch trwy ddylunio ar flaen y gad yn flaenllaw ac yn ganolog i'w modelau gweithredu.
Heddiw, mae'r corff gwarchod diogelwch ar-lein wedi cyhoeddi hysbysiadau cyfreithiol rhwymol i fwy na 40 o'r safleoedd a'r apiau mwyaf a mwyaf peryglus yn y byd, gan ofyn yn ffurfiol am fwy na 70 o asesiadau risg ganddynt. Gallai methu â darparu ymateb digonol, ar amser, arwain at gamau gorfodi.
Mae asesu risg yn ganolog i ddiogelwch wrth ddylunio
Mae asesiadau risg yn hanfodol i gadw defnyddwyr yn fwy diogel ar-lein. Er mwyn rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i ddiogelu pobl, yn enwedig plant, rhaid i ddarparwyr ddeall yn gyntaf sut y gallai niwed ddigwydd ar eu platfformau, a sut y gallai eu nodweddion a'u swyddogaethau gynyddu'r risgiau hynny o niwed.
O dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU, rhaid i gwmnïau technoleg asesu a lliniaru'r risg y bydd pobl yn y DU yn dod ar draws cynnwys anghyfreithlon, a rhaid i blatfformau y mae plant yn debygol o gael mynediad iddynt hefyd asesu a lliniaru'r risg o bobl dan 18 oed fod yn agored i rai mathau penodol o ddeunydd niweidiol.
Dylai darparwyr adolygu eu hasesiadau risg o leiaf unwaith y flwyddyn, a rhaid iddynt eu diweddaru cyn gwneud unrhyw newid sylweddol i ddyluniad neu weithrediad eu gwasanaeth, neu os yw Ofcom yn gwneud unrhyw newid sylweddol i'w asesiad o risgiau.
Yn ddiweddarach eleni, bydd yn rhaid i wasanaethau 'wedi’u categoreiddio' – yr ydym yn disgwyl cynnwys rhai o'r cyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau chwilio a ddefnyddir fwyaf eang– gyhoeddi crynodebau o'u hasesiadau risg, gan eu gorfodi i fod yn dryloyw ynghylch eu barn am y risgiau y maent yn eu peri.
Dal platfformau i gyfrif
Rhan o waith Ofcom yw sicrhau bod cwmnïau'n cynnal asesiadau risg addas a digonol.
Er mwyn monitro cydymffurfiaeth y diwydiant â'u dyletswyddau, rydym yn cyhoeddi ceisiadau am wybodaeth ffurfiol yn rheolaidd. Mae'n ofynnol i gwmnïau, yn ôl y gyfraith, ymateb i bob cais o'r fath gan Ofcom mewn ffordd gywir, gyflawn ac amserol. Rydym wedi cyhoeddi sawl dirwy am fethu â gwneud hyn , ac wedi cymryd camau ynghylch addasrwydd asesiadau risg platfformau.
Yn 2025, gofynnom am asesiadau risg cyntaf darparwyr. Gwnaethom adolygu mwy na 100 o'r rhain o ystod o wasanaethau mawr a bach, yn cwmpasu dros 10,000 o dudalennau. Dywedon wrth 11 platfform bod gennym bryderon difrifol gyda'u hasesiadau risg, a chyflwynodd pob un fersiwn diwygiedig neu wybodaeth atodol.
Roedd hyn yn cynnwys Snapchat yn gwella ei asesiad risg cynnwys anghyfreithlon yn sylweddol - mewn ymateb uniongyrchol i gamau gweithredu gan ein tîm gorfodi - a fydd yn sicrhau bod yn rhaid iddo roi ystod eang o fesurau diogelwch ar waith, sy'n gymesur â'r risgiau i ddefnyddwyr y DU y mae wedi'u nodi.
Beth sy'n digwydd nesaf
Rydym wedi cyhoeddi ceisiadau ffurfiol am wybodaeth i 30 o ddarparwyr, sy'n cwmpasu 43 o wasanaethau, sydd â than 31 Gorffennaf i gyflwyno eu hasesiadau risg niwed anghyfreithlon Blwyddyn 2 ac asesiadau risg plant i ni.
Byddwn yn defnyddio'r ymatebion a dderbyniwn i nodi bylchau mewn asesiadau risg a gyrru gwelliannau.