Diweddariad Cysylltu'r Gwledydd: Gwanwyn 2025

Cyhoeddwyd: 8 Mai 2025

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cipolwg o’r ddarpariaeth symudol ac argaeledd band eang sefydlog ar draws y DU fel yr oedd y sefyllfa ym mis Ionawr 2025. Mae’n ddiweddariad interim i’n Hadroddiad Cysylltu’r Gwledydd 2024 (CN2024), a oedd yn seiliedig ar ddata band eang sefydlog o fis Gorffennaf 2024 ymlaen a data darpariaeth symudol o fis Medi 2024 ymlaen.

Fel y nodwyd gennym yn CN2024, er ein bod o’r farn bod y dull presennol o adrodd ar ddarpariaeth symudol yn effeithiol ar y cyfan ar gyfer asesu darpariaeth gyfartalog ar draws ardaloedd eang, mae ganddo gyfyngiadau. Yn benodol, mae’n cyflwyno cryn ansicrwydd wrth geisio asesu darpariaeth mewn lleoliad penodol, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae cryfder y signal yn isel.

Rydym wrthi’n gwella ein prosesau adrodd ar ddarpariaeth, gan ddechrau gyda’n hadnodd gwirio darpariaeth symudol, a fydd yn cael ei ddiweddaru yn ystod y misoedd nesaf. I gael rhagor o fanylion am gwmpas y newidiadau sy’n cael eu hystyried i’r adnodd gwirio darpariaeth symudol, edrychwch ar dudalennau 30 i 31 o CN2024. Byddwn yn ystyried sut byddwn yn cyflwyno’r newidiadau hyn i’n hadroddiadau Cysylltu’r Gwledydd. Fodd bynnag, ar gyfer y diweddariad hwn, mae’r ffigurau darpariaeth yn seiliedig ar yr un fethodoleg a ddefnyddiwyd ar gyfer CN2024.

Ar gyfer band eang sefydlog, fel mewn diweddariadau blaenorol, rydym yn adrodd ar argaeledd gwasanaethau band eang o rwydweithiau llinell sefydlog a mynediad di-wifr sefydlog (FWA). Ar ben hynny, rydym yn adrodd ar y nifer sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn, ar ffeibr llawn ac, am y tro cyntaf, ar rwydweithiau mynediad di-wifr sefydlog. 

Ochr yn ochr â’r cyhoeddiad hwn, mae ein hadroddiad diweddaraf sy’n edrych tua’r dyfodol ar leoliadau arfaethedig o rwydweithiau capasiti uchel iawn ar gael yma.

Crynodeb o’r prif ganfyddiadau

  • Mae nifer y cartrefi sy’n gallu cael band eang sy’n gallu delio â gigabits wedi cynyddu i 25.9 miliwn (86% o 30.2 miliwn o gartrefi yn y DU), i fyny o 25.0 miliwn (83%) ym mis Gorffennaf 2024. Mae darpariaeth sy’n gallu delio â gigabits ar gyfer pob eiddo, h.y. cyfuno preswyl a busnes, yn 84% [1].
  • Mae bron i dri chwarter cartrefi’r DU (22.5 miliwn neu 74%) yn gallu cael gafael ar wasanaeth band eang ffeibr llawn. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o bum pwynt canran (1.8 miliwn o gartrefi) yn y chwe mis hyd at fis Ionawr 2025.
  • Yn ystod yr un cyfnod o chwe mis, mae nifer y cysylltiadau band eang ffeibr llawn wedi cynyddu 1.5 miliwn i 9.0 miliwn.
  • Mae nifer yr adeiladau heb fynediad at fand eang boddhaol (cyflymder llwytho i lawr o 10 Mbit yr eiliad a chyflymder llwytho i fyny o 1 Mbit yr eiliad o leiaf) o linell sefydlog neu rwydwaith mynediad di-wifr sefydlog wedi gostwng o 58,000 i 48,000 o adeiladau. O’r rhain, nid oes disgwyl i oddeutu 41,000 o eiddo fod yn rhan o’r gwaith o gyflwyno cynlluniau a ariennir gan arian cyhoeddus yn ystod y deuddeg mis nesaf.
  • Mae darpariaeth 4G symudol wedi aros yn sefydlog ers mis Medi 2024, gyda disgwyl i tua 96% o dir y DU fod â darpariaeth 4G dda yn yr awyr agored gan o leiaf un gweithredwr rhwydwaith symudol. Mae gweithredwyr rhwydweithiau symudol yn cynnal o leiaf 99% o ddarpariaeth y tu allan i eiddo yn y DU.
  • Mae darpariaeth 5G hefyd wedi aros yn sefydlog dros y pedwar mis blaenorol, a rhagwelir y bydd gan tua 62% o dir y DU ddarpariaeth 5G gan o leiaf un gweithredwr rhwydwaith symudol. Mae darpariaeth gweithredwyr rhwydweithiau symudol y tu allan i eiddo yn amrywio rhwng 62% ac 85% (cofnodwyd y ffigurau ar Lefel Hyder Uchel [2].

Yn yr un modd â diweddariadau blaenorol rydym wedi cyhoeddi:

  • adroddiad rhyngweithiol sy'n cynnwys y data diweddaraf a data hanesyddol; a
  • thablau cryno (Saesneg yn unig) ar gyfer darpariaeth sefydlog a’r nifer sy’n defnyddio’r gwasanaeth, darpariaeth symudol (4G, 5G, llais a thestun), a rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol (USO).

Rydym hefyd wedi defnyddio’r data yn yr adroddiad hwn i ddiweddaru ein gwiriwr darpariaeth band eang a symudol.

Troednodiadau

  1. Yn unol â chyhoeddiadau blaenorol Cysylltu’r Gwledydd, mae ein hadroddiadau ar ddarpariaeth ffeibr llawn a rhwydweithiau sy’n gallu delio â gigabit yn canolbwyntio ar eiddo preswyl. Targed Llywodraeth y DU yw bod band eang sy’n gallu delio â gigabits ar gael i o leiaf 85% o adeiladau’r DU erbyn 2025 (Gigabit broadband in the UK: Government targets, policy, and funding - House of Commons Library). Ar sail ein dadansoddiad ar gyfer y diweddariad interim hwn, mae Llywodraeth y DU ar y trywydd iawn i gyflawni’r targed.
  2. O ran darpariaeth symudol 5G, rydym yn darparu ffigurau Lefel Hyder Uchel a Lefel Hyder Uchel Iawn, gan adlewyrchu’r tebygolrwydd o ddarpariaeth ar lawr gwlad i ddefnyddwyr. Edrychwch ar dudalen 13 yr atodiad Methodoleg CN2024 i weld diffiniad o’r lefelau hyn.

Lawrlwytho'r data

Rydym wedi darparu rhywfaint o'r data y mae'r adroddiad Cysylltu'r Gwledydd yn seiliedig arno i'w lawrlwytho. 

Gweler ein telerau defnyddio ar gyfer ein hamodau trwydded. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ar y data rydym wedi'i ddarparu, gyrrwch e-bost i cndatateam@ofcom.org.uk.

  Data (Saesneg yn unig) Am y data

Darpariaeth sefydlog - y DU a'r Cenhedloedd, awdurdodau lleol ac unedol, etholaethau San Steffan

Defnydd ffibr llawn – awdurdodau lleol ac unedol

Darpariaeth sefydlog a defnydd ffeibr llawn (ZIP, 169 KB) Ynglŷn â'r data hwn: Gorchudd sefydlog (PDF, 352 KB)

Darpariaeth sefydlog - ardaloedd allbwn

Ardaloedd allbwn-darpariaeth sefydlog (ZIP, 8.9 MB)

Darpariaeth sefydlog - codau post

Codau post darpariaeth sefydlog (ZIP, 25.9 MB)

Darpariaeth symudol - y DU a'r Cenhedloedd, awdurdodau lleol ac unedol, etholaethau San Steffan

Darpariaeth symudol i gyd (ZIP, 249 KB)

Ynglŷn â'r dyddiad hwn: Gorchudd symudol (PDF, 306 KB)

 

Adroddiad rhyngweithiol

Am y profiad gorau, ehangwch i'r sgrîn lawn (cliciwch y botwm yn y gornel isaf ar y dde).

I wneud cais am y wybodaeth hon mewn fformat arall, ffoniwch 020 7981 3040 neu ysgrifennwch at y Tîm Digidol.

Yn ôl i'r brig