
Ar 7 Mai, cynhelir cyfres o etholiadau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Yn Lloegr, bydd etholiadau lleol ar draws mwy na 130 o gynghorau, ynghyd ag etholiadau maerol mewn nifer fach o ardaloedd. Yn yr Alban cynhelir etholiad Senedd yr Alban i ddewis 129 o ASau, tra yng Nghymru bydd pleidleiswyr yn ethol 96 aelod i Senedd Cymru, neu'r Senedd.
Mae'r rhain yn etholiadau eang sy'n effeithio ar bobl ar draws cyfran fawr o'r DU, a bydd llawer o sylw yn y cyfryngau yn y cyfnod cyn y pleidleisiau.
Gelwir y cyfnod hwn yn gyfnod yr etholiad. Ar gyfer yr etholiadau hyn, mae'r cyfnodau etholiadol yn dechrau ar 30 Mawrth (ar gyfer Lloegr), 8 Ebrill (ar gyfer Cymru) a 9 Ebrill (ar gyfer yr Alban). Yn ystod y cyfnod hyn, mae'n bwysig bod darlledwyr yn dilyn y rheolau didueddrwydd dyledus arbennig sy'n berthnasol i'r rhaglenni maent yn eu darlledu ar y teledu a'r radio.
Yn ystod cyfnodau etholiad – boed hynny ar gyfer etholiadau lleol a chenedlaethol fel y rhain, neu Etholiad Cyffredinol – mae Ofcom, fel rheoleiddiwr darlledu'r DU, yn gyfrifol am ddwyn darlledwyr i gyfrif am ddilyn y rheolau hyn ac mae'n gweithio'n gyflym i ddelio â chwynion cynulleidfaoedd ar faterion sy'n gysylltiedig ag etholiadau.
Yma rydym yn nodi rhai o'r rheolau a'r broses rydyn ni'n eu dilyn yn ystod y cyfnod hwn.
Didueddrwydd dyledus a pham mae'n bwysig yn ystod cyfnod etholiad
Yn ystod cyfnod etholiad, rhaid rhoi pwys dyledus i bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr annibynnol ar draws darllediadau teledu a radio darlledwr.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt dderbyn lefel briodol o sylw yn seiliedig ar eu cefnogaeth etholiadol yn y gorffennol a/neu'r presennol. Rhaid i ddarlledwyr hefyd ystyried rhoi sylw priodol i bleidiau ac ymgeiswyr annibynnol sydd â barn a safbwyntiau sylweddol.
Os yw ymgeisydd gwleidyddol yn cymryd rhan mewn rhaglen am yr etholaeth y maent yn sefyll ynddi, rhaid i'r darlledwr hefyd roi'r cyfle i ymgeiswyr eraill yn yr etholaeth honno, yn seiliedig ar eu cefnogaeth etholiadol yn y gorffennol a/neu'r presennol, gymryd rhan hefyd. Ond os nad yw ymgeiswyr eraill yn gallu neu eisiau cymryd rhan, ni allant atal y rhaglen rhag mynd yn ei blaen. Er mwyn helpu i ddarlledwyr i wneud penderfyniadau golygyddol yn ystod cyfnod yr etholiad, fe wnaethom gyhoeddi crynodeb yn ddiweddar o dystiolaeth o gefnogaeth etholiadau blaenorol fel canlyniadau etholiadau a thystiolaeth o gefnogaeth gyfredol, ar ffurf arolygon barn.
Cyflymu cwynion sy'n gysylltiedig ag etholiadau
Yn ystod cyfnodau etholiadau, rydym yn gweithredu proses gyflymach gyda thîm asesu pwrpasol ar waith er mwyn sicrhau bod cwynion am sylw etholiadau yn cael eu hasesu cyn gynted â phosibl.
Mae ein Pwyllgor Etholiadau, sy’n is-bwyllgor o Fwrdd Ofcom, hefyd yn cael ei sefydlu. Mae'n cynnwys hyd at bump o bobl o Fwrdd Ofcom, y Bwrdd Cynnwys a/neu gydweithwyr Ofcom, fel y penderfynir gan Gadeirydd y Pwyllgor. Ar gyfer cwynion a dderbyniwn sy'n codi materion sylweddol a allai fod angen eu cywiro cyn yr etholiad, gall y Pwyllgor Etholiadau wneud benderfyniadau ar gwynion mewn ychydig ddyddiau.
Y BBC sy'n ymdrin â chwynion am gynnwys a ddarlledir ar y BBC yn y lle cyntaf, o dan broses BBC yn Gyntaf. Rydym yn disgwyl i'r BBC ymdrin â phob cwyn etholiad y mae'n ei derbyn yn gyflym, ac os nad yw rhywun yn hapus â sut mae'r BBC yn ymdrin â'u cwyn, gellir ei chyfeirio at Ofcom i'w hasesu.
A all gwleidyddion gyflwyno rhaglenni yn ystod etholiad?
Mae gwleidyddion sy'n cyflwyno rhaglenni teledu a radio – yn enwedig rhaglenni newyddion – yn bwnc sydd wedi creu llawer o ddadl yn ddiweddar.
Y llynedd gwnaethom ddiweddaru ein canllawiau i ddarlledwyr ar y mater hwn, sy’n adlewyrchu’r dirwedd newyddion fodern ac yn gosod rheiliau gwarchod i ddarlledwyr sy’n defnyddio gwleidyddion fel cyflwynwyr mewn rhaglenni sy’n cynnwys newyddion.
Yn ystod cyfnodau etholiadol, mae'r rheolau'n fwy llym yn y maes hwn, ac ni all ymgeiswyr weithredu fel cyflwynwyr newyddion, cyfwelwyr neu gyflwynwyr unrhyw fath o raglen. Gall gwleidyddion nad ydynt yn sefyll fel ymgeiswyr mewn etholiad yn y DU gyflwyno rhaglenni nad ydynt yn newyddion - gan gynnwys materion cyfoes - yn ystod cyfnod yr etholiad, ar yr amod bod y rhaglen yn cydymffurfio â'n rheolau Cod Darlledu, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â didueddrwydd dyledus.
Pwy sy'n penderfynu pa bleidiau sy'n ymddangos mewn dadleuon a thrafodaethau?
Nid oes gan Ofcom bwerau dros fformatau neu drefniadau dadleuon a thrafodaethau ar y teledu a'r radio. Mae'r rhain yn cael eu penderfynu gan ddarlledwyr mewn trafodaeth gyda'r pleidiau gwleidyddol. Rôl Ofcom yw ystyried, ar ôl darlledu, a yw'r darlledwyr, sydd â chyfrifoldeb golygyddol am yr hyn y maent yn ei ddarlledu, wedi cydymffurfio â'n rheolau didueddrwydd dyledus.
Fel rheoleiddiwr ôl-ddarlledu, nid yw Ofcom yn cyn-gymeradwyo, golygu nac yn gwahardd darllediadau etholiad pleidiau cyn iddynt gael eu darlledu.
Mae darlledwyr yn gyfrifol am sicrhau bod cynnwys darllediad etholiad plaid yn cydymffurfio â'r Cod Darlledu ac mae ganddynt yr hawl i'w wrthod, neu i ofyn am olygiadau. Nid yw Ofcom yn chwarae unrhyw ran yn y broses hon.
Ar ddiwrnod yr etholiad, ni chaniateir i ddarlledwyr adrodd manylion ymgyrchu na materion etholiad. Ac ni ddylen nhw gyhoeddi canlyniadau unrhyw arolygon barn – dim ond ar ôl i'r polau gau y gellir gwneud hyn.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein Nodyn i Ddarlledwyr a gyhoeddwyd yn ddiweddar.