Ymchwiliad i gydymffurfiaeth TikTok â dyletswyddau i ddiogelu plant rhag dod ar draws cynnwys niweidiol o dan adran 12

Cyhoeddwyd: 16 Gorffennaf 2026

Ar agor

Ymchwiliad i

TikTok Information Technologies UK Limited

Achos wedi’i agor

16 Gorffennaf 2026

Crynodeb

  Heddiw, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i ddeall a yw TikTok Information Technologies UK Limited wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â dyletswyddau penodol o dan adran 12 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023.  

Darpariaeth(au) cyfreithiol perthnasol

Section 12 of the Online Safety Act 2023

Cefndir

Mae Rhan 3 o'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein (y 'Ddeddf') yn gosod dyletswyddau ar ddarparwyr gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig sy'n debygol o gael eu cyrchu gan blant er mwyn diogelu plant rhag cynnwys niweidiol. Yn benodol, o dan adran 12 o'r Ddeddf, rhaid i ddarparwyr o'r fath gydymffurfio â'r dyletswyddau canlynol:

  • y ddyletswydd o dan adran 12(3)(a) i ddefnyddio systemau a phrosesau cymesur a gynlluniwyd i atal plant, o unrhyw oedran, rhag dod ar draws cynnwys prif flaenoriaeth sy'n niweidiol i blant;
  • y ddyletswydd o dan adran 12(3)(b) i ddefnyddio systemau a phrosesau cymesur a gynllunir i ddiogelu plant mewn grwpiau oedran y bernir eu bod mewn perygl o niwed o gynnwys arall sy'n niweidiol i blant (neu o fath penodol o gynnwys) drwy'r gwasanaeth;
  • y ddyletswydd o dan adrannau 12(4) a (6) i fodloni'r ddyletswydd a nodir yn adran 12(3)(a) drwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol wrth benderfynu'n gywir a yw defnyddiwr penodol yn blentyn ai peidio er mwyn atal plant rhag dod ar draws cynnwys prif flaenoriaeth y mae'r darparwr yn ei nodi ar y gwasanaeth (mae'r ddyletswydd hon yn gymwys ac eithrio, o dan adran 12(5), lle mae telerau gwasanaeth darparwr yn nodi bod cynnwys â blaenoriaeth wedi'i wahardd ac mae hyn yn berthnasol i bob defnyddiwr y gwasanaeth).

Daeth y dyletswyddau hyn i rym ar 25 Gorffennaf 2025.

Er mwyn cydymffurfio â'r dyletswyddau hyn, gall darparwyr ddewis cymryd y mesurau a argymhellir yng Nghodau Ymarfer Diogelu Plant Ofcom ar gyfer gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr neu fabwysiadu mesurau amgen effeithiol. Pan ddefnyddir mesurau amgen, rhaid i ddarparwyr sicrhau bod y mesurau hynny'n gallu bodloni'r dyletswyddau perthnasol o dan y Ddeddf.

Ymchwiliad

Heddiw, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i TikTok Information Technologies UK Limited ('TikTok') i archwilio ei gydymffurfiaeth â'i ddyletswyddau o dan y Ddeddf. Mae'r ymchwiliad yn dilyn adolygiad Ofcom o'r camau a gymerwyd gan blatfformau mawr i ddiogelu plant ar-lein a chyhoeddi ein hadroddiad Profiadau Ar-lein Plant, a oedd yn tynnu sylw at bryderon ynghylch plant yn agored i gynnwys niweidiol ar TikTok. Yn ogystal, mae'r adroddiad Sicrwydd Oedran, a gyhoeddwyd heddiw, yn awgrymu, mewn rhai achosion, y gallai modelau casglu oedran, fel y rhai a ddefnyddir gan TikTok, fod wedi methu ag adnabod cyfran sylweddol o blant yn gywir, gan eu rhoi mewn perygl o ddod i gysylltiad â chynnwys niweidiol.

Yng ngoleuni'r pryderon hyn, bydd yr ymchwiliad hwn yn ceisio sefydlu a oes sail resymol i gredu bod TikTok wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â'i rwymedigaethau cyfreithiol fel y nodir uchod, gan gynnwys trwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol wrth benderfynu'n gywir a yw defnyddiwr penodol yn blentyn ai peidio.

Nid yw agor ymchwiliad yn golygu bod Ofcom wedi dod i unrhyw gasgliad ynghylch a yw'r darparwr wedi torri ei ddyletswyddau. Fodd bynnag, lle byddwn yn nodi methiannau cydymffurfio, gallwn osod dirwyon o hyd at £18m neu 10% o refeniw cymwys ledled y byd (pa un bynnag sydd fwyaf). Yn yr achosion mwyaf difrifol o ddiffyg cydymffurfio, a lle bo'n briodol o ystyried risgiau niwed i unigolion yn y DU, gallwn geisio gorchymyn llys i’w gwneud yn ofynnol i drydydd partïon gymryd camau i darfu ar fusnes y darparwr. Gall hyn ei gwneud yn ofynnol i drydydd partïon (megis darparwyr gwasanaethau talu neu hysbysebu, neu Ddarparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd) dynnu gwasanaethau yn ôl oddi wrth wasanaeth rheoleiddiedig yn y DU, neu rwystro mynediad iddo.

Mae Canllawiau Gorfodi Diogelwch Ar-lein Ofcom yn nodi sut y bydd Ofcom fel arfer yn mynd i'r afael â gorfodi o dan y Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys ein dull o gasglu a dadansoddi gwybodaeth a'r camau gweithdrefnol y mae'n rhaid i ni eu cymryd i benderfynu’n deg ar ganlyniad yr ymchwiliad. Ein cam cyntaf fydd defnyddio ein pwerau ffurfiol i gasglu a dadansoddi tystiolaeth i benderfynu a yw toriad wedi digwydd. Mae hyn yn debygol o gymryd o leiaf dri mis.

Byddwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad hwn ym mis Hydref 2026.  


    Cyfeirnod yr achos

    CW/01352/07/26