
Er mwyn diwallu’r galw cynyddol am wasanaethau cysylltedd lloeren yn y DU, mae Ofcom heddiw wedi penderfynu sicrhau bod mwy o sbectrwm ar gael ar gyfer gorsafoedd daear porth lloeren.
Mae systemau cyfathrebu lloeren yn dibynnu ar orsafoedd daear porth sy'n galluogi trosglwyddo cyfeintiau mawr o ddata rhwng y Ddaear a'r gofod, ac yna ymlaen i'r rhyngrwyd neu rwydweithiau preifat.
I hybu cysylltedd lloeren yn y DU ymhellach, rydym heddiw wedi penderfynu gwneud hyd at 10 GHz o sbectrwm yn y band Q/V ar gael ar gyfer pyrth lloeren ar draws y rhan fwyaf o dir y DU, yn bennaf mewn ardaloedd gwledig 'dwysedd isel’.
Mae hyn yn darparu capasiti ychwanegol i gefnogi twf mewn gwasanaethau lloeren ledled y DU a bydd yn galluogi mwy o bobl a busnesau i elwa o gysylltedd lloeren gwell, fel band eang lloeren gyflymach, gan gynnwys yn y rhannau mwy anghysbell o'r DU.
Cefnogi gwasanaethau lloeren yn nhrefi a dinasoedd y DU
Ar ôl ystyried ymatebion i'n hymgynghoriad ym mis Gorffennaf 2025, rydym hefyd heddiw yn cynnig agor mynediad i rai o'r amleddau band Q/V hyn ar gyfer pyrth lloeren GSO a NGSO mewn ardaloedd trefol 'dwysedd uchel', sy'n cwmpasu'r 6% o dir y DU nad ydynt wedi'u cynnwys yn ein penderfyniad ardal 'dwysedd isel'.
Dywedodd gweithredwyr lloeren wrthym y gallai fod rhai manteision penodol o leoli pyrth yn yr ardaloedd hyn. Yn unol â'n hamcan i hyrwyddo rhannu sbectrwm hyblyg, rydym wedi datblygu cynigion i helpu i alluogi seilwaith lloeren yn nhrefi a dinasoedd y DU, wrth sicrhau bod mesurau diogelu ar waith i ddiogelu defnyddwyr sbectrwm presennol.
Rydym nawr yn ceisio barn ar ein cynigion a nodir yn ein hymgynghoriad, sy'n cau ar 28 Mai 2026.
Symleiddio proses drwyddedu NGSO a chadarnhau model ffioedd
Yn dilyn ymgynghori, rydym hefyd heddiw yn cyhoeddi newidiadau i wella ein proses drwyddedu NGSO.
Mae ein dull diwygiedig yn cynnwys mesurau i gyflymu amserlenni gwneud penderfyniadau; a lleihau'r baich gweinyddol ar weithredwyr lloeren NGSO. Ni fyddwn bellach yn ymgynghori’n rheolaidd ar geisiadau am drwyddedau porth NGSO.
Ar wahân, rydym wedi cadarnhau heddiw y byddwn yn ymestyn y model Prisio Cymhelliant Gweinyddol (AIP) a ddefnyddiwn ar gyfer pyrth GSO i drwyddedau porth lloeren NGSO hefyd. Mae hyn yn adlewyrchu'r twf sylweddol yn y defnydd o NGSO yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac yn cwmpasu'r sbectrwm ychwanegol yr ydym yn ei ddarparu heddiw. Mae ein model ffioedd wedi'i gynllunio i hyrwyddo defnydd effeithlon o sbectrwm - gan annog defnyddwyr i feddwl yn ofalus am eu hanghenion sbectrwm, yn ogystal ag ysgogi'r defnyddiau gwerth uchaf.