Woman checking her bill in front of a laptop

Codi prisiau telegyfathrebiadau – beth yw eich hawliau?

Cyhoeddwyd: 20 Ionawr 2023
Diweddarwyd diwethaf: 29 Mehefin 2026

Mae contract ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu yn aml yn cynnwys telerau sy'n golygu y gallai'r prif bris misol gynyddu yn ystod cyfnod y contract, fel arfer unwaith y flwyddyn ym mis Mawrth neu Ebrill. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o ddarparwyr wedi cysylltu'r cynydd prisiau hyn â chwyddiant, ond mae Ofcom wedi gwahardd y dull hwn ar gyfer pob contract newydd. Mae hyn yn rhoi mwy o sicrwydd i chi ynglŷn â'r hyn y bydd yn rhaid i chi ei dalu.

Cynnydd ym mhris eich contract – beth sydd angen i chi ei wybod

Ers mis Ionawr 2025, gwaharddwyd darparwyr rhag cynnig contractau newydd sy'n cynnwys cynydd prisiau sy'n gysylltiedig â chwyddiant neu sydd wedi'u nodi mewn canrannau.

Yn lle hynny, rhaid i gwmnïau sy'n cynnwys cynydd mewn prisiau penodol yn eu contract nodi'r rhain yn glir mewn punnoedd a cheiniogiau, cyn i chi gofrestru.

Rhaid i'r wybodaeth hon gael ei nodi’n glir ac yn dryloyw cyn i chi gofrestru. Rhaid i'ch darparwr hefyd nodi pryd y bydd unrhyw newidiadau i'ch pris misol yn digwydd.

Os nad ydych chi'n meddwl bod eich darparwr wedi gwneud hyn, dylech gwyno iddynt.

Gallai contract a lofnodwyd cyn 17 Ionawr 2025 gynnwys cynnydd mewn prisiau sy'n gysylltiedig â chwyddiant neu sydd wedi'u nodi mewn termau canrannol.

Os nad yw'ch contract yn dweud faint y bydd y pris yn codi

Os nad yw'ch contract yn nodi faint y gall y pris godi, a bod eich darparwr yn codi'r pris – neu os yw'ch darparwr  yn codi'r pris yn fwy na'r cynnydd  a nodir yn eich contract,  mae'n rhaid iddo:

  • dweud wrthych o leiaf 30 diwrnod cyn i'r cynnydd ddod i rym; ac
  • O'r pwynt hwn yn rhoi 30 diwrnod i chi adael eich contract heb gosb os dymunwch.

Os penderfynwch adael y contract, gallwch naill ai ddewis contract newydd gyda'r un darparwr, neu newid i ddarparwr newydd heb dalu unrhyw ffioedd ymadael.

Pan fydd eich contract yn dod i ben, chwiliwch o gwmpas i arbed arian

Os yw'ch contract wedi dod i ben, fel arfer gallwch gael bargen well trwy gofrestru i gontract newydd neu newid darparwr. Mae darparwyr yn aml yn cynyddu'r prif bris misol pan fydd eich contract yn dod i ben, felly gwiriwch statws eich contract ac edrychwch ar hysbysiadau am hyn.

Os ydych chi'n meddwl am newid darparwr, edrychwch ar ein canllawiau ar newid, a safleoedd cymharu prisiau.

Mwy o ffyrdd o arbed arian

Rydym wedi llunio rhai awgrymiadau i leihau eich costau telathrebu. Yn benodol, efallai y byddwch yn gallu arbed arian trwy newid i dariff cymdeithasol os ydych chi'n hawlio budd-daliadau penodol, gan gynnwys Credyd Cynhwysol neu Gredyd Pensiwn. Os yw'ch darparwr yn cynnig tariff cymdeithasol a'ch bod yn gymwys, dylech allu newid i hyn heb orfod talu cosb, hyd yn oed os ydych mewn contract.

Gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid busnesau bach neu nid-er-elw

Mae rheolau gwahanol yn berthnasol os ydych chi'n prynu gwasanaethau ar gyfer busnes bach neu sefydliad nid-er-elw.

Rhaid i'ch darparwr nodi'n glir, cyn i chi gofrestru, y prif bris misol y byddwch chi'n ei dalu mewn punnoedd a cheiniogau. Fodd bynnag, mae gan ddarparwyr fwy o hyblygrwydd o dan ein rheolau i gynnig telerau i chi sy'n diwallu eich anghenion orau. Mae hyn yn golygu y gall cysylltiadau gynnwys termau sy'n cwmpasu gwahanol fathau o gynnydd mewn prisiau. Mae gennym fwy o wybodaeth am gontractau telathrebu ar gyfer busnesau bach.