Cyhoeddwyd:
2 Medi 2026
Mae'r canllaw hwn yn esbonio mwy am ddiogelwch rhyngrwyd symudol ac yn dangos i chi sut i ddod o hyd i wybodaeth i gadw'ch plant yn ddiogel ar-lein.
Rheolaethau rhieni ar gyfer ffonau symudol
- Mae’r holl darparwyr ffônau symudol yn cynnig gwasanaethau rheoleothau rhieni am ddim sy'n cyfyngu'r cynnwys y gall plant ei gyrchu trwy'r rhyngrwyd i gynnwys sy'n addas ar gyfer plant dan 18 oed. Fodd bynnag, efallai na fyddant bob amser yn cael eu troi ymlaen yn awtomatig. Gwiriwch gyda'ch darparwr gwasanaeth bod y gosodiadau rheoli rhieni wedi'u troi ymlaen, a gofynnwch iddynt gael eu troi ymlaen os nad ydynt. Dylech allu gwneud hyn trwy osodiadau eich cyfrif ar wefan eich darparwr.
- Yn aml, mae pobl ifanc yn tynnu lluniau a fideos ohonynt eu hunain a'i gilydd ar eu ffonau symudol ond dylent fod yn ofalus iawn sut maen nhw'n rhannu'r delweddau hyn. Gall lluniau/fideos cywilyddus neu amhriodol gael eu trosglwyddo’n hawdd rhwng ffonau a'u rhoi ar-lein. Unwaith maent wedi’u hanfon neu eu rhoi ar-lein, gall rheolaeth dros y delweddau gael eu colli a gallent ddod gael eu cyrchu gan Ddieithriaid. Gellir defnyddio ffotograffau neu fideos hefyd i danio bwlio neu aflonyddu. Ewch i wefan thinkuknow am ragor o wybodaeth a chyngor ar hyn.
- Os oes gan eich plentyn broffil ar safle rhwydweithio cymdeithasol, mae'n debygol y byddai‘n cyrchu’r proffil ar eu ffôn symudol. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod pam ei bod hi’n bwysig dim ond caniatáu i'w gwybodaeth bersonol gael ei rhannu â phobl maen nhw'n eu hadnabod yn y byd go iawn yn unig. Mae'r mwyafrif o'r safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn nodi isafswm oedran o 13 ar gyfer pob aelod. Ar gyfer y safleoedd hynny sydd wedi'u hanelu at blant iau, fel arfer bydd angen caniatâd rhieni a chadarnhad o oedran y plentyn . Gwiriwch y gofyniad oedran isafswm ar gyfer defnyddwyr – gofynnwch i'ch plentyn pa wefannau maen nhw'n ymweld â nhw i wneud yn siŵr eu bod yn ymweld â safleoedd sy'n briodol i'w hoedran.
Rhoi gwybod am ddeunydd amhriodol
Dylai rhieni a gofalwyr annog eu plant i ddweud wrthyn nhw am unrhyw beth maen nhw wedi'i weld neu ei glywed sydd wedi gwneud iddyn nhw deimlo'n anghyfforddus neu'n ofnus.
Dylai rhieni a gofalwyr roi gwybod am ddigwyddiadau i'w gweithredwr rhwydwaith symudol ac mewn achosion o gyswllt rhywiol i'r Ganolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP) gan ddefnyddio eu botwm adrodd am gamdriniaeth.
Gwefannau defnyddiol eraill
Cynnwys cysylltiedig