
- Ofcom yn lansio Mapio Eich Ffon symudol
- Rhowch eich cod post i weld pa rwydwaith symudol sy'n gweithio orau i chi
Yn ôl Ofcom, gallai miliynau o Brydeinwyr fod yn colli allan ar y rhwydwaith symudol sydd orau iddyn nhw, wrth iddo lansio gwiriwr cod post newydd sy’n datgelu darpariaeth a pherfformiad lleol.
Mapio Eich Ffon symudol, sydd ar gael yn ofcom.org.uk/cy/ffonsymudol, fydd yr adnodd mwyaf cynhwysfawr i gymharu perfformiad a darpariaeth symudol yn y DU.
Mae’r gwasanaeth yn caniatáu i ddefnyddwyr roi eu cod post a chael map lleol o ba rwydweithiau sydd ar gael, ynghyd â data sy’n dangos pa rwydwaith gweithredwyr sy’n rhoi’r perfformiad gorau i’w hardal cod post. [1]
Dywedodd Natalie Black, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom: “Mae Mapio Eich Ffon symudol yn dangos darpariaeth a pherfformiad manwl yn seiliedig ar yr hyn sydd ei angen ar ffonau clyfar heddiw. Rhowch eich cod post i mewn i weld pa rwydwaith symudol sy’n addas i chi.”
Pŵer cod post
Mae Mapio Eich Ffon symudol yn cael ei lansio ar adeg pan fo nifer yr achosion o symud tŷ yn y DU ar ei uchaf, lle mae disgwyl i dros hanner miliwn o bobl symud dros yr haf. [2] Mae’r adnodd yn golygu y gall prynwyr wirio ymlaen llaw pa rwydwaith sy’n darparu'r gwasanaeth gorau ar gyfer eu heiddo newydd, a'r ardal o’i gwmpas.
Mae hefyd yn caniatáu i bobl archwilio pa rwydweithiau sy’n cynnig y ddarpariaeth orau yn eu gweithle neu eu llwybr cymudo – ac i gymunedau lleol asesu ansawdd y gwasanaeth ar draws eu hardal.
Mae’r gwiriwr yn cynnwys data torfol gan Opensignal sy’n seiliedig ar brofiadau go iawn pobl, yn ogystal â data rhagfynegol gan weithredwyr symudol y DU. Mae hefyd yn ychwanegu trothwy newydd ar gyfer yr hyn sy’n cael ei ystyried yn signal symudol da, er mwyn adlewyrchu newidiadau yn arferion a disgwyliadau defnyddwyr gwasanaethau symudol.
Mae ar bobl angen gwasanaeth dibynadwy iawn yn fwy ac yn fwy ar gyfer gweithgareddau sy’n defnyddio llawer o ddata, fel chwarae gemau, ffrydio fideos a gweithio ar grwydr. Mae hyn yn golygu bod y gwiriwr newydd yn rhoi canlyniadau gwahanol i'r adnodd blaenorol, ond mae’n adlewyrchu anghenion modern defnyddwyr yn fwy cywir.
Mae angen gwybodaeth well ar ddefnyddwyr ffonau symudol hefyd am ansawdd y signal lle maent yn byw ac yn gweithio, felly mae ein hadnodd newydd yn darparu hynny. Darperir data ar lefel leol o 50 metr sgwâr, o’i gymharu â 100 metr sgwâr yn y gorffennol.[3] Dim ond y cam cyntaf yw'r lansiad heddiw, gan y byddwn yn parhau i ddiweddaru’r gwiriwr gyda data ffres a gwybodaeth ddefnyddiol, gan roi mwy o bŵer yn nwylo cwsmeriaid sy’n awyddus i newid rhwydweithiau [4].
Tanio dyfodol gwasanaethau symudol
Bydd y ddarpariaeth symudol ar lawr gwlad yn gwella wrth i gwmnïau barhau i wella eu rhwydweithiau a pharatoi i fuddsoddi biliynau o bunnoedd yn y blynyddoedd i ddod.
Mae Ofcom hefyd yn gweithio i wella ac arloesi rhwydweithiau symudol, er mwyn i bobl gael gwell cysylltiad nag erioed o’r blaen.
Yn ddiweddarach eleni byddwn yn arwerthu sbectrwm tonnau milimetr – tonnau radio bach iawn sy’n galluogi cyfathrebu di-wifr. Bydd y dechnoleg arloesol hon yn datgloi capasiti rhwydwaith mewn ardaloedd dwysedd uchel, er mwyn i ddefnyddwyr allu dibynnu ar eu ffôn hyd yn oed pan fyddant wedi’u hamgylchynu gan gannoedd neu filoedd o bobl mewn stadia, gorsafoedd trenau neu ar y stryd fawr.
A chyn bo hir, o dan ein cynigion i alluogi cysylltiadau ‘uniongyrchol-i-ddyfais’ rhwng ffonau clyfar safonol a lloerennau, gallai pobl gael signal o’r gofod – hyd yn oed pan nad oes darpariaeth gan fast symudol traddodiadol ar y ddaear.
Dywedodd y Gweinidog Telathrebu Syr Chris Bryant: "Mae mynediad at ddarpariaeth symudol gyflym a dibynadwy yn hanfodol ar gyfer cyflawni'r newid sydd ei angen ar ein gwlad i ffynnu a hybu twf economaidd. Ers gormod o amser bu bwlch rhwystredig rhwng adroddiadau darpariaeth a'r signal go iawn y mae pobl yn ei brofi yn eu bywydau bod bydd.
“Mae'r offeryn newydd hwn yn rhoi gwybodaeth gywir ar lefel cod post i ddefnyddwyr fel bod ganddynt y pŵer i ddewis y rhwydwaith sy'n gweithio lle mae ei angen arnynt fwyaf - boed gartref, yn y gwaith neu ar eu taith i'r gwaith. Mae'n wych gweld y cam ymarferol hwn yn cael ei weithredu i wella cysylltedd i bawb ledled y genedl."
Dywedodd Hamish MacLeod, Prif Weithredwr Mobile UK: “Mae gweithredwyr symudol yn gwneud buddsoddiadau sylweddol i wella capasiti a darpariaeth symudol ledled y DU. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar adeg pan fo defnyddwyr yn defnyddio mwy a mwy o raglenni data-ddwys.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i weithio’n agos gyda’r Llywodraeth ac Ofcom i greu’r amgylchedd buddsoddi cadarnhaol a sefydlog sydd ei angen i gefnogi’r gwaith o barhau i gyflwyno seilwaith symudol y genhedlaeth nesaf.”
Dywedodd Tom Luke, Is-Lywydd (Arloesi) yn Opensignal: “Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi Ofcom i lansio’r gwiriwr gwe. Mae defnyddwyr ffonau symudol yn disgwyl profiad o ansawdd cyson lle bynnag maen nhw’n mynd – ond gall fod yn anodd dewis y darparwr gorau. Mae ein partneriaeth ag Ofcom yn symud y ffocws i brofiad yn y byd go iawn, gan ddefnyddio dadansoddiad annibynnol o dros 20 miliwn o brofion ledled y DU. Drwy roi’r data hwn yn uniongyrchol yn nwylo defnyddwyr, rydyn ni’n eu helpu i wneud dewisiadau mwy doeth ynghylch pa rwydwaith sy’n darparu ansawdd cyson yn lle maen nhw’n byw ac yn gweithio.”
Dywedodd Rocio Concha, Cyfarwyddwr Polisi ac Eiriolaeth Which?: "Ym marchnad orlawn rwydweithiau ffonau symudol y DU, mae angen i ddefnyddwyr gael mynediad at wybodaeth gywir am ddarpariaeth a pherfformiad er mwyn dewis cynllun sy'n diwallu eu hanghenion ac sy'n cynrychioli gwerth da am arian.
"Bydd offeryn newydd Ofcom yn helpu defnyddwyr i wneud penderfyniadau gwybodus gyda data torfol a data rhagfynegol gan weithredwyr rhwydweithiau symudol, a ddylai gynyddu dibynadwyedd y wybodaeth am ddarpariaeth sydd ar gael i ddefnyddwyr.
"Mae'n bwysig bod yr offeryn yn parhau i gynnwys adborth defnyddwyr er mwyn aros yn berthnasol, yn gywir, ac yn atebol i anghenion newidiol defnyddwyr."
Nodiadau i Olygyddion
[1] Ar gyfer dibenion yr adnodd, mae 'darpariaeth' yn dangos p’un ai y disgwylir fydd signal 4G/5G ar gael yn lleol, naill ai dan do neu yn yr awyr agored, ac a yw’r signal yn debygol o fod yn dda neu amrywio. Dangosir y canlyniadau ar fap er mwyn i chi allu symud o gwmpas a nesáu/pellhau. Mae ‘perfformiad’ yn cyfeirio at brofiadau go iawn pobl, ac at ddibenion ein hadnodd mae’n golygu’r tebygolrwydd y gallwch ffrydio fideo ar eich ffôn pan fyddwch chi yn eich ardal leol – sef yr ardal sy’n dod o dan ran gyntaf eich cod post.
[2] Mae nifer yr achosion o symud tŷ yn y DU ar ei uchaf rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, gyda mwy na 600,000 o bobl yn symud cartref yn ystod y cyfnod hwnnw – mis Awst yw'r mis prysuraf. Ffynhonnell: Home Owners Alliance, 2024.
[3] Mae 50 metr sgwâr yn debyg o ran graddfa i god post preswyl ar gyfer 15-20 o gartrefi.
[4] Mae Ofcom wedi gwneud y broses o newid darparwr symudol yn gynt ac yn haws nag erioed o’r blaen. I wneud y newid, anfonwch neges destun gyda’r gair ‘PAC’ i 65075 i ddechrau’r broses.