Gweithredu'r Ddeddf Cyfryngau

An abstract image with hundreds of floating screens displaying TV-like content (istockphoto-1301983459)

Ein hymagwedd

Ym mis Mai 2024, derbyniodd Deddf y Cyfryngau Gydsyniad Brenhinol a daeth yn gyfraith. Y ddeddfwriaeth hon yw’r newid mwyaf i’r fframwaith cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus ers dau ddegawd. Mae’n gwneud newidiadau i gyfrifoldebau presennol Ofcom fel rheoleiddiwr cyfryngau darlledu’r DU, – gan gynnwys:

  • Diweddaru'r fframwaith rheoleiddio ar gyfer radio masnachol i sicrhau cynnwys lleol pwysig.
  • Sicrhau y gall darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y DU (‘PSB’) gyflawni rhwymedigaethau, megis cwotâu, lle bynnag y mae cynulleidfaoedd yn eu disgwyl ac nid ar deledu llinol yn unig.
  • Cyflwyno dyletswyddau newydd i sicrhau amlygrwydd i gynnwys darlledu gwasanaeth cyhoeddus a hygyrchedd radio’r DU drwy gynorthwywyr llais.

Ers cyhoeddi ein map ffordd, rydym wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â diwydiant a’r llywodraeth i baratoi ar gyfer ein dyletswyddau newydd. Bydd yr adran hon o’n gwefan yn darparu diweddariadau rheolaidd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid wrth i ni symud ymlaen â’n gwaith a gweithredu fel cartref i’r ymgynghoriadau a chyhoeddiadau eraill y byddwn yn eu cyhoeddi yn y misoedd nesaf.

Isod fe welwch y llinellau amser rydym yn gweithio tuag atynt ar hyn o bryd ar draws gwahanol rannau’r Ddeddf. Lle mae'n bosibl gwneud hynny, byddwn yn ceisio cyflymu ein hamserlen a diweddaru'r dudalen we hon yn unol â hynny.

Diweddariad diweddaraf - Chwefror 2025

Mae pedwar ymgynghoriad wedi'u cyhoeddi - darllenwch ein diweddariad diweddaraf wrth inni ddechrau gweithredu deddfau newydd o dan Ddeddf y Cyfryngau. 

Ein gwaith

Ymgynghoriad: Datganiad Polisi Comisiynu ar gyfer Cynyrchiadau Channel 4

Cyhoeddwyd: 20 Mehefin 2025

Mae’r dudalen hon yn nodi ein Canllawiau arfaethedig ar gyfer C4C i gwblhau ei Datganiad o Bolisi Comisiynu.

Ymgynghoriad: Digwyddiadau rhestredig - Gweithredu Deddf y Cyfryngau 2024

Cyhoeddwyd: 13 Mehefin 2025

This consultation sets out our proposals for defining a number of terms used in the listed events regime and for revising our Code on listed events, to implement changes made by the Media Act. We are inviting responses from stakeholders by 7 August 2025

Diweddariad ar yr Adroddiad i'r Ysgrifennydd Gwladol ar weithrediad y farchnad yn y DU ar gyfer Gwasanaethau Rhaglenni Ar-alw a Gwasanaethau Rhaglenni Ar-alw y tu allan i'r DU

Cyhoeddwyd: 3 Mehefin 2025

Mae Rhan 4 o Ddeddf y Cyfryngau 2024 yn diwygio'r drefn reoleiddio ar gyfer gwasanaethau rhaglenni ar-alw ("ODPS") o dan Ran 4A o Ddeddf Cyfathrebu 2003. Fel rhan o'n gweithrediad o'r newidiadau, ar 30 Mai 2025 fe wnaethom gyflwyno adroddiad i'r Ysgrifennydd Gwladol ar weithrediad y farchnad yn y Deyrnas Unedig ("DU") ar gyfer gwasanaethau rhaglenni ar-alw a gwasanaethau cyhoeddus y tu allan i’r DU.

Diweddariad ar weithredu’r Ddeddf Cyfryngau

Cyhoeddwyd: 16 Mai 2025

In the last month we have published four consultations, as we continue to implement the new provisions in the Media Act 2024.

Ymgynghoriad: Cynigion i ddiweddaru cwotâu darlledu gwasanaeth cyhoeddus

Cyhoeddwyd: 15 Mai 2025

Mae rhwymedigaethau cwota cynhyrchu yn cynorthwyo ac yn diogelu darpariaeth cynnwys newydd ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus yn y DU. Mae gan bob darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ('PSBs') gwotâu ar gyfer cynhyrchu cynhyrchiad gwreiddiol, rhanbarthol ac annibynnol.

Ymgynghoriad: Dynodi Gwasanaethau Dewis Radio – egwyddorion a dulliau ar gyfer argymhellion Ofcom

Cyhoeddwyd: 4 Chwefror 2025

Diweddarwyd diwethaf: 15 Mai 2025

Mae radio yn parhau i fod yn boblogaidd iawn yn y DU, gyda bron i 9 o bob 10 o bobl yn gwrando ar wasanaeth radio bob wythnos. Wrth i fwy o wrando digwydd dros y rhyngrwyd, er enghraifft trwy seinydd clyfar, mae'n bwysig y gall cynulleidfaoedd gael mynediad hawdd at radio'r DU ar-lein trwy wasanaethau sy'n cael eu hysgogi gan lais.

Datganiad: dynodi gwasanaethau dewis teledu - egwyddorion a dulliau ar gyfer argymhellion Ofcom

Cyhoeddwyd: 11 Rhagfyr 2024

Diweddarwyd diwethaf: 23 Ebrill 2025

Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn croesawu mewnbwn ar y dulliau a’r egwyddorion arfaethedig y bwriadwn eu cymhwyso yn ein hadroddiad.

Ymgynghoriad: Canllawiau ar y Datganiad Polisi Rhaglenni a’r Datganiad Polisi Cynnwys Cyfryngau

Cyhoeddwyd: 11 Chwefror 2025

Mae gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus (‘PSBs’) le unigryw yng nghymdeithas y DU. Mae eu rôl yn cynnwys darparu amrywiaeth eang o raglenni difyr a llawn gwybodaeth sy’n adlewyrchu amrywiaeth gwledydd a rhanbarthau’r DU ac sydd ar gael am ddim i bawb.

Ymgynghoriad Dynodi Gwasanaethau Rhaglenni Rhyngrwyd y Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus

Cyhoeddwyd: 11 Chwefror 2025

Ymgynghoriad: Canllawiau diwygiedig ar gyfer Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus ar Godau Ymarfer Comisiynu

Cyhoeddwyd: 27 Ionawr 2025

Mewn ymateb i fesur tryloywder newydd y Ddeddf Cyfryngau, rydym yn cynnig gwneud darpariaeth yn ein Canllawiau i sicrhau bod cynhyrchwyr annibynnol yn ymwybodol o God y darlledwr gwasanaeth cyhoeddus cyn negodi contract comisiynu gyda’r darlledwr hwnnw.

Yn ôl i'r brig