HERO -  Beware of ‘job offer’ and missed call scams

Byddwch yn ofalus o sgamiau 'cynnig swydd' a galwadau a gollwyd

Cyhoeddwyd: 2 Hydref 2026

Gall galwadau ffôn sgam a ddefnyddir gan droseddwyr fod ar sawl ffurf - ar hyn o bryd, mae dau fath  cyffredin yn cynnwys llais awtomataidd yn honni bod ganddo gynnig swydd i chi, neu rif anhysbys yn eich ffonio am ychydig eiliadau cyn rhoi’r ffôn i lawr.

Bwriad y mathau hyn o alwadau sgam yw eich annog i ffonio’r rhif y mae'r sgamwyr yn ei ddefnyddio. Unwaith y byddant yn siarad â phobl ar y ffôn, mae troseddwyr yn ceisio neu’n rhoi pwysau i rannu gwybodaeth sensitif neu wneud taliadau i gyfrifon maen nhw'n eu rheoli. Gallech hefyd wynebu bil mawr trwy ffonio rhif cyfradd premiwm yn ddiarwybod.

Os ydych chi'n derbyn un o'r galwadau hyn, rhowch y ffôn i lawr, peidiwch â rhannu unrhyw fanylion personol, a rhowch wybod am yr alwad i 7726. 

Er bod sgamiau fel y rhain yn parhau i achosi pryder, mae nifer y bobl sy'n adrodd eu bod wedi derbyn galwad amheus yn ddiweddar wedi gostwng dros y pedair blynedd diwethaf. 

Mae gan Ofcom raglen o waith parhaus sydd gyda'r nod o fynd i'r afael â sgamiau ffôn a negeseuon symudol sgam. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn ymchwilio i bedwar darparwr telathrebu fel rhan o hyn. 

Gall ein hwb defnyddwyr helpu

Yn ddiweddar, lansiwyd ein hwb defnyddwyr ar-lein newydd - www.ofcom.org.uk/areichochr - sy'n cynnig cyfoeth o gyngor, gan gynnwys sut i ddiogelu eich hun rhag sgamiau, ochr yn ochr ag awgrymiadau arbed arian, help gyda phroblemau gwasanaeth cyffredin a llwybrau i gwyno.

Dywedodd llefarydd ar ran Ofcom: "Mae mynd i'r afael â'r broblem gymhleth hon yn galw am ddull cydgysylltiedig gan y Llywodraeth, rheoleiddwyr eraill, gorfodi'r gyfraith a’r diwydiant. Rydym eisoes wedi ei gwneud hi'n anoddach i sgamwyr ffugio rhifau llinell dir y DU, ac mae cwmnïau telathrebu yn rhwytro miliynau o alwadau sgam bob mis. 

"Ac yn ddiweddar, gwnaethom nodi ein canllawiau cryfach newydd ar gyfer cwmnïau telathrebu er mwyn atal troseddwyr dramor rhag ffonio pobl yn y DU gyda rhifau symudol ffug y DU. Rydym yn hyderus y bydd hyn yn cael effaith sylweddol a’n disgwyl i gwmnïau fuddsoddi mewn technoleg er mwyn diogelu eu cwsmeriaid."