
Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, yn dioddef cam-drin domestig, aflonyddu neu drais, mae’n bwysig meddwl am ddiogelwch a hygyrchedd eich gwasanaethau telegyfathrebiadau a’r costau sy’n gysylltiedig â nhw.
Os ydych yn cael eich cam-drin, gallai hyn effeithio ar eich gallu i ddefnyddio gwasanaethau telegyfathrebiadau mewn llawer o ffyrdd. Yma, rydym yn amlinellu rhai o’r pethau i gadw llygad amdanyn nhw, a sut mae cymryd camau i ddiogelu eich hun.
Rheolaeth drwy orfodaeth
Enghraifft o reolaeth drwy orfodaeth yw pan fydd y sawl sy’n cam-drin yn rheoli sut neu pryd mae cwsmer yn defnyddio ei ffôn symudol neu’n defnyddio ei ffôn symudol i’w ddynwared. Mae hyn yn drosedd a dylid rhoi gwybod i’r heddlu amdano.
Os ydych chi wedi cael eich gorfodi gan rywun i gymryd contract anaddas neu i fynd i ddyled, gallwch ofyn i’ch darparwr telegyfathrebiadau gau eich cyfrif neu ganslo eich contract. Ond, cofiwch nad oes yn rhaid iddyn nhw wneud hyn. Gallwch hefyd ofyn i’ch darparwr newid i ba gyfeiriad mae gohebiaeth yn cael ei anfon neu newid eich rhif i helpu i’ch cadw’n ddiogel rhag y sawl sy’n eich cam-drin.
Rydym yn disgwyl i gwmnïau telegyfathrebiadau drin cwsmer sy’n cael ei aflonyddu neu ei gam-drin yn deg ac yn ystyriol.
Rhwystro galwadau digroeso
Os oes rhywun yn gwneud galwadau digroeso neu'n anfon negeseuon testun digroeso atoch, gallwch rwystro'r rhif, fel arfer o'r rhestr galwadau diweddar. Fel arfer, mae hefyd yn bosibl rhwystro galwadau gan rifau nad ydynt yn cael eu datgelu. Os nad ydych chi eisiau gwneud hyn oherwydd y risg o golli galwadau dilys, gellir gosod ‘peidio â tharfu’ (do not disturb) ar lawer o ffonau symudol. A chofiwch, os yw galwr dilys yn ceisio cael gafael arnoch, bydd fel arfer yn gadael neges llais. Gallwch hefyd rwystro cysylltiadau mewn apiau negeseuon fel WhatsApp.
Diogelu eich cyfrifon ar-lein a gwybodaeth am leoliad
I atal unrhyw un rhag cael mynediad at eich gweithgarwch ar wasanaethau negeseuon neu gyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar ddyfais fel gliniadur, allgofnodwch o'ch cyfrifon ar eich holl ddyfeisiau. Efallai y bydd angen i chi allgofnodi o ddyfeisiau ac apiau sy’n defnyddio meddalwedd lleoliad, neu eu diffodd – er enghraifft tracwyr Bluetooth (gan gynnwys teils neu AirTags), oriorau clyfar, tracwyr ffitrwydd, gwasanaethau rhannu lleoliad ac apiau ‘dod o hyd i fy’. Mae rhai apiau sy’n cael eu defnyddio’n bennaf at ddibenion eraill hefyd yn gallu rhannu lleoliad, er enghraifft Snapchat a Strava.
Mae cyfarwyddiadau cam wrth gam ar sut i wneud hyn ar wefan Cymorth i Fenywod a Refuge:
- Cymorth i Fenywod: cover your tracks online
- Refuge: secure your tech
Gwneud yn siŵr bod eich cyfrifon telegyfathrebiadau yn ddiogel
Mae’r rhan fwyaf o gontractau ffôn rhwng y darparwr ac un unigolyn a enwir. Oni bai fod y bil yn cael ei reoli gan atwrneiaeth arhosol neu drydydd parti, dim ond cyfarwyddiadau gan yr unigolyn a enwir y dylai darparwyr cyfathrebiadau eu derbyn.
Neu, efallai eich bod yn rhan o gynllun teulu neu gynllun symudol a rennir, sy’n cael ei reoli gan un prif gyfrif, ond sy’n gallu cael mwy nag un rhif ffôn symudol yn gweithredu ohono. Os yw eich ffôn symudol yn rhan o gynllun teulu sy’n cael ei reoli gan y sawl sy’n cam-drin, cysylltwch â’ch darparwr symudol i gael cyngor. Efallai y bydd modd trosglwyddo eich rhif i gontract talu wrth ddefnyddio, neu dalu’n fisol, er y gallai fod angen archwiliadau credyd ar gyfer hyn.
Os cafodd cyfrif symudol y sawl sy’n cam-drin ei dynnu allan yn eich enw chi
Os ydych chi wedi prynu contract ffôn symudol talu’n fisol i rywun arall, efallai y byddwch am newid y cyfrif i enw’r unigolyn hwnnw fel nad ydych yn gyfrifol am y contract. Bydd angen i’r unigolyn gael archwiliad credyd cyn y gellir symud cyfrif i'w enw. Y rheswm am hyn yw mai nhw fydd yn gyfrifol am y taliadau.
Neu, efallai y byddwch am ddod â chontract y ffôn symudol i ben yn gynnar. Mae’n bosibl gwneud hyn, ond efallai y bydd angen i chi dalu ffi cosb i wneud hynny.
Ar gyfer y naill opsiwn neu’r llall, cysylltwch â’ch darparwr telegyfathrebiadau ac egluro eich amgylchiadau.
Os yw eich rhif ffôn symudol yn rhan o gyfrif symudol yn enw'r sawl sy'n cam-drin
Efallai y byddwch am gadw eich rhif gyda’r un darparwr drwy drosglwyddo’r cyfrif i’ch enw chi. Fodd bynnag, bydd angen i ddeiliad y cyfrif awdurdodi hyn, gan nad yw’n bosibl trosglwyddo cyfrif telegyfathrebiadau a gymerwyd gan rywun arall i’ch enw chi heb ei ganiatâd. Dim ond cyfarwyddiadau gan ddeiliad y cyfrif y gall darparwyr telegyfathrebiadau eu cymryd.
Cofiwch y bydd deiliad y cyfrif hefyd yn gallu cael gafael ar wybodaeth fel biliau manwl sy’n dangos rhifau ffôn y bobl neu’r sefydliadau rydych chi wedi bod yn eu ffonio.
Os oes cyfrif band eang/llinell dir yn eich enw chi ond eich bod wedi gadael yr eiddo oherwydd trais
Siaradwch â’ch darparwr telegyfathrebiadau – efallai y bydd yn fodlon cau’r cyfrif heb gosb yn yr amgylchiadau hyn.
Cofiwch fod rhai ffonau llinell dir yn cadw gwybodaeth am alwadau diweddar. Efallai y bydd gan y llawlyfr defnyddiwr gyfarwyddiadau ar ddileu hyn.
Ffonio llinellau cymorth
Mae galwadau i rifau 0800 am ddim ac nid ydynt yn ymddangos ar filiau manwl. Felly, os byddwch yn ffonio llinell gymorth sy’n dechrau gyda’r rhif hwn, ni fydd yr alwad yn ymddangos ar eich bil.
Llety dros dro
Os ydych chi wedi symud i lety dros dro ac nad ydych chi eisiau cael contract band eang blwyddyn neu ddwy flynedd, efallai y bydd contract symudol (sy’n gallu bod yn SIM yn unig) gyda lwfans data mawr neu ddiderfyn yn addas i chi. Mae llawer o gontractau’n caniatáu ‘clymu’ lle gall dyfais arall fel gliniadur neu dabled sydd wedi’i chysylltu â’ch ffôn symudol (er enghraifft drwy Wi-Fi neu Bluetooth) ddefnyddio’r data symudol, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen polisi eich darparwr. Mae amrywiaeth o diwtorialau ar hyn ar-lein.
Mae llwybryddion 4G a 5G hefyd ar gael i’w rhentu neu eu prynu heb gontract band eang sefydlog. Gall y rhain roi signal gwell na chlymu â ffôn symudol.
Ap Bright Sky
Mae Bright Sky yn ap symudol am ddim sy’n darparu cymorth a gwybodaeth i unrhyw un a allai fod mewn perthynas gamdriniol neu i bobl sy’n sy’n poeni am rywun maen nhw’n ei adnabod. Gallwch ddefnyddio'r ap yn Saesneg, Pwyleg, Pwnjabeg ac Wrdw