Two men on a sofa looking at a tablet

1.6 miliwn o Brydeinwyr wedi newid eu darparwyr llinell dir neu fand eang

Cyhoeddwyd: 12 Medi 2025

Mae heddiw’n nodi blwyddyn ers lansio proses ‘Newid Un Cyffyrddiad’ Ofcom – ac mae mwy na 300 o ddarparwyr bellach yn cynnig y gwasanaeth syml hwn

  • Nid yw newid darparwyr llinell dir neu fand-eang erioed wedi bod mor syml, gyda chwsmeriaid yn gallu newid heb y drafferth o orfod siarad gyda’i darparwr presennol
  • Mae ffigyrau newydd yn dangos bod llu o gwsmeriaid wedi elwa hyd yn hyn, ac mae Ofcom yn annog pobl i wirio statws eu cytundebau i weld a oes cyfle i newid ac arbed
  • Mae miliynau o gwsmeriaid wedi newid darparwr llinell dir neu fand-eang trwy ddefnyddio proses Newid Un Cyffyrddiad Ofcom ers ei lansiad flwyddyn yn ôl - yn ôl dadansoddiad Ofcom, mae hynny’n fwy na’r cyfanswm o bobl a wyliodd Beyonce ar ei thaith Cowboy Carter neu'r rhai a brynodd tocynnau i weld Oasis eleni.

Mae Newid Un Cyffyrddiad  yn galluogi defnyddwyr newid darparwr band-eang a linell dir yn rhwydd, ni waeth pa rwydwaith y maent wedi bod yn defnyddio. O dan broses ‘un cyffyrddiad’, dim ond cysylltu â’u darparwr newydd sydd raid i gwsmeriaid ei wneud nawr, a fydd wedyn yn rheoli’r newid, gan ddanfon goblygiadau newid i’r cwsmer – sy'n golygu nad oes angen cysylltu gyda’r hen ddarparwr.

Ers 2015, mae pobl wedi gallu newid rhwng darparwyr ar rwydwaith Openreach, fel BT a Sky. Ond mae rheolau Ofcom bellach yn golygu bod pob cwsmer  llinell dir a band-eang yn elwa o’r un broses syml. Felly, gyda mwy o rwydweithiau ffibr newydd yn darparu miliynau o gartrefi, p’un a ydych chi gyda Virgin, neu rhwydwaith amgen  fel Community Fibre neu Hyperoptic, gallwch nawr newid yn ddidrafferth.  

Hefyd mae Newid Un Cyffyrddiad yn darparu manteision sylweddol i gwsmeriaid. Un o’r manteision hynny yw nad oes angen i gwsmeriaid dalu’r ffioedd cyfnod rhybudd ar ôl y dyddiad newid darparwr, gan fod darparwyr bellach angen cydlynu’r dyddiad newid. Gall hyn arbed amser ac arian, gan nad oes angen i bobl gydlynu’r broses eu hunain. Yn ogystal, mae’n ofynnol i ddarparwyr ad-dalu cwsmeriaid os oes oedi i ddechrau’r gwasanaeth newydd, neu os ydynt heb gysylltiad am fwy na diwrnod gwaith.

Newid mwy syml

Mae dadansoddiad newydd gan Ofcom, ers lansio Newid Un Cyffyrddiad  llynedd, fod mwy na 1.6 miliwn o gwsmeriaid wedi newid darparwr llinell dir neu fand-eang. Mae hynny’n fwy o bobl nag a welodd Beyonce ar ei thaith Cowboy Carter (1.5 miliwn)[1], neu a brynodd tocynnau Oasis (1.4 miliwn) [2].

EECC Switching 2025_1.6 million switches CYM

Mae newid mwy syml hefyd yn annog cystadleuaeth. Mae mwy na 300 o ddarparwyr yn rhan o Newid Un Cyffyrddiad, gan  hwyluso'r broses i gwsmeriaid siopa o gwmpas am fargen well.

Dywedodd Cristina Luna Esteban, Cyfarwyddwr Polisi Telathrebu am Rwydweithiau a Chyfathrebu Ofcom: “Nid yw erioed wedi bod yn fwy syml i newid, rydym yn falch bod miliynau o gwsmeriaid wedi cymryd mantais o Newid Un Cyffyrddiad  yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac ennill bargeinion gwell.”

“Er hyn, mae nifer o gwsmeriaid yn parhau i fod allan o gytundeb a gallant fod yn colli allan ar arbedion. Rydym yn annog iddynt wirio eu cytundebau, cymharu’r cynigion sydd ar gael ac os yw newid  darparwr yn rhoi’r fargen orau iddynt i  newid ac arbed.”

Sut mae Newid Un Cyffyrddiad yn gweithio?

Y peth cyntaf sydd angen gwneud ydy cysylltu gyda’r darparwr hoffwch newid iddynt, bydd y darparwr newydd yn gallu egluro'r camau nesaf y bydd angen eu dilyn a threfnu’r newid ar eich rhan.

Byddwch angen darparu rhai manylion, gan gynnwys eich cyfeiriad ac enw eich darparwr presennol. Bydd y manylion yma’n cael eu gwirio yn erbyn eu cofnodion, a bydd eich darparwr presennol yn danfon gwybodaeth atoch yn syth i'w hystyried wrth benderfynu a ddylid er mwyn i chi ddewis os ydych eisiau bwrw ymlaen gyda’r newid.

Os penderfynwch fwrw ymlaen gyda’r newid, bydd y darparwr newydd yn trefnu’r newid ar y dyddiad rydych wedi nodi lle bod hynny yn bosib yn dechnegol. Ar ddiwrnod y newid, unwaith y bydd eich gwasanaethau wedi’i gadarnhau i fod yn gweithio’n iawn, bydd y darparwr newydd yn hysbysu eich hen ddarparwr i derfynu’r gwasanaeth presennol. Ni ddylai’r darparwyr codi tâl am unrhyw ffioedd cyfnod hysbysu ar ôl y dyddiad hwn. Ni ddylai unrhyw golled o wasanaeth parhau am fwy na un diwrnod o waith yn ystod y newid.


EECC Switching 2025_OTS CYM

Arbedion i gwsmeriaid sydd allan o gytundeb

Efallai y gall nifer o gwsmeriaid leihau eu biliau trwy siopa o gwmpas a chofrestru am fargen well  – naill ai gan ddarparwr arall neu gyda’i darparwr presennol.

Mae data Ofcom yn dangos bod 36% o gwsmeriaid sy’n dewis band-eang a llinell dir sefydlog fel pecyn wedi’i chyfuno, ac roedd 32% o gwsmeriaid ar becyn wedi’i chyfuno ar gyfer band-eang, llinell dir a theledu wedi’i thalu allan o gytundeb erbyn Mehefin 2024. Roedd eu biliau 18% a 16% yn uwch na chwsmeriaid oedd mewn cytundeb[4].

Diwedd

Nodyn i Olygwyr

  1. USA Today
  2. BBC
  3. Adroddiad Tueddiadau Prisiau 2024, cyhoeddwyd Rhagfyr 2024.