Ar agor
Rhaglen Orfodi i fonitro a yw gwasanaethau'n cyflawni eu dyletswyddau asesu risg plant o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023.
9 Gorffennaf 2025
Heddiw mae Ofcom yn agor rhaglen waith neu ‘rhaglen orfodi’ i fonitro a yw darparwyr yn cydymffurfio â’u dyletswyddau asesiad risg plant a chadw cofnodion o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein (y “Ddeddf”).
Prif nodau'r rhaglen hon yw monitro cydymffurfiaeth â’r dyletswyddau perthnasol yn y Ddeddf, monitro sut mae'r diwydiant yn rhoi ein canllawiau asesiad risg a’n canllawiau cadw cofnodion ar waith er mwyn cefnogi a meithrin yr arferion gorau.
Adran 11, 23, 28 a 34 o’r Ddeddf.
Ar 1 Ebrill 2026, cyhoeddodd Ofcom geisiadau ffurfiol am wybodaeth i 30 o ddarparwyr, yn cwmpasu 43 o wasanaethau ac yn gofyn am gofnodion o fwy na 70 o asesiadau risg (cynnwys anghyfreithlon a phlant). Mae gan ddarparwyr hyd at 31 Gorffennaf i gyflwyno eu cofnodion asesu risg cyfredol i ni. Byddwn yn defnyddio'r ymatebion a dderbyniwn i nodi bylchau mewn asesiadau risg a gyrru gwelliannau.
Ceir rhagor o wybodaeth am y ceisiadau hyn yma. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y dyletswyddau cynnwys anghyfreithlon yma.
Rydym wedi cyhoeddi adroddiad heddiw ar safonau asesiadau risg diogelwch ar-lein blwyddyn un a'r gwelliannau yr ydym yn disgwyl eu gweld yn y ffordd y mae darparwyr yn nodi, rheoli a goruchwylio risgiau diogelwch ar-lein. Mae'r adroddiad i'w gael yma.
Heddiw, mae Ofcom wedi agor rhaglen orfodi i fonitro a yw gwasanaethau'n cyflawni eu dyletswyddau asesu risg plant a chadw cofnodion.
Roedd yn ofynnol i bob gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gwasanaeth chwilio gynnal, a chadw cofnod ysgrifenedig o, asesiad mynediad plant erbyn 16 Ebrill 2025 i sefydlu a yw'n debygol y bydd plant yn cael mynediad at wasanaeth.
Lle mae gwasanaeth yn debygol o gael ei gyrchu gan blant, rhaid i’r gwasanaethau hynny hefyd gynnal asesiad risg plant erbyn 24 Gorffennaf 2025. Mae hon yn rhwymedigaeth gyfreithiol sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr asesu’r risgiau y bydd eu cynnwys sy’n gysylltiedig â'u gwasanaeth yn niweidiol i blant. Rhaid i ddarparwyr hefyd chadw cofnod ysgrifenedig, ar ffurf hawdd ei deall, o bob agwedd ar bob asesiad risg plant, gan gynnwys manylion am sut y cynhaliwyd yr asesiad a'i ganfyddiadau.
Ar 24 Ebrill 2025, cyhoeddodd Ofcom Ganllawiau Asesiad Risg Plant a Phroffiliau Risg Plant i helpu darparwyr i gydymffurfio â dyletswyddau asesu risg plant. Mae'r canllawiau hyn yn nodi proses asesu risg pedwar cam, a fydd, os caiff ei dilyn, yn helpu darparwyr i gydymffurfio â dyletswyddau asesu risg plant. Fe wnaethom hefyd gyhoeddi Canllawiau Cadw ac Adolygu Cofnodion i helpu darparwyr i gydymffurfio â'u dyletswyddau cadw cofnodion. Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r hyn a ddisgwylir gan ddarparwyr mewn perthynas â chofnodion eu hasesiadau risg, gan gynnwys yr asesiad risg plant.
Yn unol â dyletswyddau asesu risg plant yn dod i rym, rydym wedi penderfynu gofyn am gofnodion o asesiadau risg plant gan nifer o ddarparwyr gwasanaethau o fewn y cwmpas. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i nodi pryderon cydymffurfio posibl, ac i fonitro sut mae ein canllawiau asesiad risg plant a'n canllawiau cadw cofnodion yn cael eu cymhwyso gan y diwydiant.
Rydym yn disgwyl i'r rhaglen hon redeg am o leiaf 12 mis, ac yn ystod y cyfnod hwnnw efallai y byddwn yn penderfynu agor ymchwiliadau ffurfiol ar wahân os oes gennym bryderon nad yw darparwr gwasanaeth yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf. Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau ar gynnydd ar adegau perthnasol dros y cyfnod hwn.