
Heddiw, mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £450,000 i 4chan am beidio â chael gwiriadau oedran ar waith i atal plant rhag gweld pornograffi ar ei wefan.
Mae corff gwarchod diogelwch ar-lein y DU hefyd wedi rhoi dirwy o £50,000 i'r cwmni am beidio ag asesu'r risg y bydd deunydd anghyfreithlon yn ymddangos ar ei blatfform, a £20,000 am beidio â nodi yn ei delerau gwasanaeth sut mae'n diogelu pobl rhag cynnwys troseddol.
Mae gwiriadau oedran yn helpu i atal plant rhag gweld pornograffi
Llynedd, canfyddodd y Comisiynydd Plant fod 59% o blant wedi dod ar draws pornograffi yn ddamweiniol, pan nad oeddent yn chwilio amdano. Ers hynny, mae rheolau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU wedi dod i rym, sy'n golygu bod yn rhaid i safleoedd sy'n cynnal deunydd pornograffig ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol i atal plant rhag cael mynediad i'r cynnwys hwnnw yn hawdd.
Fel mewn diwydiannau eraill, rhaid i gwmnïau sy'n darparu gwasanaeth ar-lein i bobl yn y DU gydymffurfio â chyfreithiau'r DU. Mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn ymwneud â diogelu pobl yn y DU. Nid yw'n gofyn i blatfformau gyfyngu ar yr hyn y gall pobl mewn gwledydd eraill ei weld.[1]
Mae'r data yn dangos bod gan bron i 80% o'r 100 safle pornograffi poblogaeth yn y DU wiriadau oedran ar waith. Mae hyn yn golygu, ar gyfartaledd, bob dydd, bod dros 7 miliwn o ymwelwyr o'r DU yn cyrchu gwasanaethau pornograffi sydd wedi defnyddio sicrwydd oedran.
4chan wedi’i ddirwyo am fethu diogelu plant
Yn dilyn ymchwiliad, rydym wedi rhoi dirwy o £450,000 i 4chan am fethu â chydymffurfio â gofynion gwiriad oedran ar-lein y DU. Mae'n rhaid i'r platfform nawr weithredu sicrwydd oedran hynod effeithiol erbyn 2 Ebrill neu wynebu cosb ddyddiol o £500.
Rydym hefyd wedi rhoi dirwy o £50,000 i 4chan am fethu ag asesu'r risg y bydd pobl yn y DU yn dod ar draws cynnwys anghyfreithlon ar ei wefan. Mae hyn yn hanfodol i gadw defnyddwyr yn ddiogel – er mwyn rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i ddiogelu pobl, yn enwedig plant, rhaid i ddarparwyr ddeall yn gyntaf sut y gallai niwed ddigwydd ar eu platfformau.
Rhaid i'r cwmni nawr gynnal asesiad risg cynnwys anghyfreithlon addas a digonol erbyn 2 Ebrill neu wynebu dirwy ddyddiol o £200.
Yn ogystal, rydym wedi rhoi dirwy o £20,000 i 4chan am fethu â nodi yn ei delerau gwasanaeth sut y dylid diogelu unigolion rhag cynnwys anghyfreithlon, rhywbeth y mae'n rhaid iddo ei wneud erbyn 2 Ebrill neu wynebu dirwy ddyddiol o £100.
Dywedodd Suzanne Cater, Cyfarwyddwr Gorfodi Ofcom: "Ni chaniateir i gwmnïau – lle bynnag y maent wedi'u lleoli – werthu teganau anniogel i blant yn y DU. Mae cymdeithas wedi bod yn diogelu pobl ifanc rhag pethau fel alcohol, ysmygu a gamblo ers tro byd. Ni ddylai'r byd digidol fod yn wahanol.
"Mae'r DU yn gosod safonau newydd ar gyfer diogelwch ar-lein. Mae gwiriadau oedran ac asesiadau risg yn gonglfeini ein cyfreithiau, a byddwn yn cymryd camau gorfodi cadarn yn erbyn cwmnïau sy'n methu â chyflawni’r safonau hynny.”
Talu dirwyon
Rydym wedi rhoi 16 o ddirwyon o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn erbyn chwe chwmni, gyda chyfanswm o bron i £4 miliwn, ac nid yw nifer ohonynt wedi mynd heibio eu dyddiadau cau i dalu eto. Mae'r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid i ni ganiatáu cyfnod rhesymol o amser i gwmnïau dalu dirwy, y mae'n rhaid iddo fod o leiaf 28 diwrnod.[2]
Os yw cwmni'n methu â thalu dirwy, mae amryw o opsiynau ar agor i ni geisio adennill y ddyled honno - gan gynnwys trwy'r llysoedd.
Lle bo hynny'n briodol, os yw darparwr yn methu â chydymffurfio â'i ddyletswyddau diogelwch, gallwn hefyd geisio gorchymyn llys ar gyfer 'mesurau tarfu ar fusnes', megis ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr talu neu hysbysebwyr dynnu eu gwasanaethau yn ôl o blatfform, neu ei gwneud yn ofynnol i Ddarparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd rwystro safle yn y DU.
Nodiadau i olygyddion
- Mae rhagor o wybodaeth am awdurdodaeth ar gael yma.
- Gweler adran 137 (5)(e) a (6) o'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein.
Cynnwys cysylltiedig