Mae llinellau tir yn symud i dechnoleg ddigidol, a elwir yn aml yn llinellau tir digidol. Mae hyn er mwyn helpu i sicrhau eich bod yn parhau i gael gwasanaeth ffôn cartref dibynadwy.
Mae'r rhwydwaith ffôn traddodiadol, a elwir yn rhwydwaith cyfnewidfeydd ffôn cyhoeddus (PSTN), yn hen ac yn dod yn llai dibynadwy, felly mae angen system newydd. Dyma ychydig o bethau pwysig i wybod am y newid.
Beth sydd angen i chi ei wneud
Siaradwch â'ch darparwr i ddarganfod a yw'r newid i linellau tir digidol yn effeithio arnoch chi.
Dywedwch wrth eich darparwr cyn y newid os yw unrhyw un o'r rhain yn berthnasol:
- mae gennych larwm gofal, pendant iechyd, larwm diogelwch neu ddyfais gysylltiedig arall sy'n defnyddio'r llinell ffôn;
- mae gennych anabledd neu unrhyw anghenion eraill sy'n golygu bod angen cymorth ychwanegol arnoch gyda'r gosodiad;
- nid oes gennych ffôn symudol, neu nid oes gennych signal symudol digonol gartref i ffonio'r gwasanaethau brys.
Edrychwch ar ein cyngor ar y newid i ddigidol
- Beth mae’r newid yn ei olygu i chi
- Beth i'w wneud os bydd rhywbeth yn mynd o'i le
- Larymau gofal, teleofal a larymau llinell achub eraill
- Gwneud galwadau ffôn mewn toriad pŵer
- Cymorth ychwanegol os ydych chi'n oedrannus, yn anabl neu os oes gennych anghenion ychwanegol
- Mwy o wybodaeth am y newid
Beth mae'r newid yn ei olygu i chi
- Mae llawer o gwsmeriaid wedi symud i linell dir digidol yn barod.
- I'r rhan fwyaf o gwsmeriaid, dylai'r newid fod yn syml heb unrhyw effaith ar eich gwasanaeth.
- Bydd eich llinell dir digidol yn gweithio dros gysylltiad band eang.
- Bydd angen i chi blygio'ch ffôn i'ch llwybrydd band eang, yn hytrach nag yn uniongyrchol i'r soced wal.
- Gallwch gadw’ch rhif ffôn – dylech allu parhau i wneud a derbyn galwadau yn yr un modd.
- Efallai y bydd angen offer newydd ar rai cwsmeriaid a allai gynnwys llwybrydd, addasydd neu ffôn llaw – dylai eich darparwr esbonio beth sydd ei angen a threfnu hyn gyda chi.
Am ganllawiau ymarferol ar eich newid, ewch i wefan y Newid i Ffôn Digidol.
Os yw'ch gwasanaeth yn defnyddio rhwydwaith BT Openreach
Mae BT yn bwriadu rhoi’r gorau i’w hen rwydwaith llinell dir erbyn 31 Ionawr 2027. Erbyn y dyddiad hwn, dylai defnyddwyr sy'n defnyddio rhwydwaith BT Openreach fod wedi symud i linell dir digidol, neu i wasanaeth ffôn arall sy'n caniatáu iddynt barhau i ddefnyddio llinell dir yn yr un ffordd ag y maent heddiw.
Dylech ymateb i'ch darparwr os ydyn nhw'n cysylltu â chi ynglŷn â’r newid, gan y gallech fod mewn perygl o golli gwasanaeth os na fyddwch chi'n siarad â nhw am y broses.
Os yw'ch gwasanaeth yn defnyddio rhwydwaith arall
Mae cwmnïau eraill sydd â'u rhwydweithiau eu hunain, gan gynnwys Virgin Media O2 a KCOM, hefyd yn bwriadu rhoi’r gorau i ddefnyddio eu hen rwydweithiau llinell dir, ond nid yw dyddiadau ar gyfer newid wedi'u cyhoeddi eto.
Beth i'w wneud os bydd rhywbeth yn mynd o'i le
Cysylltwch â'ch darparwr yn gyntaf. Esboniwch beth sydd wedi digwydd a gofynnwch iddynt ddatrys y broblem. Os nad ydych chi'n hapus â'u hymateb, codwch gŵyn ffurfiol gyda nhw.
Gallwch fynd â'ch cwyn i gynllun datrys anghydfodau amgen (ADR) os na chaiff y mater ei ddatrys o fewn chwe wythnos, neu os byddwch yn derbyn llythyr ‘deadlock’.
Gallwch hefyd rannu eich profiad gyda Thîm Cyswllt Defnyddwyr Ofcom. Nid ydym yn gallu datrys cwynion unigol, ond mae'r wybodaeth yn ein helpu i nodi patrymau ac yn cefnogi ein gwaith rheoleiddio.
Larymau gofal, teleofal a larymau llinell achub eraill
Dywedwch wrth eich darparwr llinell dir a chyflenwr eich dyfais cyn i'ch llinell dir gael ei newid i ddigidol os oes gennych chi, neu rywun yn eich cartref, larwm teleofal, pendant iechyd, larwm personol neu unrhyw ddyfais arall sy'n defnyddio'ch llinell ffôn.
Efallai na fydd eich larwm gofal neu ddyfais teleofal yn gweithio'n iawn ar linell dir digidol. Os dywedwch wrth eich darparwr llinell dir ymlaen llaw, gallant helpu i wirio a fydd eich dyfais yn gweithio a gwneud unrhyw drefniadau angenrheidiol, gan gynnwys gohirio’r newid nes bod ateb diogel ar waith os oes angen.
Cyn prynu dyfais newydd sy'n defnyddio'ch llinell ffôn, cofiwch ofyn i'r cyflenwr neu'r gwneuthurwr a fydd yn gweithio gyda'ch llinell dir digidol.
Gwneud galwadau ffôn mewn toriad pŵer
Dywedwch wrth eich darparwr cyn i'ch llinell dir gael ei newid i ddigidol os ydych chi'n dibynnu ar eich llinell dir ac nad oes gennych ffôn symudol neu signal symudol dibynadwy. Mae angen trydan prif gyflenwad ar linellau tir digidol ac ni fyddant yn gweithio mewn toriad pŵer oni bai bod gennych fatri wrth gefn.
Os ydych chi'n dibynnu ar eich llinell dir, rhaid i'ch darparwr sicrhau y gallwch gysylltu â'r gwasanaethau brys yn ystod toriad pŵer. Os nad oes gennych ffôn symudol sy'n gweithio neu signal symudol dibynadwy, rhaid i'ch darparwr llinell dir gynnig ateb wrth gefn i chi, am ddim, fel uned batri wrth gefn ar gyfer eich cartref. Rhaid i'r opsiwn wrth gefn hwn bara am o leiaf awr mewn toriad pŵer, ond mae gan rai darparwyr darpariaeth wrth gefn sy'n para hyd at saith awr.
I'r rhan fwyaf o bobl, mae ffôn symudol yn opsiwn ymarferol arall os bydd y pŵer yn mynd allan. Hyd yn oed os nad oes gennych signal ar eich rhwydwaith symudol arferol, bydd ffonio 999 yn cysylltu'n awtomatig trwy rwydwaith symudol arall os oes un ar gael.
Cymorth ychwanegol os ydych chi’n oedrannus, yn anabl neu os oes gennych anghenion ychwanegol
Dywedwch wrth eich darparwr cyn i'ch llinell dir gael ei newid i ddigidol os oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi, neu rywun yn eich cartref. Gallai hyn fod oherwydd eich bod yn oedrannus, yn anabl, bod gennych gyflwr iechyd, bod gennych symudedd cyfyngedig, neu fod angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol.
Rhaid i'ch darparwr asesu eich anghenion a gwneud trefniadau i'ch cefnogi'n iawn wrth eich symud i linell dir digidol. Dylent roi gwybodaeth glir i chi, cynnig cymorth ychwanegol gyda’r gosodiad os oes ei angen arnoch, a'ch cefnogi os bydd unrhyw beth yn mynd o'i le wedi hynny.
Mwy o wybodaeth am y newid
Efallai y bydd y dolenni hyn yn ddefnyddiol:
- Gwefan Newid i Ffôn Digidol, canllawiau ymarferol ar symud i linellau tir digidol, gan gynnwys teleofal.
- Siarter Moderneiddio Telathrebu, Mawrth 2026, sef cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a darparwyr telathrebu mawr ar foderneiddio telathrebu gan gynnwys y newid llinell dir.