
Heddiw, mae Ofcom wedi lansio ymchwiliadau i BT a Three yn dilyn toriadau yn yr haf a arweiniodd at darfu ar wasanaethau galwadau symudol ledled y DU, gan gynnwys i wasanaethau brys.
Mae'n ofynnol i weithredwyr symudol gymryd mesurau priodol a chymesur i nodi a lleihau'r risgiau a pharatoi ar gyfer digwyddiad sy'n peryglu argaeledd, perfformiad neu ymarferoldeb eu rhwydwaith neu wasanaeth.
Rhaid i ddarparwyr hefyd gymryd mesurau priodol a chymesur i atal effeithiau andwyol rhag codi. Pan fo effaith andwyol ar y rhwydwaith neu'r gwasanaeth, rhaid i'r darparwr gymryd mesurau priodol a chymesur i unioni neu liniaru'r effaith honno.
Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar gwmnïau i roi gwybod am doriadau i Ofcom uwchlaw trothwyon penodol.
Mae BT wedi hysbysu Ofcom am broblem meddalwedd a arweiniodd at darfu ledled y DU ar wasanaethau galwadau symudol sy'n rhyng-gysylltu â rhwydwaith EE ar 24 a 25 Gorffennaf 2025. Arweiniodd hyn at gwsmeriaid BT ac EE yn methu gwneud na dderbyn galwadau symudol i rwydweithiau a gwasanaethau brys eraill.
Ar wahân, mae Three wedi hysbysu Ofcom am ddigwyddiad a arweiniodd at darfu ar wasanaethau galwadau ledled y DU ar 25 Mehefin 2025, gan gynnwys gallu cwsmeriaid i gysylltu â'r gwasanaethau brys.
Bydd ein hymchwiliadau yn ceisio sefydlu'r ffeithiau sy'n ymwneud â'r digwyddiadau hyn ac asesu a oes sail resymol i gredu bod BT a Three wedi methu â chydymffurfio â'u rhwymedigaethau rheoleiddio.