Kids playing video games on phone after school

Y Llywodraeth yn cyhoeddi gwaharddiad cyfryngau cymdeithasol i blant a phobl ifanc dan 16 oed - datganiad Ofcom

Cyhoeddwyd: 15 Mehefin 2026
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mehefin 2026

Llefarydd ar ran Ofcom: "Hyd yn hyn, mae Ofcom wedi ysgogi rhai o'r newidiadau cryfaf o blith unrhyw reoliadau diogelwch ar-lein yn y byd, o wiriadau oedran eang i fesurau i ddiogelu plant rhag meithrin perthynas amhriodol ar-lein. Ond mae angen i'r diwydiant fynd ymhellach o lawer i gadw pobl yn ddiogel. Mae'r Llywodraeth wedi ymddiried ynddom ni i adeiladu ar y cynnydd hwn, drwy fesurau newydd i ddiogelu plant, ac rydym yn barod i gydweithio'n agos wrth i'r rheoliadau manwl gael eu ffurfio."

Mae Ofcom hefyd wedi ymateb heddiw i ohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol sy'n nodi blaenoriaethau ar gyfer gweithredu'r mesurau newydd. Mae'r ateb gan Brif Weithredwr Ofcom, y Fonesig Melanie Dawes, ar gael yma.

Mae llythyr gan Oliver Griffiths, Cyfarwyddwr Grŵp Diogelwch Ar-lein Ofcom at Ollie Ilott, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro, Technoleg sy'n Dod i'r Amlwg a Deallusrwydd Artiffisial yn DSIT, yn nodi rhagor o fanylion ar sut mae Ofcom yn paratoi i gyflawni'r gwaith o ehangu cyfyngiadau cyfryngau cymdeithasol i blant.