
Gyda Chwpan y Byd FIFA 2026 ychydig ddyddiau i ffwrdd, mae cefnogwyr ledled y byd yn gwneud eu trefniadau gwylio ar gyfer y 104 gêm a fydd yn cael eu chwarae yn ystod y twrnamaint eleni.
Ond gan mai UDA, Canada a Mecsico yw’r gwledydd cynnal, mae'r amserlen yn golygu byd rhai amseroedd yn eithaf anodd i wylwyr yn y DU – gyda rhai gemau yn dechrau mor hwyr â 3am a mor gynnar â 5am amser y DU.
Mae hyn yn golygu bod cefnogwyr ar yr ochr hon i'r Iwerydd yn meddwl am wahanol ffyrdd o gadw llygad – a chlust – ar y goliau, y gemau cyfartal, a'r penderfyniadau VAR dadleuol.
Erbyn hyn, mae yna gyfoeth o opsiynau gwylio a gwrando ar gael; o radio i deledu i ffrydio. Ond y cwestiwn allweddol yw – beth yw'r dull gyda'r oedi byrraf? Sut allwch chi glywed am y digwyddiadau ar y cae cyn i chi glywed eich cymydog drws nesaf yn dathlu (neu’r gwrthwyneb), neu cyn i chi dderbyn neges gan ffrind neu rybudd gôl ar eich ffôn?
O ystyried y gwahanol dechnolegau sy'n gysylltiedig â'r platfformau hyn, mae rhai ohonynt yn fwy sydyn nag eraill – ac mae gan rai oedi bach. Er enghraifft, wrth ffrydio, mae'n rhaid pecynnu'r cynnwys i'w drosglwyddo ar draws y rhyngrwyd, a rhaid cynnwys swm cymedrol o byffero, er mwyn sicrhau bod y derbynnydd wedi casglu digon o ddata fel y gall chwarae'r sain a'r fideo yn barhaus ar ôl iddo ddechrau.
Mae yna hefyd oedi yn y prosesau cynhyrchu teledu a radio, ac wrth godio'r signalau i'w hanfon i'r derbynyddion a ddefnyddir mewn gwahanol platfformau. Gall yr oedi gwirioneddol amrywio’n sylweddol, yn dibynnu ar y platfform..
Yma, rydym wedi rhestru'r dulliau mwyaf poblogaidd yn nhrefn yr oedi byrraf. Efallai y bydd hyn yn eich helpu i benderfynu sut i ddilyn y gemau?

- Mae radio AM / FM yn darlledu bron yn syth, heb unrhyw oedi amlwg.
- Mae gan radio DAB (digidol) oedi o tua dwy eiliad.
- Mae teledu darlledu, waeth a yw'n daearol, lloeren neu gebl, yn golygu oedi o rhwng pump ac 20 eiliad.
- Mae gan sain ffrydio oedi o rhwng 20 a 50 eiliad.
- A gallai fideo wedi'i ffrydio, fel iPlayer neu ITVX, gynnwys oedi o rhwng 30 a 100 eiliad.
Felly, yr opsiwn gorau i gefnogwyr sy'n gobeithio osgoi'r oedi? Mae'n edrych yn debyg mai’r radio yw eich ffrind gorau. Gyda naill ai dim oedi, neu oedi byr iawn, y ffordd gyflymaf o ddilyn y gemau yw drwy wrando ar radio AM / FM neu radio digidol.
Ac wrth gwrs, os ydych chi wir eisiau osgoi unrhyw spoilers, cofiwch ddiffodd eich ffôn neu o leiaf ei roi ar osodiad awyren...