Mae'r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) wedi sicrhau bod £900,000 ar gael dros flwyddyn ariannol 2025-2026. Oherwydd y cynnydd sylweddol, mae Ofcom wedi cytuno â'r Adran y bydd yn gweinyddu un rownd o gyllid yn hytrach na'r ddwy arferol. Disgwylir i'r ffenestr ymgeisio ar gyfer rownd 2025-26 agor ddechrau mis Medi.
Mae'r Gronfa'n cefnogi cynaliadwyedd gorsafoedd radio cymunedol sydd wedi'u trwyddedu gan Ofcom fel y nodir yn y nodiadau canllaw a gyhoeddir isod. Dylai ymgeiswyr ddarllen y nodiadau canllaw hyn yn llawn cyn cyflwyno cais.
Mae gorsafoedd radio cymunedol yn gwasanaethu amrywiaeth o gymunedau lleol ledled y DU. Yn seiliedig ar waith caled a brwdfrydedd gwirfoddolwyr, maent yn adlewyrchu cymysgedd amrywiol o ddiwylliannau a diddordebau ac yn darparu cymysgedd cyfoethog o gynnwys a gynhyrchir yn lleol yn bennaf.
Mae’r Gronfa Radio Cymunedol yn helpu i dalu am gostau craidd rhedeg gorsafoedd radio cymunedol sy’n cael eu trwyddedu gan Ofcom, gan gynnwys:
- Rheoli
- Codi arian i gefnogi’r orsaf (e.e. grantiau, cyllid masnachol)
- Gweinyddiaeth
- Rheolaeth ac adroddiadau ariannol
- Allgymorth cymunedol
- Trefnu a chefnogi gwirfoddolwyr
Mae trwyddedai sydd â thrwydded Rhaglen Sain Ddigidol Gymunedol (C-DSP) yn gymwys i wneud cais am y Gronfa os yw'r orsaf yn darlledu ar amlblecs radio digidol ar ddyddiad eu cais.
Gellir dyfarnu grantiau i orsafoedd radio cymunedol yn y DU sydd wedi’u trwyddedu gan Ofcom yn unig – ac sy’n darlledu ar AM, FM, neu drwy drwydded rhaglenni Sain Ddigidol Cymunedol ar amlblecs radio digidol. Gellir cyflwyno ceisiadau gan ddeiliaid trwyddedau cymwys yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Cronfa Radio Cymunedol: communityradiofund@ofcom.org.uk.
Ffurflen gais a nodiadau cyfarwyddyd
Ffurflen gais y Gronfa Radio Cymunedol 2024-25 (ODT, 201.2 KB)
Y Gronfa Radio Cymunedol - Nodiadau Cyfarwyddyd - 2024-25 (PDF, 276.5 KB)
Adrodd am grant
Ffurflen adrodd am grant (ODT, 23.5 KB)
Templed cytundeb grant (PDF, 203.5 KB)
Adroddiadau diwedd blwyddyn
2023 - 2024
Adroddiad Blynyddol Y Gronfa Radio Cymunedol 2023-24 (PDF, 228 KB)
2022 - 2023
Adroddiad Blynyddol Y Gronfa Radio Cymunedol 2022-23 (PDF, 187.7 KB)
2021 - 2022
Adroddiad Blynyddol Y Gronfa Radio Cymunedol 2021-22 (PDF, 156.2 KB)
2020 - 2021
Adroddiad Blynyddol y Gronfa Radio Cymunedol 2020-21 (PDF, 674.9 KB)
Cyn 2020
Mae adroddiadau diwedd blwyddyn hŷn ar gael trwy'r Archifau Cenedlaethol.
Gallwch ddod o hyd i ddyfarniadau grantiau'r gorffennol ar wefan yr Archifau Gwladol.