Gweler ein hadroddiadau blynyddol blaenorol isod.
Mae 'EPG' yn sefyll am Ganllaw Rhaglenni Electornig, a elwir weithiau’n ‘ganllaw teledu’. Mae'n ddewislen ar y sgrîn sy'n dweud wrth ddefnyddwyr pa raglenni teledu sydd ar gael ar eu teledu ac yn caniatáu iddynt lywio i wahanol sianeli a rhaglenni.
Mae'n ofynnol i ddarparwyr EPGs rheoleiddiedig gynhyrchu datganiad blynyddol o'r camau y maent wedi'u cymryd ac yn bwriadu eu cymryd i hwyluso'r defnydd o'u EPGs gan bobl anabl. Mae'r Cod EPG yn nodi arferion y dylent eu dilyn.
Adroddwn yma ar hygyrchedd EPG ar 30 Tachwedd 2025, gan grynhoi i ba raddau y cynigiodd darparwyr EPG y nodweddion hygyrchedd a nodir yn y Cod EPG: ymarferoldeb 'testun i leferydd'; amlygu neu hidlo cynnwys gyda disgrifiad sain neu arwyddo; chwyddo testun; a swyddogaethau arddangos cyferbynnedd uchel. Am ragor o fanylion (gan gynnwys nodweddion hygyrchedd y tu hwnt i'r rhai sy'n ofynnol gan y Cod), gweler yr adroddiadau unigol a gyflwynwyd gan ddarparwyr EPG (dolenni isod).
Fel y nodir yn y Cod EPG, rydym bellach yn disgwyl i bob darparwr i ymdrechu’n rhesymol i sicrhau, cyn belled ag y bo'n ymarferol, bod eu EPGs yn cynnwys pob un o'r pedair nodwedd hygyrchedd. Os nad oes unrhyw un o'r nodweddion hyn ar gael, rydym yn disgwyl i ddatganiadau darparwyr esbonio sut y maent wedi gwneud ymdrech rhesymol a pham nad yw hyn wedi bod yn bosibl.
Yn ogystal ag adrodd ar argaeledd nodweddion hygyrchedd ar EPGs rheoleiddiedig, mae'r rhestr ganlynol yn adlewyrchu lle nad yw darparwyr wedi cyflwyno'r holl nodweddion gofynnol eto a'u rhesymau dros hyn.
- Mae Sky a Virgin Media yn parhau i ddarparu’r pedwar nodwedd hygyrchedd gofynnol.
- Mae Freeview (a ddarperir gan Everyone TV) yn parhau i ddarparu’r pedwar nodwedd hygyrchedd gofynnol ar y rhan fwyaf o'u dyfeisiau. Mae pob dyfais Freeview Play yn cynnwys y Canllaw Teledu Hygyrch (ar gael trwy Channel 555), ac mae cyfran y dyfeisiau Freeview cysylltiedig sy'n cynnig swyddogaeth testun-i-leferydd (TTS) wedi cynyddu i 85%, o'i gymharu ag 80% yn y flwyddyn adrodd flaenorol. Mae Everyone TV yn nodi na ellir ôl-osod y nodwedd hon ar rai dyfeisiau hŷn.
- Mae Freesat (a ddarperir gan Everyone TV) yn parhau i ddarparu tri o'r pedwar nodwedd hygyrchedd gofynnol ar ei ddyfeisiau trydedd genhedlaeth (a lansiwyd yn 2020): swyddogaethau arddangos cyferbynnedd uchel, amlygu / hidlo, a chwyddo testun. Mae'r blychau ‘set-top’ hyn yn cefnogi hidlo ar gyfer is-deitlau a disgrifiad sain. Ar hyn o bryd nid yw Freesat yn darparu nodwedd testun-i-leferydd ar unrhyw ddyfeisiau; fodd bynnag, dechreuwyd datblygu ddyfais G3 Freesat cyn i Everyone TV gaffael Freesat yn 2021, ac mae Everyone TV yn datgan bod oedran y platfform yn golygu nad yw'n ymarferol gweithredu nodwedd testun-i-leferydd. Yn ddiweddar, mae Everyone TV wedi lansio dyfais Freesat bedwaredd genhedlaeth, sydd â'r un nodweddion ynghyd â nodwedd hidlo ar gyfer rhaglenni gydag arwyddo. Nid yw'r ddarpariaeth hygyrchedd ar ddyfeisiau Freesat hŷn wedi newid, gan fod y rhyngwyneb defnyddiwr ar y rhain yn cael ei reoli gan wneuthurwyr trydydd parti.
- Mae YouView yn parhau i ddarparu dim ond dau o'r pedwar nodwedd hygyrchedd gofynnol: chwyddo testun a swyddogaethau arddangos cyferbynnedd uchel. Nid oes unrhyw ddiweddariad ers y flwyddyn adrodd flaenorol ynglŷn â darparu testun-i-leferydd, na mecanwaith i amlygu neu restru rhaglenni ar sianeli llinol sy'n cynnwys sain-ddisgrifiad (AD) neu arwyddo. Mae YouView wedi pwysleisio nad yw'n cynhyrchu nac yn dosbarthu dyfeisiau ac felly nid oes ganddo reolaeth dros y dyfeisiau. Fodd bynnag, mae ap EE TV YouView gyda BT ar gyfer Apple TV yn cefnogi’r nodwedd testun-i-leferydd Apple ac yn arddangos eiconau AD ac arwyddo ochr yn ochr â rhaglenni a amlygwyd yn y Canllaw. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae YouView hefyd wedi diweddaru rhai dyfeisiau i arddangos eiconau sy'n dynodi rhywfaint o argaeledd gwasanaeth hygyrchedd ochr yn ochr â rhaglenni a amlygwyd yn y Canllaw. Mae YouView wedi ailadrodd ei fod yn parhau i archwilio a yw'n dechnegol ac yn fasnachol ymarferol ymestyn y nodwedd hon i gynnwys eiconau arwyddo ar ei fodelau blwch pen set diweddaraf. Y llynedd, dywedasom ein bod yn disgwyl adroddiadau mwy manwl gan YouView ar sut mae wedi gwneud ymdrechion i wella hygyrchedd neu pam nad yw hyn wedi bod yn bosibl trwy ddiweddariadau neu drafodaethau gyda thrydydd parti. Rydym yn ymgysylltu ymhellach â YouView i ddeall ei waith parhaus i wella hygyrchedd a chynnydd tuag at ddarparu'r nodweddion yn y Cod EPG.
Diweddariadau pellach ar hygyrchedd
Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi cynlluniau i ddiweddaru ystyr EPG rheoleiddiedig, gan ymestyn rheoleiddio i wasanaethau mwy newydd. Yn y cyd-destun hwn, rydym yn croesawu'r camau a gymerwyd gan rai darparwyr i gyflwyno nodweddion hygyrchedd ar wasanaethau nad ydynt ar hyn o bryd wedi'u cwmpasu gan y Cod EPG, fel Freely, Sky Glass, a Sky Stream. Mae'r darparwyr hyn wedi adrodd ar ystod o welliannau hygyrchedd; fodd bynnag, mae'r gwasanaethau hyn y tu allan i gwmpas yr adroddiad hwn.
Bydd rhai gwasanaethau mwy newydd sy'n darparu canllawiau teledu o fewn cwmpas gofynion newydd o dan Ddeddf y Cyfryngau 2024 (er na fydd y gofynion yn berthnasol i unrhyw ran o'r gwasanaeth sy'n EPG rheoleiddiedig). Bydd y gofynion newydd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr rhai llwyfannau teledu cysylltiedig (y cyfeirir atynt fel gwasanaethau dewis teledu rheoleiddiedig yn Neddf y Cyfryngau 2024, neu "RTSS") sicrhau y gall pobl anabl, yn enwedig y rhai â namau ar eu golwg a/neu eu clyw, ddefnyddio RTSS at yr un dibenion â phobl nad ydynt yn anabl, cyn belled ag y bo'n ymarferol. Bydd hefyd yn ofynnol i ddarparwyr RTSS sicrhau bod defnyddwyr yn cael gwybod am, ac yn gallu gwneud defnydd o, unrhyw gymorth a ddarperir i bobl anabl mewn perthynas â gwasanaethau rhaglenni rhyngrwyd (IPS) sydd wedi'u cynnwys yn y gwasanaeth. Rydym wedi ymgynghori ar God Ymarfer arfaethedig ar sut y gall darparwyr y gwasanaethau hyn gydymffurfio â'r gofynion a'r nod o gyhoeddi'r Cod terfynol yn ddiweddarach eleni.
Cyflwynodd Ddeddf Hygyrchedd Ewrop, a ddaeth i rym ym mis Mehefin 2025, ofynion hygyrchedd tebyg i ddarparwyr EPGs a llwyfannau teledu cysylltiedig sy'n gweithredu yn y farchnad Ewropeaidd.
Mae'r mesurau hyn yn adlewyrchu datblygiad parhaus rhyngwynebau teledu a chymhlethdod cynyddol llywio a chyflwyno, a allai gyflwyno heriau i rai cynulleidfaoedd. Fodd bynnag, yn ôl Arolwg Fideo ar-alw Ofcom 2026, mae 30% o oedolion a phobl ifanc yn y DU yn adrodd eu bod yn defnyddio EPGs traddodiadol o leiaf unwaith y dydd, gyda'r ffigur hwn yn cynyddu i 57% ar gyfer defnyddio EPG o leiaf unwaith yr wythnos. Mae oedolion hŷn na 55 oed, yn benodol yn fwyaf tebygol o ddefnyddio EPG o leiaf unwaith y dydd, gyda 39% yn gwneud hynny. Mae EPGs yn parhau i fod yn rhan bwysig o'u teithiau gwylio i ddarganfod cynnwys, felly mae’n parhau i fod yn hanfodol eu bod yn hygyrch.
Datganiadau blynyddol darparwyr Amserlen Rhaglenni Electronig:
Adroddiadau hŷn
Mae Amserlen Rhaglenni Electronig (‘EPG’) yn cael ei galw’n ‘amserlen teledu’ weithiau. Mae’n ddewislen ar y sgrin sy’n dweud wrth ddefnyddwyr pa raglenni teledu sydd ar gael ar eu setiau teledu ac mae’n rhoi cyfle iddyn nhw symud rhwng gwahanol sianeli a rhaglenni.
Mae'n rhaid i ddarparwyr Amserlen Rhaglenni Electronig gynhyrchu datganiad blynyddol o'r camau maen nhw wedi'u cymryd ac yn bwriadu eu cymryd i’w gwneud yn hawdd i bobl anabl ddefnyddio'u hamserlenni. Mae’r Cod EPG yn nodi’r arferion y dylent eu dilyn.
Rydyn ni’n adrodd yma ar hygyrchedd Amserlen Rhaglenni Electronig ar 30 Tachwedd 2024, gan grynhoi i ba raddau yr oedd darparwyr Amserlen Rhaglenni Electronig yn cynnig y nodweddion hygyrchedd a nodir yn y Cod EPG: swyddogaeth ‘testun i lais’; amlygu neu hidlo cynnwys gyda disgrifiadau sain neu iaith arwyddion; chwyddo testun; a chyferbyniad uchel ar gyfer dangosydd sgrin. I gael rhagor o fanylion (gan gynnwys ar nodweddion hygyrchedd y tu hwnt i'r rhai sy'n ofynnol gan y Cod), edrychwch ar yr adroddiadau unigol a gyflwynir gan ddarparwyr Amserlen Rhaglenni Electronig (dolenni isod).
Y llynedd, dywedasom, ar ôl diwygio'r Cod EPG yn 2018, y byddem yn awr yn disgwyl i bob darparwr - fel y nodir yn y Cod EPG - fod yn gwneud ymdrechion rhesymol i sicrhau, cyn belled ag y bo'n ymarferol, fod eu Hamserlen Rhaglenni Electronig yn cynnwys y pedair nodwedd hygyrchedd. Os nad oes unrhyw rai o’r nodweddion hyn ar gael, rydyn ni’n disgwyl i ddarparwyr egluro mewn datganiadau sut maen nhw wedi gwneud ymdrechion rhesymol a pham nad yw hyn wedi bod yn ymarferol. Lle nad yw darparwyr EPG wedi cyflwyno’r holl nodweddion gofynnol eto, rydym wedi trafod y rhesymau a roesant dros hyn isod.
- Cyflwynodd Sky nodwedd chwyddo i’w EPG ym mis Gorffennaf 2024, sy’n golygu ei fod bellach yn cynnig y pedair nodwedd hygyrchedd sydd eu hangen.
- Roedd Freeview (sy’n cael ei ddarparu gan Everyone TV) a Virgin Media yn dal i gynnig yr holl nodweddion hygyrchedd angenrheidiol.
- Y llynedd, dywedodd Everyone TV fod pob un o’r dyfeisiau Freeview Play yn cynnig rhyw fersiwn o’r ‘Canllaw Teledu Hygyrch’ (ar gael drwy’r sianel 555) ac eleni mae wedi dweud bod cyfran y rhain, gan gynnwys testun i lais (TTS) wedi cynyddu i 80% (i fyny o 75% y flwyddyn adrodd ddiwethaf).
- Cyflwynodd Everyone TV nodweddion hygyrchedd newydd i Freesat y llynedd; mae’r ddyfais Freesat ddiweddaraf bellach yn cynnig tair o’r pedair nodwedd ofynnol (cyferbyniad uchel ar gyfer dangosydd sgrin, amlygu/hidlo, ac o fis Hydref 2024 ymlaen, chwyddo). Mae Freesat hefyd wedi gwella ei alluoedd amlygu/hidlo, mae defnyddwyr bellach yn gallu hidlo’r EPG i ddangos dim ond rhaglenni gydag is-deitlau, disgrifiadau sain neu’r ddau. Mae hyn yn adeiladu ar y swyddogaethau blaenorol ar ddyfeisiau Freesat hŷn lle mae gwasanaethau mynediad sydd ar gael wedi’u tagio yn nisgrifiadau’r rhaglen EPG. Nid yw hygyrchedd dyfeisiau hŷn Freesat wedi newid gan fod y rhyngwyneb defnyddiwr ar y rhain yn cael ei reoli gan wneuthurwyr trydydd parti. Er nad yw Freesat yn cynnig testun-i-lais, roedd y ddyfais ddiweddaraf ar gyfer cael mynediad at Freesat yn cael ei datblygu cyn i Everyone TV gaffael Freesat yn 2021. Ers y pryniant hwnnw, rydym yn cydnabod bod Everyone TV wedi gwneud ymdrechion i wella hygyrchedd EPG Freesat, megis cyflwyno’r broses chwyddo y llynedd.
- Ar y dyddiad adrodd, dim ond dwy o’r pedair nodwedd hygyrchedd y mae YouView yn parhau i’w cynnig ( cyferbyniad uchel ar gyfer dangosydd sgrin a chwyddo). Yn 2023, lansiodd YouView ap EETV gyda BT ar gyfer Apple TV, sydd â swyddogaeth chwyddo ac sy’n cefnogi gallu Apple i ddefnyddio testun-i-leferydd. Bydd Disgrifiadau Sain ac Eiconau Arwyddo yn ymddangos ar y sgrin pan amlygir rhaglen yn yr EPG. Mae hefyd yn disgwyl lansio swyddogaeth o ran cyferbyniad uchel ar gyfer dangosydd sgrin ar y rhaglen. Mae YouView yn cydnabod manteision posibl amlygu/hidlo i ddefnyddwyr, ac mae’n parhau i archwilio pa mor ymarferol yn dechnegol ac yn fasnachol yw cyflwyno’r swyddogaeth hon i’r modelau blwch pen set YouView diweddaraf. Roedd dyfeisiau presennol YouView wrthi’n cael eu datblygu cyn i ofynion manylach y Cod EPG ddod i rym. Er ein bod yn cydnabod ei fod wedi ymdrechu ers hynny i gynnwys y nodweddion angenrheidiol ar feddalwedd fel ei ap EETV ar Apple TV, y flwyddyn nesaf hoffem weld adroddiadau manylach gan YouView ar sut mae wedi ymdrechu i wella hygyrchedd ar ei ddyfeisiau, neu pam nad yw hyn wedi bod yn ymarferol drwy ddiweddariadau meddalwedd neu drafodaethau gyda gweithgynhyrchwyr trydydd parti.
Rydyn ni’n croesawu'r mesurau a gymerwyd gan rai darparwyr i gyflwyno nodweddion hygyrchedd mewn perthynas â gwasanaethau nad ydynt yn dod o dan y Cod EPG ar hyn o bryd (er enghraifft Freely, Sky Glass, Virgin Media Stream) ac i godi ymwybyddiaeth o nodweddion hygyrchedd (er enghraifft mae Everyone TV wedi cynnal ail ymgyrch yn ystod y cyfnod adrodd hwn i godi proffil Amserlen Teledu Hygyrch Freeview).
Er bod Amserlenni Rhaglenni Electronig yn parhau i fod yn adnodd allweddol ar gyfer cynulleidfaoedd sy'n gwylio, nid dyma'r unig ffordd y mae cynulleidfaoedd yn canfod, yn llywio, ac yn cael mynediad i deledu. Cafodd y Ddeddf Cyfryngau ei phasio yn 2024 ac mae’n cynnwys gofynion hygyrchedd mewn perthynas â rhai rhyngwynebau teledu cysylltiedig sy’n rhoi mynediad at apiau teledu ar-alw. Bydd Ofcom yn llunio Cod Ymarfer ar gyfer sut y dylai darparwyr gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio fodloni’r gofynion hygyrchedd, y bwriadwn ymgynghori arnynt yn nes ymlaen eleni. I gael rhagor o wybodaeth am y gofynion newydd hyn, edrychwch ar fap Deddf Cyfryngau Ofcom a’n hamcangyfrif o amserlenni ar gyfer gweithredu. Bydd deddfwriaeth Ewropeaidd newydd yn cyflwyno gofynion hygyrchedd ar gyfer darparwyr EPG a llwyfannau teledu wedi’u cysylltu sy’n gweithredu yn y farchnad Ewropeaidd; disgwylir i’r Ddeddf Hygyrchedd Ewropeaidd ddod i rym eleni.
Datganiadau blynyddol darparwyr Amserlen Rhaglenni Electronig:
Mae Amserlen Rhaglenni Electronig (‘EPG’) yn cael ei galw’n ‘amserlen teledu’ weithiau. Mae’n ddewislen ar y sgrin sy’n dweud wrth ddefnyddwyr pa raglenni teledu sydd ar gael ar eu setiau teledu ac mae’n rhoi cyfle iddyn nhw symud rhwng gwahanol sianeli a rhaglenni.
Mae'n rhaid i ddarparwyr Amserlen Rhaglenni Electronig gynhyrchu datganiad blynyddol o'r camau maen nhw wedi'u cymryd ac yn bwriadu eu cymryd i’w gwneud yn hawdd i bobl anabl ddefnyddio'u hamserlenni. Mae Cod EPG yn nodi arferion y dylent eu dilyn.
Rydyn ni’n adrodd yma ar hygyrchedd Amserlen Rhaglenni Electronig ar 30 Tachwedd 2023, gan grynhoi i ba raddau roedd darparwyr Amserlen Rhaglenni Electronig yn cynnig y nodweddion hygyrchedd a nodir yn y Cod EPG: swyddogaeth ‘testun i lais’; amlygu neu hidlo cynnwys gyda disgrifiadau sain neu iaith arwyddion; chwyddo testun; a chyferbyniad uchel ar gyfer dangosydd sgrin. I gael rhagor o fanylion (gan gynnwys ar nodweddion hygyrchedd y tu hwnt i'r rheini sy'n ofynnol gan y Cod), edrychwch ar yr adroddiadau unigol a gyflwynir gan ddarparwyr Amserlen Rhaglenni Electronig (dolenni isod).
- Roedd Freeview (sy’n cael ei ddarparu gan Everyone TV) a Virgin Media yn dal i gynnig yr holl nodweddion hygyrchedd angenrheidiol. Erbyn hyn, mae pob dyfais Freeview Play yn cynnig rhyw fersiwn o’r ‘Amserlen Teledu Hygyrch’ (sydd ar gael drwy sianel 555), ac mae cyfran y rhain gan gynnwys testun i lais wedi cynyddu i 75%.
- Roedd Sky yn dal i gynnig tair o’r nodweddion, gyda’r bwriad o lansio’r pedwerydd – chwyddo – ar gyfer 2024.
- Mae Freesat (a brynwyd gan Everybody TV – Digital UK gynt – yn 2021) yn llusgo y tu ôl i Freeview, gyda hygyrchedd yn dibynnu ar swyddogaethau hygyrchedd presennol dyfeisiau ar hyn o bryd. Dim ond dwy o’r nodweddion a oedd yn cael eu cynnig (hidlo/amlygu a chyferbyniad uchel ar gyfer dangosydd sgrin), ond mae Everyone TV yn bwriadu rhoi diweddariadau meddalwedd ar waith i flychau pen set Freesat G3 a fydd yn cyflwyno galluoedd ychwanegol o ran hygyrchedd.
- Ar y dyddiad adrodd, nid oedd YouView wedi gwneud unrhyw gynnydd o ran cynnig mwy na’r ddwy nodwedd hygyrchedd (chwyddo a chyferbyniad uchel ar gyfer dangosydd sgrin) a gynigiwyd yn flaenorol. Ond, ers diwedd y cyfnod adrodd, mae YouView wedi lansio ap EETV gyda BT ar gyfer Apple TV, gyda’i ganllaw llywio yn cefnogi gallu testun-i-lais Apple. Mae YouView yn cydnabod manteision posibl amlygu/hidlo i ddefnyddwyr, ac mae’n parhau i archwilio pa mor ymarferol yn dechnegol ac yn fasnachol yw cyflwyno’r swyddogaeth hon i’r modelau blwch pen set YouView diweddaraf.
Rydyn ni’n croesawu’r camau parhaus sy’n cael eu cymryd gan ddarparwyr i wneud eu Hamserlenni Rhaglenni Electronig yn fwy hygyrch. Ar ôl diwygio'r Cod EPG yn 2018, byddem yn awr yn disgwyl i bob darparwr - fel y nodir yn y Cod EPG - fod yn gwneud ymdrechion rhesymol i sicrhau, cyn belled ag y bo'n ymarferol, fod eu Hamserlen Rhaglenni Electronig yn cynnwys y pedair nodwedd hygyrchedd. Mewn adroddiadau yn y dyfodol, os nad oes unrhyw rai o’r nodweddion hyn ar gael, rydyn ni’n disgwyl i ddarparwyr egluro mewn datganiadau sut maen nhw wedi gwneud ymdrechion rhesymol a pham nad yw hyn wedi bod yn ymarferol.
Rydyn ni’n croesawu'r mesurau a gymerwyd gan rai darparwyr i gyflwyno nodweddion hygyrchedd mewn perthynas â gwasanaethau nad ydynt yn dod o dan y Cod EPG ar hyn o bryd (er enghraifft Freely, Sky Glass, Virgin Media Stream) ac i godi ymwybyddiaeth o nodweddion hygyrchedd (er enghraifft ymgyrch Everyone TV i godi proffil Amserlen Teledu Hygyrch Freeview).
Er bod Amserlenni Rhaglenni Electronig sy'n cael eu rheoleiddio yn parhau i fod yn adnodd allweddol ar gyfer cynulleidfaoedd sy'n gwylio, nid dyma'r unig ffordd y mae cynulleidfaoedd yn canfod, yn llywio, ac yn cael mynediad i deledu. Mae’r Llywodraeth yn ystyried diweddaru pa Amserlenni Rhaglenni Electronig sy’n cael eu rheoleiddio yn y DU ac mae’r Bil Cyfryngau sy’n mynd drwy’r Senedd ar hyn o bryd yn cynnwys gofynion hygyrchedd mewn perthynas â rhai rhyngwynebau teledu cysylltiedig sy’n rhoi mynediad at apiau teledu ar-alw. Byddwn yn gweithio gyda’r Llywodraeth i sicrhau bod pobl anabl yn gallu cael gafael ar gynnwys a symud rhwng y cynnwys hwnnw pa bynnag lwybr maen nhw’n ei ddewis.
Datganiadau blynyddol darparwyr Amserlen Rhaglenni Electronig:
Mae pobl sydd â namau gweledol yn gwylio cymaint o deledu â phobl eraill ond maent yn wynebu anawsterau penodol wrth ddefnyddio canllawiau rhaglenni ar setiau teledu (sy'n cael eu galw'n ganllawiau rhaglen electronig neu 'EPG') i dod o hyd i raglenni a'u gwylio.
Mae'r Cod EPG (PDF, 233.7 KB) yn nodi disgwyliad Ofcom y dylai canllawiau rhaglenni electronig gynnwys nodweddion chwyddo testun, cyferbyniad uchel, hidlo neu amlygu rhaglenni hygyrch a swyddogaethau 'testun i leferydd' fel y gall pobl anabl eu defnyddio.
Yn ein Hadroddiad Hygyrchedd EPG 2023 rydym yn adolygu'r cynnydd a wnaed gan ddarparwyr EPG wrth gynnig y nodweddion hygyrchedd hyn. Rydym hefyd yn ystyried sut mae ymddygiad cynulleidfaoedd yn newid yng ngoleuni gwasanaethau teledu newydd ac yn amlygu pwysigrwydd parhaus dylunio gwasanaethau hygyrch.
Adroddiad ar Hygyrchedd Amserlenni Rhaglenni Electronig (EPG) 2022 - 2023 - Trosolwg (PDF, 164.9 KB)
Mae'r dogfennau isod yn Saesneg.
EPG Accessibility report 2022 - 2023 (PDF, 340.3 KB)
Ofcom VoD Survey 2023 - data tables (XLSX, 35.3 MB)
Ymatebion
Mae pobl sydd â namau gweledol yn gwylio cymaint o deledu â phobl eraill ond maent yn wynebu anawsterau penodol wrth ddefnyddio canllawiau rhaglenni ar setiau teledu (sy'n cael eu galw'n ganllawiau rhaglen electronig neu 'EPG') i dod o hyd i raglenni a'u gwylio.
Mae'r Cod EPG (PDF, 233.7 KB) yn nodi disgwyliad Ofcom y dylai canllawiau rhaglenni electronig gynnwys nodweddion chwyddo testun, cyferbyniad uchel, hidlo neu amlygu rhaglenni hygyrch a swyddogaethau 'testun i leferydd' fel y gall pobl anabl eu defnyddio.
Dyma ein pedwerydd adroddiad blynyddol ers y diwygiadau i'r Cod EPG yn 2018. Rydym wedi cydnabod yn flaenorol ei fod yn cymryd amser i weithredu'r newidiadau gofynnol. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl erbyn hyn y bydd darparwyr EPG wedi gweithredu'r nodweddion gofynnol neu fod ganddynt gynlluniau pendant i wneud hynny, pan fo'n ymarferol.
Rydym yn ddiolchgar i RNIB am sefydlu grŵp ffocws eleni sydd wedi galluogi ni i ymgysylltu â defnyddwyr y nodweddion hyn a deall yn well sut y maent yn gweithio'n ymarferol ar gyfer defnyddwyr ar draws ystod o ddyfeisiau a ddefnyddir i gyrchu'r EPG (e.e. setiau teledu cysylltiedig neu flychau pen set).
Crynodeb o gynnydd
- Mae pob darparwr bellach yn cynnig sgriniau cyferbyniad uchel. Mae amlygu cynnwys hygyrch ar gael yn helaeth ond nid yw wedi cael ei weithredu eto gan YouView.
- Dim ond Digital UK sy'n darparu hidlo ar gyfer cynnwys darlledu, nodwedd sy'n cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan ddefnyddwyr â nam ar y golwg sy'n chwilio am raglenni â disgrifiadau sain.
- Bu rhywfaint o gynnydd wrth weithredu nodweddion testun i leferydd ('TTS'), sydd hefyd yn cael ei alw'n 'EPG siarad'. Mae Sky bellach yn darparu TTS ar draws yr holl flychau Sky Q ac mae Digital UK yn cynnig datrysiad blaengar sy'n defnyddio EPG ar wahân a gyrchir trwy sianel 555 ar bron pob dyfais Freeview Play. Mae darparwyr eraill yn defnyddio swyddogaethau ar wahân systemau gweithredu symudol, rhai setiau teledu clyfar (Freesat) neu integreiddio â thaclau cymorth digidol megis Amazon Alexa (YouView), nad ydynt eto'n cynnig swyddogaethau sy'n gyfwerth â TTS.
Dylai darparwyr EPG:
- gynnwys tystiolaeth fanylach yn eu hadroddiadau ar sut y maent wedi gwneud 'ymdrechion rhesymol' i roi'r nodweddion hygyrchedd gofynnol ar waith
- canolbwyntio ar weithredu swyddogaethau hidlo a TTS
- ymgysylltu â grwpiau defnyddwyr
Bydd Ofcom yn:
- parhau i ofyn i ddarparwyr EPG ddarparu gwybodaeth wirfoddol am fesurau ychwanegol y maent wedi'u cymryd i wella rhwyddineb mynediad ar draws eu rhyngwyneb i ddefnyddwyr
- cychwyn trafodaethau bord gron i hyrwyddo cydweithio a rhannu arfer gorau rhwng darparwyr EPG a rhyngddynt hwy a'u partneriaid gweithgynhyrchu.
Adroddiad ar Ganllawiau Rhaglenni Electronig 2022 - Trosolwg (PDF, 162.3 KB)
Ymatebion
Mae pobl sydd â nam ar eu golwg yn gwylio cymaint o deledu â phobl eraill ond maen nhw’n wynebu anawsterau penodol wrth ddefnyddio cyfeiryddion rhaglenni teledu (a elwir yn gyfeiryddion rhaglenni electronig neu’n EPGs) i ddewis beth maen nhw’n ei wylio. Felly, gall hyn gyfyngu’n ddiangen ar yr hyn y gallant ddewis ei wylio, ac fe allant golli’r cyfle i ddod o hyd i raglenni, a’u gwylio.
Mae'r cod EPG (PDF, 233.7 KB) (a luniwyd o dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003) yn nodi'r arferion i’w dilyn gan ddarparwyr EPG mewn perthynas â’r nodweddion a'r wybodaeth sydd eu hangen fel bod pobl ag anableddau yn gallu defnyddio’r EPGs.
Ym mis Mehefin 2018 yn dilyn ymgynghoriad (PDF, 597.5 KB), gwnaethom ddiwygiadau i’r Cod EPG (PDF, 652.8 KB) i wneud yn siŵr bod pobl sydd â nam ar eu golwg yn gallu defnyddio EPGs yn yr un modd ag y mae pobl heb anableddau o’r fath yn eu defnyddio (gweler adran A1).
Dyma ein hail adroddiad blynyddol yn dilyn y diwygiadau, ond hwn yw’r cyntaf i gynnwys cyfnod adrodd blwyddyn lawn.
Hygyrchedd Cyfeiryddion Rhaglenni Electronig (EPG) 2020 (PDF, 122.1 KB)
Rydyn ni hefyd wedi gweithio gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion i greu fideo lle mae pobl sydd â nam ar eu golwg yn rhannu eu profiadau o wylio teledu ac yn datgelu pam mae nodweddion hygyrchedd EPG mor bwysig.
Ymatebion
Mae pobl sydd â nam ar eu golwg yn gwylio cymaint o deledu â phobl eraill ond maen nhw’n wynebu anawsterau penodol wrth ddefnyddio canllawiau rhaglenni teledu (a elwir yn EPG) i ddewis beth maen nhw’n ei wylio. Felly, gall hyn gyfyngu’n ddiangen ar yr hyn y gallant ddewis ei wylio, ac fe allant golli’r cyfle i ddod o hyd i raglenni, a’u gwylio.
Mae'r cod EPG (PDF, 233.7 KB) (a luniwyd o dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003) yn nodi'r arferion i’w dilyn gan ddarparwyr EPG mewn perthynas â’r nodweddion a'r wybodaeth sydd eu hangen fel bod pobl ag anableddau yn gallu defnyddio’r EPGs.
Ym mis Mehefin 2018 yn sgil ymgynghoriad (PDF, 597.5 KB), gwnaethom ddiwygiadau i’r Cod EPG (PDF, 652.8 KB) i wneud yn siŵr bod pobl sydd â nam ar eu golwg yn gallu defnyddio EPG yn yr un modd ag y mae pobl heb anableddau o’r fath yn eu defnyddio. Erbyn hyn mae'n rhaid i ddarparwyr EPG wneud ymdrechion rhesymol, pan fo'n ymarferol, i ddarparu nodweddion penodol (chwyddo, cyferbyniad uchel, hidlo/uwcholeuo rhaglenni hygyrch, a swyddogaeth 'testun i leferydd')
Dyma ein trydydd adroddiad blynyddol ers y diwygiadau i'r Cod EPG yn 2018.
Trosolwg yr Adroddiad Hygyrchedd Canllawiau Rhaglenni Electronig (EPG) 2021 (PDF, 650.4 KB)
Ymatebion
Mae pobl sydd â nam ar eu golwg yn gwylio bron cymaint o deledu â phobl eraill[1] ond maen nhw’n wynebu anawsterau penodol wrth ddefnyddio cyfeiryddion rhaglenni teledu ar y sgrin (a elwir yn gyfeiryddion rhaglenni electronig neu’n EPGs) i gynllunio beth maen nhw eisiau ei wylio.
O ganlyniad, mae hyn yn cyfyngu’n ddiangen ar yr hyn y gall pobl sydd â nam ar eu golwg ei ddewis, ac fe allant golli’r cyfle i wylio’r rhaglenni y mae’r rhan fwyaf o bobl yn eu cymryd yn ganiataol.
Mae Deddf Cyfathrebiadau (2003)[2] yn gofyn bod cod EPG Ofcom yn gorfodi darparwyr EPG i gynnwys nodweddion o’r fath yn eu EPGs fel sy’n briodol, er mwyn galluogi pobl ag anableddau sy’n effeithio ar eu golwg neu eu clyw, hyd y gellir, i ddefnyddio’r EPGs at yr un dibenion â phobl heb anableddau o’r fath.
Dyma ein hadroddiad blynyddol cyntaf yn dilyn y diwygiadau a wnaed i’r Cod EPG ym mis Mehefin 2018.
Hygyrchedd Cyfeiryddion Rhaglenni Electronig (EPG) 2019 (PDF, 179.0 KB)
Hygyrchedd Cyfeiryddion Rhaglenni Electronig (EPG) 2019 (RTF, 250.4 KB)