Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein Datganiad a'n Canllawiau terfynol ar ddyletswyddau defnyddwyr sy’n blant a fu farw o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023.
Mae'r dyletswyddau'n berthnasol i wasanaethau sydd wedi'u cynnwys ar Gofrestr Gwasanaethau wedi'u Categoreiddio, a'u bwriad yw darparu mwy o eglurder a chefnogaeth i rieni mewn profedigaeth sy'n chwilio am wybodaeth am ddefnydd eu plentyn o wasanaeth.
O dan y dyletswyddau, rhaid i wasanaethau perthnasol esbonio eu polisïau a'u gweithdrefnau datgelu gwybodaeth yn eu telerau gwasanaeth, ymateb i geisiadau mewn modd amserol, darparu swyddogaeth gymorth a gweithredu gweithdrefn gwyno. Nid yw'r dyletswyddau yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr ddatgelu gwybodaeth na rhagnodi beth mae'n rhaid i'w polisïau datgelu ei ddweud.
Bwriad ein Canllawiau terfynol yw helpu gwasanaethau perthnasol i ddeall a chydymffurfio â'r gofynion hyn. Mae hefyd yn cynnwys argymhellion arfer da ychwanegol sydd â’r nod o sicrhau bod rhieni mewn profedigaeth yn cael eu trin gydag urddas, parch a sensitifrwydd trwy gydol y broses.
Ein penderfyniadau yn dilyn ymgynghoriad
Yn dilyn ymgynghoriad, rydym wedi cadarnhau'n fras y dull a nodir yn ein Canllawiau drafft, sy'n ceisio darparu eglurder i rieni mewn profedigaeth tra'n caniatáu hyblygrwydd i ddarparwyr o ran sut maent yn cyflawni eu dyletswyddau.
Rydym wedi gwneud nifer cyfyngedig o newidiadau i'n hargymhellion arfer da ychwanegol. Mae'r rhain yn ymwneud â:
- Gwybodaeth a ddarperir drwy'r swyddogaeth gymorth ynghylch pryd y gallai cyfrifoldeb dros ymdrin â chais newid.
- Gwybodaeth ynghylch pryd mae'r swyddogaeth gymorth ar gael, gan gynnwys oriau gweithredu.
- Tryloywder ynghylch golygu, gan gynnwys a ellir golygu gwybodaeth a ddatgelir mewn ymateb i gais a'r amgylchiadau y gall hyn ddigwydd.
Mae'r argymhellion hyn yn ychwanegol at y camau argymellwn i ddarparwyr eu cymryd i gydymffurfio â'r dyletswyddau statudol.
Mae ein Datganiad yn esbonio'r adborth ymgynghori a gawsom, sut y gwnaethom ei ystyried a'r rhesymau dros ein penderfyniadau terfynol.
Daw'r dyletswyddau defnyddwyr sy’n blant a fu farw i rym ar 11 Tachwedd 2026.
Dogfennau ymgynghori ac ymatebion
Gwnaethom ymgynghori ar ein Canllawiau drafft rhwng 15 Rhagfyr 2025 a 23 Mawrth 2026. Mae'r dogfennau ymgynghori gwreiddiol a'r ymatebion cyhoeddedig ar gael isod.
Dyletswyddau eraill ar wasanaethau wedi'u categoreiddio
Mae'r dyletswyddau Defnyddwyr sy’n blant a fu farw yn rhan o'r dyletswyddau ychwanegol ehangach ar wasanaethau wedi'u categoreiddio o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023. Rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith ar y dyletswyddau ychwanegol eraill ar wahân. Mae gwybodaeth pellach am ein gwaith a'n hamseroedd arfaethedig ar gael yn ein map ffordd diogelwch ar-lein.
Prif ddogfennau
Gwybodaeth cyswllt
Consultation: Deceased Child User Duties
Ofcom Online Safety Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA