social media NC 12 mar 26 web

Ofcom yn dweud wrth gwmnïau technoleg, i gadw plant dan oed oddi ar eu platfformau

Cyhoeddwyd: 12 Mawrth 2026
Diweddarwyd diwethaf: 15 Mehefin 2026

Heddiw (15 Mehefin 2026) cyhoeddodd Llywodraeth y DU gyfyngiadau ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i blant a phobl ifanc dan 16 oed. Darllenwch ein hymateb ar ein canolfan newyddion.

  • Rhaid i wefannau ac apiau poblogaidd orfodi isafswm oedran, mynd i'r afael â meithrin perthynas amhriodol â phlant, gwneud porthiant yn fwy diogel a phrofi cynhyrchion yn drylwyr
  • Mae gan Facebook, Instagram, Roblox, Snapchat, TikTok a YouTube tan ddiwedd mis nesaf i roi gwybod i Ofcom beth maen nhw'n ei wneud, er mwyn adrodd ar hyn ym mis Mai

Rhybuddia Ofcom heddiw, bod rhaid i safleoedd ac apiau mawr orfodi eu rheolau oedran isafswm gyda gwiriadau oedran hynod effeithiol, wrth i'r rheoleiddiwr diogelwch ar-lein archwilio methiannau parhaus gan y gwasanaethau mwyaf poblogaidd ymhlith plant.

Rydym heddiw wedi ysgrifennu at y prif wefannau ac apiau y mae plant yn eu defnyddio fwyaf – Facebook, Instagram, Roblox, Snapchat, TikTok a YouTube – gan ofyn iddynt brofi i rieni ymrwymiad gwirioneddol i ddiogelu plant ar-lein.

Ers i gyfreithiau diogelwch ar-lein y DU ddod i rym y llynedd, mae Ofcom wedi bod yn ymchwilio i bron i gant o wasanaethau. Rydym wedi cymryd camau gorfodi, sicrhau newidiadau i amharu ar rannu deunydd cam-drin plant yn rhywiol, ac wedi gweld gwasanaethau risg uchel naill ai’n cydymffurfio neu'n rhwystro mynediad i'r DU yn gyfan gwbl. Mae miliynau o ymweliadau dyddiol â safleoedd porn bellach yn gofyn am wiriadau oedran hynod effeithiol. Mae platfformau mawr, gan gynnwys X, Telegram, Discord a Reddit, hefyd wedi cyflwyno rheolaethau oedran i atal plant rhag cael mynediad at gynnwys i oedolion neu niweidiol.

Er bod llawer o enghreifftiau o gynnydd i'w croesawu,[1] nid yw'r diwydiant wedi gwneud digon. Mae rhieni wedi colli ymddiriedaeth yng ngallu cwmnïau technoleg i gadw eu plant yn ddiogel, tra bod y Llywodraeth yn ymgynghori ar fesurau deddfwriaethol pellach i fynd i'r afael â phryder y cyhoedd.

Pedwar galwad am gamau pellach

Rydym heddiw yn nodi pedwar galwad clir am weithredu pellach, fel bod cwmnïau technoleg yn cael eu dal yn atebol yn gyhoeddus am ddarparu'r amgylchedd ar-lein mwyaf diogel posibl i blant y DU – rhywbeth y mae llawer wedi honni, yn breifat yn eu hymgysylltiad ag Ofcom, eu bod o ddifrif am ei gynnig.

Rydym wedi gosod dyddiad cau o 30 o Ebrill i Facebook, Instagram, Roblox, Snapchat, TikTok a YouTube i adrodd yn ôl i ni ar y camau y byddant yn eu cymryd, ac rydym yn eu hannog i gyhoeddi hyn. Ym mis Mai, bydd Ofcom yn adrodd ar sut mae'r cwmnïau wedi ymateb a bydd yn cyhoeddi unrhyw gamau nesaf ar gyfer camau gweithredu rheoleiddio.

Dywedodd y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom:"Mae'r gwasanaethau ar-lein hyn yn enwau cyfarwydd, ond maen nhw'n methu â rhoi diogelwch plant wrth wraidd eu cynhyrchion. Mae bwlch rhwng yr hyn y mae cwmnïau technoleg yn ei addo’n breifat, a'r hyn maen nhw'n ei wneud yn gyhoeddus i gadw plant yn ddiogel ar eu platfformau.

"Heb yr amddiffyniadau cywir, fel gwiriadau oedran hynod effeithiol, mae plant wedi bod yn agored i risgiau nad oeddent wedi'u dewis yn rheolaidd, ar wasanaethau na allant eu hosgoi'n realistig. Rhaid i hynny newid yn gyflym, neu bydd Ofcom yn gweithredu."

Rhaid i'r cwmnïau weithredu:

  • Polisïau isafswm oedran effeithiol. Mae ymchwil Ofcom yn dangos nad yw polisïau isafswm oedran 13 oed yn cael eu gorfodi'n briodol gan gwmnïau technoleg, gyda 72% o blant 8-12 oed yn cyrchu eu gwefannau a'u apiau.[2] Er nad yw'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn ei gwneud yn ofynnol yn benodol , rydym yn galw ar blatfformau i wneud hyn, gan ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol.[3]
  • Amddiffyniadau i atal meithrin perthynas amhriodol â a phlant. Mae hyn yn golygu sicrhau rheolaethau llym i atal dieithriaid rhag gallu cysylltu â phlant nad ydynt yn eu hadnabod ar eu platfformau. Mae hynny'n cynnwys defnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol i wirio oedran defnyddwyr.
  • Porthiant mwy diogel i blant. Algorithmau yw prif lwybr i blant gael mynediad i niwed ar-lein.[4] Er mwyn llywio ein hasesiad o'r systemau hyn, rydym yn cyhoeddi ceisiadau am wybodaeth sy'n rhwymol yn gyfreithiol i blatfformau mawr. O ystyried cymhlethdodau a natur dechnegol y gwaith hwn, bydd yn cymryd amser i asesu eu hymatebion. Fodd bynnag, ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau gorfodi os ydym yn nodi methiannau yn y ffordd y mae cwmnïau'n hyrwyddo cynnwys i blant.
  • Diwedd ar brofi cynnyrch ar blant. Mae offer AI newydd yn cael eu lansio'n rheolaidd a’u defnyddio'n helaeth gan blant, heb i rieni wybod os ydynt wedi cael eu profi o ran diogelwch. Ni all hyn barhau. Rydym yn disgwyl i blatfformau hysbysu Ofcom eu bod wedi asesu’r risg, fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, o ddiweddariadau sylweddol cyn iddynt gael eu defnyddio.

Dwyn cwmnïau technoleg i gyfrif

Ar yr un pryd ag y byddwn yn adrodd yn gyhoeddus ar ymatebion platfformau ym mis Mai, byddwn yn rhyddhau ymchwil newydd ar ba mor bell y mae profiadau ar-lein plant wedi newid yn ystod blwyddyn gyntaf o’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein fod mewn grym.

Os nad ydym yn fodlon ag ymatebion platfformau, byddwn yn barod i gymryd camau gorfodi. Os oes angen, byddwn hefyd yn ystyried cryfhau'r gofynion rheoleiddiol o dan ein Codau diwydiant i sicrhau newid pellach. Ar wahân, mae'r Llywodraeth eisoes wedi dechrau ceisio newidiadau deddfwriaethol gan y Senedd wrth i dechnoleg newydd ddatblygu.[5]

Bydd Prif Weithredwr Ofcom, y Fonesig Melanie Dawes, a Chyfarwyddwr y Grŵp Diogelwch Ar-lein, Oliver Griffiths, yn cwrdd ag uwch arweinwyr a chynghorwyr llinell gymorth ddydd Iau ym mhencadlys yr NSPCC a Childline. Mae'r sylwadau y disgwylir iddi eu cyflwyno ar gael yma.

Dywedodd Chris Sherwood, Prif Swyddog Gweithredol yr NSPCC: "Am rhy hir, mae cewri cyfryngau cymdeithasol wedi edrych i'r cyfeiriad arall tra bod cynnwys niweidiol a chaethiwus yn gorlifo porthiant plant, gan danseilio eu diogelwch a'u lles. Dyna pam mae galwad Ofcom am lawer mwy o dryloywder ynghylch y risgiau y mae plant yn eu hwynebu ar-lein, a sut mae cwmnïau technoleg yn bwriadu eu diogelu, yn gwbl hanfodol.

"Rydym wedi gofyn ers tro am orfodi isafswm oedran ar gyfryngau cymdeithasol, felly mae'n galonogol gweld Ofcom yn wynebu hyn yn uniongyrchol. Rhaid i blatfformau wybod o'r diwedd pwy sy'n defnyddio eu gwasanaethau fel y gallant atal plant rhag cael mynediad at fannau na chawsant eu cynllunio ar eu cyfer.

"Fel blaenoriaeth frys, rhaid i'r Llywodraeth nawr roi'r pwerau llawn sydd eu hangen ar Ofcom i orfodi'r gwiriadau oedran effeithiol hyn ar ddefnyddwyr ifanc, cyfyngu ar algorithmau peryglus, ac yn olaf dwyn  cwmnïau technoleg i gyfrif pan fyddant yn methu â chadw plant yn ddiogel." 


Nodiadau i olygyddion:

  1. Er enghraifft, mae Meta wedi cyhoeddi gwelliannau i Gyfrifon Pobl ifanc, TikTok wedi cyflwyno offer cymorth defnyddwyr newydd a newidiadau adrodd, ac mae Roblox wedi rhoi gwiriadau oedran ar waith i gyfyngu oedolion rhag cysylltu â phlant nad ydyn nhw'n eu hadnabod. Ar Snapchat, rydym wedi gweld amddiffyniadau preifatrwydd diofyn llymach i bobl ifanc gan gynnwys rhannu lleoliad. Mae YouTube wedi gwahardd ffrydio byw ar gyfer pobl dan 16 oed ac wedi caniatáu i rieni gyfyngu'r amser y mae eu plant yn ei dreulio ar YouTube Shorts i sero.
  2. Yr isafswm oedran ar gyfer YouTube, Instagram, Facebook, Snapchat a Tiktok yw 13 oed. Yr isafswm oedran ar gyfer Roblox yw 5 oed. Gall plant dan 13 oed ddefnyddio YouTube trwy gyfrif dan oruchwyliaeth (gyda chaniatâd rhieni). Mae YouTube hefyd yn cynnig YouTube Kids, nad oes isafswm oedran ar ei gyfer.
  3. Rydym yn croesawu datganiad clir yr ICO heddiw bod yn rhaid i wasanaethau orfodi eu gofynion isafswm oedran i gydymffurfio â chyfraith diogelu data ac rydym yn gweithio'n agos gyda nhw. Bydd y ddau reoleiddiwr yn cyhoeddi datganiad ar y cyd wedi'i ddiweddaru ym mis Mawrth 2026, sy'n amlinellu'r prif feysydd rhyngweithio rhwng diogelwch ar-lein a diogelu data gan eu bod yn ymwneud â sicrwydd oedran. Mae Ofcom hefyd yn cefnogi gwaith yr ICO ar niwed sy'n deillio o brosesu gwybodaeth bersonol gan systemau argymell.
  4. Mae'r Ddeddf yn glir na ddylid cynnwys pornograffi, hunanladdiad a deunydd hunan-niweidio a chynnwys anhwylder bwyta cael eu rhannu o gwbl i blant dan 18 oed. Ni ddylid gwthio cynnwys niweidiol arall – gan gynnwys deunydd camdriniol a threisgar a heriau peryglus – i blant yn eu porthiant. Mae Codau Ymarfer Diogelu Plant Ofcom yn cynnwys 50 o fesurau a gynlluniwyd i wella diogelwch plant ar-lein, gan gwmpasu meysydd fel cymedroli cynnwys, sicrhau oedran a systemau argymell. Mae Ofcom wedi cynnig mesurau ychwanegol i sicrhau diogelwch plant ar-lein, gan gwmpasu meysydd fel ffrydio byw a defnyddio technoleg ragweithiol.
  5. Cyhoeddiad y Llywodraeth am fesurau deddfwriaethol newydd ar ddiogelwch ar-lein: https://www.gov.uk/government/news/pm-no-platform-gets-a-free-pass-government-takes-action-to-keep-children-safe-online