Mapio Eich Ffôn Symudol – diweddariad am y gwiriwr darpariaeth symudol

Cyhoeddwyd: 30 Mehefin 2025
Diweddarwyd diwethaf: 8 Awst 2025

Crynodeb

Yn ddiweddar, fe wnaethom lansio ein gwiriwr darpariaeth newydd 'Mapio Eich Ffon Symudol' i adlewyrchu'n well y profiad mae defnyddwyr yn debygol o'i gael ar gyfer gwasanaethau sy'n defnyddio llawer o ddata, fel ffrydio. Mae'r diweddariad hwn yn nodi'r hyn rydym wedi'i wneud i wneud y gwelliannau hyn a sut bydd yn helpu defnyddwyr i ddewis y darparwr symudol sydd orau iddyn nhw yn y lleoliadau maen nhw eisiau ei ddefnyddio. Ond, dim ond y cam cyntaf yw hwn. Rydym yn nodi'r gwaith pellach rydym yn ceisio ei wneud i wella'r gwiriwr newydd a hefyd i chwarae ein rhan gyda'r Llywodraeth a'r diwydiant yn yr ymgyrch i roi gwell perfformiad a darpariaeth symudol i ddefnyddwyr lle mae angen hynny fwyaf arnyn nhw.

Y cyd-destun

Mae darpariaeth symudol yn hanfodol i fywyd modern. Wrth i bobl ddefnyddio ffonau a dyfeisiau tabled i wylio fideos, gwrando ar gerddoriaeth, cyfathrebu neu weithio wrth symud o le i le, maen nhw'n disgwyl cael rhwydwaith symudol sydd â signal da lle bynnag maen nhw'n byw, gweithio ac yn teithio.

Mae pobl yn dibynnu mwy nag erioed o'r blaen ar ffonau symudol fel rhan o'u bywydau bob dydd. Mae hyn wedi bod yn gatalydd i Ofcom, y Llywodraeth a'r diwydiant i flaenoriaethu gwasanaethau a gwybodaeth o ansawdd uchel ar gyfer defnyddwyr ffonau symudol.

Cynnydd hyd yma

Rydym wedi gweld y ddarpariaeth 4G[1] ledled y DU yn cynyddu o 91% yn 2019 i 96% yn 2025. Yng nghefn gwlad, mae hyn wedi cael ei sbarduno gan y Rhwydwaith Gwledig a Rennir (SRN), prosiect y cytunwyd arno rhwng y Llywodraeth a chwmnïau ffonau symudol, sy'n sicrhau bod band eang symudol 4G ar gael i dros 95% o ehangdir y DU. Mae tua 30,000 cilomedr sgwâr o'r DU wedi cael darpariaeth drwy'r fenter, gan wella'r ddarpariaeth yn sylweddol mewn ardaloedd gwledig.

Yn y cyfamser, mae technolegau symudol yn parhau i ddatblygu. 5G yw'r genhedlaeth ddiweddaraf o dechnoleg symudol, ac mae'n cynnig mwy o gapasiti i lawer iawn o ddyfeisiau gael eu cysylltu mewn ardaloedd prysur iawn. Mae darpariaeth 5G yn datblygu'n gyflym, ac mae 5G bellach yn cyfrif am un rhan o bump o'r holl draffig symudol. Mae tua hanner y ffonau symudol yn gallu delio â 5G.

Beth sy’n wahanol am ein hadnodd newydd

Mae'r fersiwn newydd hon o'n hadnodd yn adlewyrchu bod pobl yn disgwyl eu bod yn gallu cael cysylltiad ym mhobman, drwy'r amser. Mae'n defnyddio rhagfynegiadau o gryfder signal, a ddarperir gan weithredwyr rhwydweithiau symudol, i benderfynu a yw'n debygol y bydd darpariaeth ar gael mewn unrhyw ardal benodol. Rydym wedi defnyddio trothwyon uwch o gryfder signal a ragwelir i ddangos lle gall cwsmeriaid fod yn fwy ffyddiog y byddan nhw'n cael gwasanaeth dibynadwy. Cafodd y trothwyon y gwnaethom eu defnyddio o'r blaen eu cyflwyno 10 mlynedd yn ôl, ar adeg pan oedd galw defnyddwyr am ddata a'u disgwyliadau o ran rhwydweithiau symudol yn llawer llai.

Mae'r trothwyon blaenorol hyn yn dal yn ddefnyddiol wrth ragfynegi lle mae'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn debygol o gael cysylltiad yn yr awyr agored ar gyfer gwasanaethau sylfaenol, ond pwysig, fel negeseuon llais a thestun, a fideo o ansawdd is. Nawr, mae angen i ddefnyddwyr wybod hefyd lle gallan nhw ddefnyddio eu dyfeisiau symudol i fwynhau'r ystod lawn o apiau a gwasanaethau, gan gynnwys ffrydio. Mae angen cryfder signal cryfach ar gyfer y gwasanaethau mwy newydd hyn, felly rydym wedi ychwanegu trothwy llymach i ddangos lle gall pobl fod yn fwy ffyddiog o ddefnyddio'r gwasanaethau hyn.

Mae pobl hefyd yn awyddus i gael gwybodaeth fwy manwl am ansawdd y gwasanaethau symudol lle maen nhw'n byw ac yn gweithio, ac mae ein hadnodd newydd yn darparu hynny. Mae gwybodaeth am y ddarpariaeth yn cael ei darparu ar lefel leol o sgwariau 50 metr lle mae'r data hwn gennym, o'i gymharu â sgwariau 100 metr ym mhob man o'r blaen.

Sut mae'r trothwyon newydd yn gweithio

Nid yw'r ddarpariaeth yn absoliwt, a gall llawer o ffactorau effeithio ar ansawdd y gwasanaeth rydych chi'n ei gael, gan gynnwys mwy o bobl yn defnyddio'r rhwydwaith o'ch cwmpas neu fod mewn car sy'n rhwystro rhywfaint o'r signal. Un o'r ffactorau mwyaf arwyddocaol yw a ydych chi o dan do neu yn yr awyr agored. Y tu mewn i adeiladau, mae cryfder eich signal yn debygol o gael ei wanhau i wahanol raddau ar sail amrywiaeth o ffactorau, fel deunydd yr adeilad a lle rydych chi yn yr adeilad. Am y rheswm hwn, mae ein hadnodd Mapio Eich Ffon Symudol newydd yn rhoi rhagfynegiadau ar wahân ar gyfer darpariaeth dan do a darpariaeth yn yr awyr agored. 

Mae'r wybodaeth sydd ar gael yn yr adnodd Mapio Eich Ffon Symudol newydd yn dangos lle gallwch ddisgwyl cael darpariaeth awyr agored 'amrywiol' – sydd, fel arfer, yn ddigon ar gyfer gwasanaethau llais a negeseuon testun a darpariaeth fideo o ansawdd is – a darpariaeth 'da' yn yr awyr agored, lle gallwch fod yn fwy ffyddiog y bydd y rhwydwaith yn cefnogi ffrydio a gwasanaethau tebyg eraill. Disgrifir y trothwyon ar gyfer gweithgareddau sy'n defnyddio mwy o ddata fel naill ai 'amrywiol' neu 'da', gyda 'da' yn drothwy newydd.

Yn debyg i'n newidiadau ar gyfer darpariaeth yn yr awyr agored, rydym hefyd yn cynyddu'r trothwy cryfder signal 'amrywiol' dan do er mwyn adlewyrchu profiad uniongyrchol defnyddwyr yn well. Ond, nid ydym wedi newid y trothwy dan do 'da' gan fod hyn eisoes wedi'i osod ar lefel sy'n debygol o gynrychioli lle gall pobl fod yn fwy ffyddiog y byddan nhw'n cael darpariaeth dda dan do. Byddwn yn adolygu hyn yng ngham dau ein gwaith, ar sail adborth gan ddefnyddwyr.

Mae'r tabl isod yn amlinellu'r hen drothwyon signal a'r trothwyon signal newydd rydym yn eu defnyddio gyda rhagfynegiadau o gryfder signal gweithredwyr rhwydweithiau symudol.

Hen drothwyon a labeli

Awyr agored
Dan do
 Cyfyngedig -115dBm  -92dBm
 Tebygol  -105dBm  -74dBm

New thresholds and labels
Awyr agored
Dan do
 Amrywiol -105dBm -82dBm
 Da -95dBm -74dBm

Ac ystyried natur debygol rhagfynegiadau o gryfder signal a ddarperir gan y rhwydweithiau symudol, ni waeth beth yw'r trothwy a ddefnyddir i bennu'r ardal sydd â darpariaeth, bydd rhai defnyddwyr y tu allan i'r ardal honno yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnyn nhw yn ogystal â rhai na fyddan nhw'n cael y gwasanaeth hwnnw.

Metrigau darpariaeth ledled y wlad

Mae cyflwyno'r trothwyon newydd hyn yn rhoi haen ychwanegol o wybodaeth am ddarpariaeth ledled y DU. Drwy gyfuno'r ardaloedd sydd â chryfder signal a ragfynegir sy'n uwch na'r trothwyon hyn, gallwn weld darlun cyffredinol o'r ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau llais a SMS sylfaenol a fideo o ansawdd is ('amrywiol') a lle mae darpariaeth yn debygol o fod ar gael ar gyfer gwasanaethau tebyg i ffrydio ('da').

Rydym wedi dadansoddi rhagfynegiadau darpariaeth gyfun 4G a 5G ar gyfer mis Mawrth 2025 gan weithredwyr rhwydweithiau symudol gan ddefnyddio'r trothwyon hyn, a'r manylder sgwariau 50 metr. Dyma ein ffigurau diweddaraf ar gyfer darpariaeth yn y DU[2];

Disgrifiadau o drothwyon newydd

Gan o leiaf un gweithredwr rhwydwaith symudol

Gan y pedwar gweithredwr rhwydwaith symudol

Ardal ddaearyddol 'amrywiol' yn y DU

96%

81%

Ardal ddaearyddol 'da' yn y DU 

88%

51%

Eiddo (awyr agored) 'amrywiol' yn y DU

99%+

99%

Eiddo (awyr agored) 'da' yn y DU 

99%+

89%

Byddwn yn cyhoeddi’r ffigurau diweddaraf o'r ddarpariaeth yn Cysylltu’r Gwledydd 2025.

Gwella’r wybodaeth sydd ar gael i ddefnyddwyr drwy ddata torfol

Mae angen gwell gwybodaeth ar ddefnyddwyr i wneud dewisiadau mwy gwybodus am eu gwasanaethau a'u darparwr symudol. Mae Mapio Eich Ffôn Symudol yn galluogi defnyddwyr ffonau symudol i roi eu cod post a gweld map lleol o'r rhwydwaith a'r gwasanaethau sydd ar gael.

Nid oes trothwy cryfder signal lle gellir gwarantu darpariaeth a chysylltedd 100% o'r amser, na ar ba ddarpariaeth a ragfynegir y bydd y data yn 100% cywir. Dylai signal cryfach arwain at gysylltiad gwell, ond mae ffactorau eraill fel tagfeydd ar y rhwydwaith, defnyddwyr ac adeiladau neu goed cyfagos yn ymyrryd â'r signal, a hyd yn oed y ffôn sy'n cael ei ddefnyddio hefyd yn effeithio ar a yw'r cysylltiad hwnnw'n ddibynadwy neu a oes modd ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau lle mae mwy o alw.

Felly, rydym wedi ychwanegu rhagor o wybodaeth at Mapio Eich Ffôn Symudol ar sail data torfol.  Mae Mapio Eich Ffôn Symudol yn dangos sgôr perfformiad yn ardal cod post y defnyddiwr[3] ar gyfer pob un o'r rhwydweithiau symudol ar sail profiad go iawn y defnyddiwr. Mae’r sgôr yn deillio o’r ganran o weithiau y cafwyd cysylltiad llwyddiannus ar gyflymder llwytho i lawr o 5 Mbit yr eiliad ar gyfer rhwydwaith pob gweithredwr rhwydwaith symudol, ac felly'r tebygolrwydd y byddai cysylltiad ar gyfer gwasanaeth mwy dibynadwy. 

Rydym yn awyddus i ddal ati i wella’r wybodaeth sydd ar gael i ddefnyddwyr. Rydym yn croesawu adborth ar Mapio Eich Ffôn Symudol a byddwn yn symud i gam nesaf y gwaith hwn cyn bo hir.

Byddwn yn gweithio gyda’r diwydiant a'r Llywodraeth i wneud cynnydd pellach

Dim ond un ffordd o wella perfformiad dyfeisiau symudol yw Mapio eich Ffôn Symudol. Yn ein rôl fel rheoleiddiwr sbectrwm, rydym yn sicrhau bod mwy o sbectrwm ar gael. Eleni, byddwn yn dyfarnu mwy na 5GHz o sbectrwm 'tonnau milimedr', sy'n gallu gwella capasiti rhwydweithiau symudol mewn ardaloedd lle mae galw mawr fel gorsafoedd trenau, y stryd fawr a lleoliadau chwaraeon. Rydym hefyd yn bwriadu rhyddhau sbectrwm ychwanegol ar 1.4GHz ac rydym yn arwain trafodaethau ledled Ewrop i hwyluso mynediad i'r band 6GHz uchaf ar gyfer gwasanaethau symudol a Wi-Fi.

Mae technoleg 'uniongyrchol i ddyfeisiau' sy'n dod i'r amlwg yn golygu bod lloerennau'n gallu pelydru signalau'n syth i ffonau clyfar safonol. Gallai hyn ddarparu gwasanaethau sylfaenol lle mae'r ddarpariaeth yn fwy o her, er enghraifft mewn pentrefi anghysbell ac ardaloedd mynyddig, a chael eu defnyddio ar gyfer galwadau brys hanfodol ac i fod wrth gefn pan na fydd digon o rwydwaith. Ym mis Mawrth 2025, fe wnaethom gyhoeddi mesurau a fyddai'n caniatáu i bob defnyddiwr ffonau symudol gael gafael ar y math hwn o wasanaeth.

Yn olaf, yn yr uno a gwblhawyd yn ddiweddar rhwng Vodafone a Three ceir ymrwymiadau sy'n gyfreithiol rwymol i uwchraddio'r rhwydwaith a gwella darpariaeth ac ansawdd yn sylweddol. Rydym yn disgwyl y bydd cystadleuaeth yn ymateb yn gadarnhaol i'r newidiadau hyn ac yn gwella ansawdd ledled y DU. Rydym yn disgwyl gweld yr ansawdd uwch hwn yn cael ei adlewyrchu yn ein 'Mapio Eich Ffôn Symudol' mewn diweddariadau data yn y dyfodol.

Troednodiadau

[1] Gan o leiaf un Gweithredwr Rhwydwaith Symudol

[2] Mae'r ffigurau hyn yn defnyddio cydraniad picsel 50mx50m ac eithrio data Vodafone sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd ar 100mx100m a nes bydd eu data 50mx50m ar gael. Rydym wedi graddio data 100mx100m Vodafone i gydraniad picseli 50mx50m er mwyn gallu cyfrifo ffigurau cenedlaethol cyffredinol mewn modd cyson.

[3] From at least one Mobile Network Operator